Bydd y rheolwr yn gyfrifol am gydlynu'r gwaith cyffredinol o reoli, cynllunio a datblygu cyfleoedd dysgu mewn sefydliad. Mae’n bosibl y bydd hefyd yn comisiynu gweithgareddau dysgu a datblygu ynghyd â chymwysterau gan ddarparwyr dysgu o'r tu allan i'r sefydliad. Mae’n bosibl y bydd yn arwain y gwaith o hyrwyddo mynediad ar gyfer sefydliadau partner ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
Nid oes angen cofrestru
Gofynion sefydlu
Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Bydd hyn yn cynnwys rheolwyr. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.
Disgwylir hefyd i bob rheolwr newydd gael copi o'r ddogfen Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.