CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr am ffiniau proffesiynol

Mae gennym ganllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr sy’n nodi gwybodaeth bwysig am ffiniau proffesiynol:

“Mae ansawdd eich perthynas gyda’r unigolyn yn bwysig iawn. Mae’n hanfodol creu amgylchedd cynnes, caredig a chyfeillgar. Weithiau, fodd bynnag, gall yr ‘agosatrwydd’ hwn bylu’r ffiniau proffesiynol a chreu anawsterau. Mae enghreifftiau’n cynnwys pethau fel rhannu gormod o wybodaeth bersonol neu ymgymryd â thasgau y tu allan i’ch rôl.

“Dylech weithio gyda’ch rheolwr i sicrhau’r canlynol:

  • eich bod yn deall eich rôl broffesiynol a’ch terfynau
  • eich bod yn deall a chadw at bolisi eich sefydliad ar ffiniau proffesiynol
  • eich bod yn trafod unrhyw bosibilrwydd o groesi ffiniau proffesiynol.

“Rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich holl weithredoedd gydag unigolion a theuluoedd yn gwbl agored i’w trafod gyda’ch rheolwr. Mae rhai pethau’n amlwg yn torri’r ffiniau derbyniol.

“Er nad yw’n rhestr gyflawn, mae pethau annerbyniol yn cynnwys:

  • cael perthynas rywiol neu berthynas amhriodol arall gydag unigolyn
  • defnyddio eich credoau personol, er enghraifft, credoau gwleidyddol, crefyddol neu foesol, mewn ffordd sy’n ecsbloetio neu’n achosi trallod
  • benthyca gan unigolyn neu roi benthyg arian iddo
  • gweithredu mewn unrhyw ffordd sy’n niweidio unigolyn.

“Nid yw cydsyniad yr unigolyn byth yn amddiffyniad i’r pethau hyn.”

Gallwch gael gafael ar fersiwn llawn o’r canllawiau ymarfer yma