CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Gweithlu sy'n cael ei gydnabod a'i werthfawrogi'n fawr

Gweithlu gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar sy'n cael ei gydnabod a'i werthfawrogi'n fawr.

Trosolwg o'n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn o'n cynllun strategol yn ystod 2022 i 2023.

Mae ein gweithlu gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar yn haeddu gwobr deg sy'n adlewyrchu eu cyfraniad hollbwysig at lesiant pobl a chymunedau.

Fel aelodau o'r Fforwm Gwaith Teg, byddwn ni’n parhau i ddylanwadu ac ymrwymo i ymgorffori Gwaith Teg a gwella amodau a thelerau'r rhai sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol.

Cydnabod a dathlu'r gweithlu

Cynhaliwyd seremoni Gwobrau, sy'n cydnabod, dathlu a rhannu enghreifftiau o ofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar rhagorol yng Nghymru, wyneb yn wyneb ar 21 Ebrill 2022 am y tro cyntaf ers 2018.

Yn 2022:

  • cawsom 76 o geisiadau ac enwebiadau, ar draws 7 categori
  • daeth 135 o westeion i'r seremoni yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd, a gafodd ei ffrydio'n fyw dros y we hefyd.
  • rhoddodd gwesteion sgôr gyfartalog o 92 y cant i'r seremoni.

‘Dweud eich dweud' – yr arolwg cyntaf o'r gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig

Erbyn diwedd mis Mawrth 2023, roedd 900 o bobl wedi ymateb i'n harolwg o'r gweithlu cyntaf Roedd yr arolwg o weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig yn gofyn cwestiynau am gyflog a chyflyrau, iechyd a llesiant, a'r hyn mae pobl yn ei hoffi am weithio ym maes gofal.

Bydd y canlyniadau'n cael eu dadansoddi a byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid i weld sut y gallwn ni a'n partneriaid ddarparu cymorth yn y ffordd orau mewn ymateb i ymatebion yr arolwg.

Cydnabyddiaeth i’r gweithlu

Mae'r cyhoedd yng Nghymru yn gwerthfawrogi'r gweithlu, gyda mwy na dwy ran o dair o'r farn eu bod nhw'n gwneud gwaith da a bron i dri chwarter â hyder ynddynt.

Roedd y canlyniadau hyn yn rhan o arolwg Omnibus a gynhaliwyd yn 2022 i 2023 ymhlith 1,000 o aelodau'r cyhoedd yng Nghymru.

Dywedodd bron i 80 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru y dylai gweithwyr gofal gael lefelau tebyg o gyflog a buddion i'r rhai sy'n gweithio yn y GIG.

Cerdyn gweithiwr gofal

Bydd fersiwn newydd y cerdyn gweithiwr gofal a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn yn cael effaith gadarnhaol ar weithwyr gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar oherwydd gallan nhw elwa ar gerdyn taliad arian-yn-ôl, yn ogystal ag ystod o gynigion manwerthu. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy ddarparwr gostyngiadau pwrpasol, Discounts for Carers.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2023, roedd gan:

  • 36,247 o weithwyr gofal cymdeithasol y cerdyn
  • 1,756 o weithwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant y cerdyn.