CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Gwella bywydau drwy storïau

Rydym wrthi'n datblygu'r wefan hon ar hyn o bryd. Byddwn yn gweithio gydag eraill i ddatblygu adnoddau ymarferol a chanllawiau i'ch helpu chi i:

  • gasglu storïau eich hun, gan gynnwys cyngor ar ganiatâd
  • defnyddio'r straeon i ysgogi trafodaeth a dysgu o'u cwmpas nhw, trwy dechnegau cyfranogol
  • gwerthuso effaith y dysgu hwnnw ar eich ymarfer eich hun
  • rhannu a dathlu'r gwaith rydych chi wedi'i wneud
  • nodi a rhannu'r negeseuon allweddol o'r straeon hynny.

I gael eich diweddaru neu i gymryd rhan yn y gwaith, cysylltwch â Rebecca Cicero ar rebecca.cicero@gofalcymdeithasol.cymru

Nod yr adnodd hwn yw helpu ymarferwyr i ddysgu o brofiadau a newidiadau cadarnhaol pobl ers cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Gall straeon fod yn ffordd effeithiol o rannu sut mae’r dulliau gwahanol o weithio wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth a’r ymarferwyr sy’n gweithio gyda nhw.

Dyma bartneriaeth rhwng Gofal Cymdeithasol Cymru, Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae’r straeon ar y tudalennau hyn yn dangos enghreifftiau o arferion da sy’n gysylltiedig ag un neu fwy o brif egwyddorion y Ddeddf sef:

  • Pobl – rhoi’r unigolyn wrth wraidd popeth, trwy roi mwy o lais a rheolaeth iddo dros y gwasanaethau mae’n eu derbyn
  • Llesiant – cefnogi pobl i gyflawni eu llesiant eu hunain, gan adeiladu ar amgylchiadau, gallu, rhwydweithiau a chymunedau’r unigolyn
  • Ymyrryd yn gynt – mwy o wasanaethau ataliol. Cefnogi pobl cyn i’w hanghenion waethygu’n rhai difrifol iawn.
  • Cydweithio - sicrhau bod yr holl bartïon perthnasol yn gweithio mewn partneriaeth gryfach

Rydyn ni wedi llunio pecyn adnoddau cryno er mwyn helpu ymarferwyr i ddeall negeseuon allweddol y straeon, sut mae’r sefyllfa’n berthnasol i’r Ddeddf a chwestiynau er mwyn helpu ymarferwyr i fyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd a sut y gellir ei gymhwyso i’w gwaith eu hunain.

Rydyn ni’n awyddus i glywed a rhannu cymaint ag sy’n bosib o straeon, y da a’r drwg. Os hoffech rannu’ch stori a gweithio gyda ni, cysylltwch â rebecca.cicero@gofalcymdeithasol.cymru

Stori Debbie ac Elaine

Stori Debbie ac Elaine

Stori Alec

Stori Alec

Mwy o wybodaeth am sut i ffurfio a rhedeg Cymuned Ymholi (Saesneg yn unig). Mae hon yn sesiwn ar ffurf gweithdy sy'n cynnig gofod i grŵp o bobl i edrych ar syniadau ar y cyd a gofyn cwestiynau dwys ac ystyrlon o'i gilydd.

Adrodd storiau personol mewn ymarfer (Saesneg yn unig). Adroddiad gan IRISS (Sefydliad Ymchwil ac Arloesi mewn Gwasanaethau Cymdeithasol).