CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Canlyniad: Rydyn ni'n darparu gwasanaethau effeithiol a chynaliadwy o'r radd flaenaf

Trosolwg o’n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn yn ystod 2021 i 2022.

Pam ei fod yn bwysig

Mae gennym ni gyfrifoldeb, fel sefydliad gwasanaeth cyhoeddus Cymreig, i weithio yn unol â'r uchelgeisiau a rennir ar gyfer Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru'n Un. Mae hyn i gynnal ac adeiladu ar ymddiriedaeth a hygrededd gwasanaethau cyhoeddus Cymru drwy ansawdd y gwaith o ddarparu a llywodraethu ein busnes.

Byddwn ni’n parhau i ddangos didwylledd a thryloywder ein penderfyniadau (llywodraethu) o ran sut rydyn ni’n gweithio a sut rydyn ni’n gwario arian cyhoeddus i gyflawni ein cynllun pum mlynedd.

Ein heffaith

Cawsom adroddiadau cadarnhaol gan Archwilio Cymru a’n harchwilwyr mewnol ar ein trefniadau llywodraethu, yn ogystal ag adborth cadarnhaol gan ein Gweinidog noddi a swyddogion ar ein gwaith i gefnogi’r sector.

Fel sefydliad arweinyddiaeth cenedlaethol, mae gweithio gydag eraill yn ganolog i’r ffordd yr ydym yn gweithredu, ac mae partneriaeth wrth wraidd y gwaith o gyflawni.

Rydyn ni am sicrhau bod rhanddeiliaid allweddol yn cymryd rhan yn ein holl waith. Bydd hyn yn cynnwys ceisio ac adlewyrchu eu barn cyn gwneud penderfyniadau allweddol.

Rydyn ni’n parhau i ddefnyddio ein tystiolaeth i gefnogi Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i wella systemau ac amodau ar gyfer y sector gofal cymdeithasol. Mae rhai o'r mentrau hyn yn cynnwys;

I fod yn sefydliad effeithiol, rydyn ni’n parhau i ddefnyddio adborth i herio a siapio ein busnes, ein prosiectau a'n strategaethau.

Bydd ein gwasanaethau digidol a ffyrdd newydd o weithio yn ei gwneud yn haws i bobl ryngweithio â ni.

Tudalen nesaf

Prif dudalen yr Adroddiad effaith