CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Trosolwg ac Ymwybyddiaeth

Pecyn cyflwyniad ac ymwybyddiaeth

Mae’r pecyn hwn, gyda’r cyflwyniad sy’n cyd-fynd ag e, yn cyflwyno’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac yn codi ymwybyddiaeth o’r hyn mae’n ei olygu i bobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol. Mae’n tynnu ar ystod o ddeunyddiau a ddatblygwyd ledled Cymru ac yn addas i gefnogi gweithdy dwy-tair awr. Ei nod yw rhoi trosolwg o’r Ddeddf, braenaru’r tir ar gyfer gweithredu’r ddeddfwriaeth a gosod cynsail i hyfforddiant mwy manwl ac arbenigol i’r rheiny sydd ei angen.

Bydd yn helpu codi ymwybyddiaeth o gefndir y Ddeddf a’r rhannau a nodweddion gwahanol. Bydd hefyd yn rhoi gwerthfawrogiad o’r gwahaniaethau allweddol ym mhwyslais y dyfodol ar ofal a chymorth, yn ogystal â nodi newidiadau i ymarfer ac unrhyw hyfforddiant ychwanegol allai fod ei angen. Mae'r pecyn ar gael mewn fersiynau PDF a Word er mwyn ei wneud yn haws i'w ddefnyddio.

Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae hon yn fideo gan Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn annerch pobl sy’n cymryd rhan yn y gweithdai cyflwyno ac ymwybyddiaeth ac yn siarad am y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a’i goblygiadau.

Creu newid: canllaw e-adnodd i’r newidiadau sy’n cael eu gorfod gan y ddeddf

Er mwyn cefnogi’r awdurdodau lleol, iechyd a phartneriaid allweddol i ddeall pa ddyletswyddau newydd fydd yn ofynnol gan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), datblygodd yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (SSIA) adnodd deinameg i aelodau etholedig a swyddogion sy’n gyfrifol am weithredu newid.

Mae’r adnodd hwn yn: mynegi’r weledigaeth newydd tu ô i’r Ddeddf; disgrifio’r ymddygiadau ar draws y sustem i gyd fydd yn cyflawni’r weledigaeth honno; a gwneud hyn mewn modd fydd yn galluogi arweinwyr y sector i gynlluniau’r camau i fewnosod yr ymddygiadau hyn.

Bydd yr e-adnodd Creu newid - canllaw e-adnodd i’r newidiadau sy’n ofynnol gan y Ddeddf yn datblygu dros amser ac yn adlewyrchu trafodaethau parhaus gyda chyd-weithwyr mewn llywodraeth leol ynghylch y newidiadau hyn.

Mae'r hyn sy'n bwysig i chi yn bwysig i ni, hefyd

Mae'r ffilm animeiddio fyr hon yn edrych ar y Ddeddf a'i effaith ar bobl sy'n defnyddio gwasanaethau. Datblygodd yr Asiantaeth Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol y ffilm ochr yn ochr â'r Cyngor Gofal a phartneriaid eraill, a gellir ei ddefnyddio gydag aelodau o'r cyhoedd a'r gweithlu.

Gosod y 'Weledigaeth Newydd' a gynigir o dan y ddeddf

Mae hon yn ffilm gan y Sefydliad Economeg Newydd, sy'n trafod profiad unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau ac yn esbonio'r weledigaeth o gryfhau llais a rheolaeth y dinesydd sy'n tanlinellu'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).