CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Rheolwr creche / person mewn rheolaeth creche / gofal dydd

Nid oes angen cofrestru

Gofynion eraill

Cyn eu penodiad, rhaid i berson â gofal (y rheolwr) feddu ar o leiaf 2 flynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad gofal dydd.

Mae’n bosibl y bydd angen i’r rheini sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant rheoleiddiedig, gyda phlant rhwng pump a 12 oed, gyflawni cymhwyster gwaith chwarae sydd wedi’i osod gan SkillsActive er mwyn bodloni Safonau Gofynnol Cenedlaethol a gofynion rheoleiddio.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:

Qualifications gained outside of Wales

Dylai gweithwyr sy’n symud i Gymru sy’n meddu ar gymhwyster a gydnabyddir gan y Department of Education (Lloegr), y Northern Ireland Social Care Council neu’r Scottish Social Services Council gwblhau agweddau o Fframwaith Sefydlu Cymru gyfan ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant sy’n berthnasol i’w rôl a’r gwasanaeth.

Fodd bynnag, dylai cyflogwyr sicrhau fod unrhyw gymhwyster arall o’r DU yn cwrdd â’r meini prawf sydd wedi eu gosod yn y Fframwaith Cymwysterau cyn ei dderbyn ar gyfer cyflogaeth.

Gofynion sefydlu

Dylai rheolwyr sy'n newydd i'r lleoliad neu'r sefydliad gwblhau rhannau perthnasol o Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer rheolwyr y blynyddoedd cynnar a gofal plant.