CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Dirprwy reolwr creche / gofal dydd

Nid oes angen cofrestru

I weithio fel Dirprwy reolwr creche / gofal dydd

  • Opsiwn 1

    • CBAC Lefel 2 Gofal Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd

    and

    • City and Guilds Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer

  • Opsiwn 2

    • CBAC Lefel 2 Gofal Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd

    a

    • CBAC Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori

  • Opsiwn 3

    • CBAC Lefel 2 Gofal Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd

    a

    • City and Guilds Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer

    a

    • City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

  • Opsiwn 4

    • CBAC Lefel 2 Gofal Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd

    a

    • CBAC Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori

    a

    • City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

  • Opsiwn 5

    Unrhyw un o'r graddau canlynol:

    • Prifysgol De Cymru: BA Addysg ac Ymarfer y Blynyddoedd Cynnar (gyda statws Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar)

    • Prifysgol De Cymru: Fd Addysg ac Ymarfer y Blynyddoedd Cynnar (gyda statws Ymarfer y Blynyddoedd Cynnar)

    • Prifysgol Metropolitan Caerdydd: BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar (EYPS) (dim ond os caiff ei ddyfarnu cyn Rhagfyr 2022)

    • Prifysgol Metropolitan Caerdydd: BA (Anrh) Addysg ac Ymarfer Proffesiynol Blynyddoedd Cynnar gyda Statws Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar (EYPS)

    • Prifysgol Glyndŵr: Fd Astudiaethau Plentyndod Cynnar (EYPS)

    • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar

    • Prifysgol Abertawe: Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar

    • Prifysgol Aberystwyth: BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar (EYPS)

    • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: Diploma AU Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar

    • Prifysgol Caerdydd: BA (Anrh) Addysg Gynnar ac Ymarferydd Proffesiynol gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (dwyieithog)

    • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg)

    • Prifysgol Abertawe: Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferwr y Blynyddoedd Cynnar gyda Blwyddyn Dramor

  • Other accepted qualifications

    Cymwysterau eraill a dderbynnir a fydd yn cael eu derbyn ar gyfer y swydd hon, os nad oes gennych y cymwysterau Cymraeg presennol:

    • Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (Rheolaeth) Cymru a Gogledd Iwerddon

    • Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (Ymarfer Uwch) Cymru a Gogledd Iwerddon

    • EDEXCEL Tystysgrif / Diploma Cenedlaethol BTEC Lefel 3 Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant - CCLD (dim ond os dechreuwyd cyn 2014)

    • Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru a Gogledd Iwerddon)

    • Diploma Lefel 3 CACHE mewn Gofal ac Addysg Plant

    • Diploma Estynedig CACHE mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant

    • NVQ 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant

    • NVQ 3 mewn Gofal ac Addysg Plant

    • NVQ 3 mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar

    • Diploma CACHE mewn Gofal ac Addysg Plant

    • Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Meithrin

    • Dyfarniad y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant i weithwyr chwarae (dyfarniadau trosiannol)

    • Tystysgrif Lefel 3 mewn Gweithio gyda Phlant

    • Diploma CACHE mewn Nyrsio Meithrin (DNN) (Gelwir yn anffurfiol yn NNEB)

    • Tystysgrif Genedlaethol mewn Blynyddoedd Cynnar

    • Diploma Cenedlaethol mewn Blynyddoedd Cynnar

    • Diploma Cenedlaethol mewn Astudiaethau Cynnar (Nyrsio Meithrinfa)

    • Tystysgrif Lefel 4 y Brifysgol Agored mewn Ymarfer y Blynyddoedd Cynnar

    • NVQ 4 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant

    • NVQ 4 mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar

    • Prifysgol Metropolitan Caerdydd: BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar (EYPS) (dim ond os caiff ei ddyfarnu cyn Rhagfyr 2022)

Gofynion eraill

Mae’n bosibl y bydd angen i’r rheini sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant rheoleiddiedig, gyda phlant rhwng pump a 12 oed, gyflawni cymhwyster gwaith chwarae sydd wedi’i osod gan SkillsActive er mwyn bodloni Safonau Gofynnol Cenedlaethol a gofynion rheoleiddio.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:

Mewn lleoliadau sy'n gofalu am blant dan ddwy oed, mae’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol bod:

  • staff sy’n gofalu am fabanod yn gymwys i wneud hynny
  • o leiaf 50 y cant o'r staff sy’n gofalu am fabanod wedi cael hyfforddiant yn y maes penodol hwn
  • gan y person sy'n gyfrifol am ystafell y babanod o leiaf ddwy flynedd o brofiad o weithio gyda phlant o dan ddwy oed.

Qualifications gained outside of Wales

Mae’r wybodaeth ganlynol yn berthnasol i chi os:

  • rydych yn gweithio, neu os hoffech weithio, fel rheolwr blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru a  
  • meddu ar gymhwyster perthnasol (o’r DU neu dramor) nad yw wedi’i restru ar y fframwaith cymhwyster na’r rhestr flaenoriaeth.  

Cymwysterau a enillwyd yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr

Cymwysterau a enillwyd cyn Rhagfyr 2026
Os ydych yn rheolwr sy'n symud i Gymru ac yn meddu ar gymhwyster (a gyflawnwyd cyn Rhagfyr 2026. Mae'r dyddiad cyflawni i'w weld ar eich tystysgrif) sy'n cael ei gydnabod gan Skills for Care (Lloegr), Northern Ireland Social Services Council neu Scottish Social Services Council dylech gwblhau agweddau o’r fframwaith sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer rheolwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant sy'n berthnasol i'ch rôl a'r lleoliad.

Proses QEA o fis Ionawr 2027
Os ydych yn rheolwr sy'n symud i Gymru ac yn meddu ar gymhwyster yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban, bydd angen i chi wirio'r [rhestr flaenoriaeth] i weld a yw eich cymhwyster yn cael ei dderbyn ai peidio yng Nghymru.

Os nad yw'r cymhwyster eisoes ar y rhestr flaenoriaeth, bydd angen i chi wneud cais i'ch cymhwyster gael ei asesu drwy'r broses Asesiad Cyfwerth â Chymhwyster (QEA). Gallwch ddarganfod mwy am y broses hon ar y dudalen we [Asesiad Cymhwyster Cyfwerth].

Cymwysterau rhyngwladol
Os ydych chi'n rheolwr sy'n symud i Gymru ac yn meddu ar gymhwyster rhyngwladol bydd angen i chi wirio'r [rhestr flaenoriaeth] i weld a yw'ch cymhwyster yn cael ei dderbyn ai peidio yng Nghymru.

Os nad yw'r cymhwyster eisoes ar y rhestr flaenoriaeth, bydd angen i chi wneud cais i'ch cymhwyster gael ei asesu drwy'r broses Asesiad Cyfwerth â Chymhwyster (QEA). Gallwch ddarganfod mwy am y broses hon ar y dudalen we [Asesiad Cymhwyster Cyfwerth].

Gofynion sefydlu

Dylai rheolwyr sy'n newydd i'r lleoliad neu'r sefydliad gwblhau rhannau perthnasol o Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer rheolwyr y blynyddoedd cynnar a gofal plant.