CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
​Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Adnoddau i arweinwyr

Set o adnoddau y gellir eu defnyddio gan arweinwyr strategol, rheolwyr a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i'w helpu i ddeall eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a rhoi'r Ddeddf honno ar waith hyd eithaf eu gallu yn eu sefydliadau a'u cymunedau.

Gweithdai datblygu'r sefydliad i reolwyr

Lluniwyd y gweithdai hyn i helpu rheolwyr sydd â chyfrifoldeb dros gynllunio strategol ar gyfer cyflenwi darpar wasanaethau sy’n diwallu gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac yn benodol yn cyfrannu at Ganlyniadau Llesiant Cenedlaethol. Mae yna dau weithdy, a luniwyd fel hanner diwrnod o weithgaredd datblygu – newid meddylfryd a mesur cynnydd.

Cafodd y modiwl hyfforddi a’r canllaw hwn eu hysgrifennu ar gyfer y rhai sy’n cynnal gweithdai ac mae’n cynnwys ymarferion, awgrymiadau ar gyfer trafodaethau grŵp a phwyntiau i’w hystyried, y gall y trefnwyr eu defnyddio naill ai yn eu cyfanrwydd neu ddewis a dethol yn ôl yr angen wrth deilwra’r gweithdai ar gyfer cyfranogwyr penodol.