CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
​Gofalwyr a'r Ddeddf

Trosolwg

Am y tro cyntaf, mae’r Ddeddf yn rhoi’r un hawliau i ofalwyr â’r rhai hynny maent yn gofalu amdanynt ac fel y cyfryw cyfeirir atynt drwy gydol y Ddeddf.

Datblygwyd yr adnoddau hyn gan Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Maent yn cynnwys modiwl hyfforddi, crynodeb o’r negeseuon allweddol, ac astudiaethau achos, sydd yn rhoi trosolwg o agweddau allweddol y Ddeddf mewn perthynas â gofalwyr di-dâl.

Mae Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru hefyd wedi datblygu Pecyn Adnoddau i Ofalwyr, yn darparu ystod o adnoddau gwybodaeth ddefnyddiol i ofalwyr di-dâl yng Nghymru gan gynnwys ffeithluniau a briffiau, ymchwil, a phecyn cymorth ac arweiniad

Astudiaethau achos

Pedair astudiaeth achos byr yn disgrifio sefyllfaoedd beunyddiol gofalwyr di-dâl.

Pecyn adnoddau i ofalwyr – ffeithluniau a briffiau

Isod, gallwch ddod o hyd i 14 o ffeithluniau a briffiau ar bynciau sy'n berthnasol i ofalu o dan y Ddeddf. Mae'r rhan fwyaf o'r dogfennau isod mewn Saesneg yn unig.

Pecyn adnoddau i ofalwyr – ymchwil

Mae'r pum ddogfen isod yn cyflwyno ymchwil wedi'i chomisiynu gan Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.

Pecyn adnoddau i ofalwyr – pecynnau cymorth ac arweiniad

Isod, gallwch ddod o hyd i'r pecynnau cymorth ac arweiniad am weithio gyda gofalwyr.