CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Trosolwg

Yr Hyb Gwybodaeth a Dysgu (yr Hyb) yw eich siop un stop ar gyfer amrywiaeth o adnoddau am ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol Cymru.

Mae’r Hyb yn cynnwys deunyddiau hyfforddiant rydym wedi'u creu a’u cyflwyno gyda phartneriaid fel rhan o raglen hyfforddiant cenedlaethol i helpu gweithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol i weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Mae'r datganiad cenedlaethol ar gydweithio a’r diagram sy’n cyd-fynd â hynny yn esbonio rolau ein partneriaid o ran cefnogi dysgu am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Rydym yn gweithio ochr yn ochr ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) i gefnogi’r dasg o weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru).

Nod y cynlluniau hyn a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw sicrhau bod y gweithlu yn hyderus ac yn meddu ar y wybodaeth i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol yn unol â chyfraith Cymru, a chyfreithiau perthnasol eraill, ac yn ymarfer yn unol ag egwyddorion y Deddfau.

Mae gwybodaeth newydd a deunyddiau dysgu yn cael eu rhoi ar yr Hyb yn rheolaidd, felly edrychwch i weld y wybodaeth ddiweddaraf.

Cyd-gynhyrchu ar waith

Mae'r Hyb a’i adnoddau yn enghraifft o gyd-gynhyrchu ar waith, gydag amryw o bartneriaid yn gweithio gyda ni i ddarparu addysg ar y Deddfau. Sefydlwyd Grŵp Cynghori Strategol i gynghori ynghylch blaenoriaethau, cynnig safbwyntiau gwahanol a helpu i roi cynlluniau prosiect ar waith.

Roedd y grŵp yn gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gadarn i ddatblygu cynllun hyfforddi i ddiwallu anghenion gweithlu amrywiol. Roedd y grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o’n sefydliad ni; Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru; Fforwm Gofal Cymru; Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC); Plant yng Nghymru; Llywodraeth Cymru; Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA); a Chydffederasiwn GIG Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf: 7 Ebrill 2017
Diweddariad olaf: 9 Tachwedd 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (28.0 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch