CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Rheoliadau - Cam 1

Mae rheoleiddiadau'n is-ddeddfwriaeth i'w defnyddio lle bo angen mwy o fanylion neu gyfarwyddiadau wrth roi Deddf ar waith.

Gwelir isod restr o reoleiddiadau a wnaethpwyd o dan Gam 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Mae dolen gan bob reoleiddiad i'w ddogfen berthnasol.

Cam 1

Roedd y cam hwn yn cynnwys rheoliadau yn ymwneud â system newydd o gofrestru a rheoleiddio’r gweithlu sy’n ofynnol gan y Ddeddf, gweithredwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru o 3 Ebrill 2017.

Darllenwch y datganiad ysgrifenedig gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a gyhoeddwyd ar 22 Tachwedd 2016 ynghylch cam cyntaf y broses o roi'r Ddeddf ar waith.

Daeth y rheoliadau isod sy’n ymwneud â’r gweithlu i rym ar 3 Ebrill 2017:

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Ehangu Ystyr “Gweithiwr Gofal Cymdeithasol”) 2016

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Rhestr o Bersonau Sydd wedi eu Tynnu Oddi ar y Gofrestr) 2016

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cynnwys y Gofrestr) 2016

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cyfansoddiad Paneli: Personau Rhagnodedig) 2016

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Achosion Gerbron Paneli) 2016

Mae’r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Achosion Gerbron Paneli) 2016 fel y gall Gofal Cymdeithasol Cymru ddefnyddio dull gorfodi ar gyfer galw tystion i ymddangos gerbron ei baneli, drwy’r Uchel Lys/Llys Sirol, yn hytrach na’r Tribiwnlys Safonau Gofal. Daethant i rym ar 3 Ebrill 2017.

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru)(Diwygio) 2018

Ymestynodd y rheoliadau hyn y gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol i gynnwys gweithwyr gofal cartref o 2 Ebrill 2018.

Cyhoeddwyd gyntaf: 5 Mai 2017
Diweddariad olaf: 9 Tachwedd 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (28.5 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch