Mae cynorthwyydd personol yn rhoi gofal a chymorth sy’n canolbwyntio ar y person i unigolion, er mwyn gallu sicrhau canlyniadau llesiant personol yn y lle y maent yn byw.
Nid oes angen cofrestru
Qualifications gained outside of Wales
Dylai gweithwyr sy’n symud i Gymru sy’n meddu ar gymhwyster a gydnabyddir gan y Department of Education (Lloegr), y Northern Ireland Social Care Council neu’r Scottish Social Services Council yn cwblhau agweddau o’r fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol sy’n berthnasol i’w rôl.
Gofynion sefydlu
Mae Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn fframwaith sefydlu newydd sydd wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Mae'n ymdrin â gofal a chymorth i oedolion, a phlant a phobl ifanc. Mae’n cynnig strwythur ar gyfer sefydlu pawb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, ac mae’n amlinellu’r wybodaeth a’r sgiliau y mae angen i weithwyr newydd eu meithrin yn ystod eu chwe mis cyntaf yn y swydd.
Byddai hyn yn berthnasol ac yn ddefnyddiol i gynorthwywyr personol. Mae’n bosibl bod y rôl neu'r lleoliad yn newydd i'r gweithwyr.