Bydd y swyddog cymorth yn cynorthwyo ac yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu, rhoi ar waith, monitro ac adolygu trefniadau comisiynu a chontractio yn unol â gweithdrefnau, polisïau a chynlluniau y cytunwyd arnynt.
Nid oes angen cofrestru
Gofynion sefydlu
Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Bydd hyn yn cynnwys rheolwyr. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.