CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ymarferydd cynorthwyol creche / gofal dydd

Nid oes angen cofrestru

Gofynion eraill

Mae’n rhaid i o leiaf 80 y cant o'r staff sydd ddim mewn rôl oruchwylio feddu ar gymhwyster lefel 2 o leiaf sydd wedi'i nodi yn y fframwaith hwn, ac sy’n briodol i'r swydd. Mae’n rhaid i o leiaf hanner o’r rhain (50 y cant) feddu ar gymhwyster lefel 3.

Mae’n bosibl y bydd angen i’r rheini sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant rheoleiddiedig, gyda phlant rhwng pump a 12 oed, gyflawni cymhwyster gwaith chwarae sydd wedi’i osod gan SkillsActive er mwyn bodloni Safonau Gofynnol Cenedlaethol a gofynion rheoleiddio.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:

Mewn lleoliadau sy'n gofalu am blant dan ddwy oed, mae’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol bod:

  • staff sy’n gofalu am fabanod yn gymwys i wneud hynny
  • o leiaf 50 y cant o'r staff sy’n gofalu am fabanod wedi cael hyfforddiant yn y maes penodol hwn
  • gan y person sy'n gyfrifol am ystafell y babanod o leiaf ddwy flynedd o brofiad o weithio gyda phlant o dan ddwy oed.

Qualifications gained outside of Wales

Dylai gweithwyr sy’n symud i Gymru sy’n meddu ar gymhwyster a gydnabyddir gan y Department of Education (Lloegr), y Northern Ireland Social Care Council neu’r Scottish Social Services Council gwblhau agweddau o Fframwaith Sefydlu Cymru gyfan ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant sy’n berthnasol i’w rôl a’r gwasanaeth.

Fodd bynnag, dylai cyflogwyr sicrhau fod unrhyw gymhwyster arall o’r DU yn cwrdd â’r meini prawf sydd wedi eu gosod yn y Fframwaith Cymwysterau cyn ei dderbyn ar gyfer cyflogaeth.

Gofynion sefydlu

Dylai ymarferwyr sy’n newydd i’r sector gofal plant a’r blynyddoedd cynnar neu’n newydd i sefydliad gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru gyfan ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant.

Dylai pob aelod o staff gael hyfforddiant sefydlu, sy’n cynnwys polisïau a gweithdrefnau amddiffyn plant ac iechyd a diogelwch, yn ystod ei wythnos gyntaf yn y swydd.