CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Technoleg i helpu yn y cartref

Dysgwch sut y gall technoleg gynorthwyol alluogi pobl i fyw’n fwy annibynnol yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain.

Beth yw technoleg gynorthwyol?

Mae sawl ffurf ar dechnoleg gynorthwyol ond yn syml yr hyn ydyw yw darn o gyfarpar neu dechnoleg â’r bwriad o wneud yn iawn am symptomau rhywun sy’n dioddef o ddementia, cynyddu ei ddiogelwch neu wella ansawdd ei fywyd.

Er enghraifft, gall technoleg gynorthwyol a theleofal helpu person i ddeall os yw’n nos neu’n ddydd drwy gloc nos/dydd, neu ddod o hyd i eitem goll.

Gall technoleg gynorthwyol sefyll ar ei phen ei hun, fel ffordd o atgoffa rhywun i gymryd meddyginiaethau, neu’n rhan o system teleofal, er enghraifft darganfyddwr llifogydd.

Mae’r potensial sydd gan dechnoleg gynorthwyol i gynorthwyo pobl sy’n dioddef o ddementia yn anferth ac yn aml ni chaiff ei ddefnyddio ddigon.

Gall dawelu meddwl gofalwyr yn y teulu drwy eu hysbysu os yw eu perthynas yn codi yn ystod y nos, er enghraifft.

Mae modd cysylltu technoleg. Er enghraifft, gall synhwyrydd gwely weithredu os yw person yn dod allan o’r gwely, sydd nid yn unig yn hysbysu’r gofalwr ond ar yr un pryd yn goleuo’r lamp wrth ochr y gwely fel y gall y person weld ble maen nhw’n mynd.

Monitro pobl er mwyn eu diogelwch

Mae systemau ‘monitro ffordd o fyw’ ar gael sy’n defnyddio synwyryddion symud er mwyn trosglwyddo gwybodaeth o bell i gynorthwyo gweithwyr neu deulu a ffrindiau.

Mae ‘Technolegau Cerdded Diogel’ ar gael yn eang ac mae modd iddyn nhw helpu i Ieoli rhywun pan fyddan nhw ar hyd y lle.

Gall y rhain roi mwy o hyder i’r sawl sy’n dioddef o ddementia i barhau i wneud y pethau y maent wedi eu gwneud erioed, o wybod bod cymorth ar gael os oes ei angen.

Fel unrhyw dechnoleg, mae’n fater o ddod o hyd i’r peth iawn ar gyfer y person iawn.

Beth sydd orau i’r person

Mae’n rhaid i’r person sy’n byw gyda dementia fod yn rhan o benderfyniadau ynglŷn â defnyddio unrhyw un o’r technolegau hyn.

Os oes unrhyw amheuaeth am alluedd y person i gytuno i ddefnyddio technoleg gynorthwyol, bydd y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn berthnasol.

Caiff asesiad galluedd ei gwblhau ac yn achos yr unigolion hynny y teimlir eu bod yn ddiffygiol o ran galluedd, gwneir penderfyniadau er budd iddynt.

Nid technoleg gynorthwyol yw’r ateb i bopeth ac ni fydd yn addas ar gyfer pawb.

Bydd rhai o bosibl yn methu dod ymlaen â’r nodiadau i’w hatgoffa i gymryd meddyginiaethau er enghraifft neu efallai y byddant nhw’n cael eu haflonyddu gan larymau neu leisiau atgoffa.

Asesu da yw’r allwedd.

Nid yw technoleg gynorthwyol yn well na chyswllt â phobl

Ni fydd technoleg gynorthwyol fyth yn gallu cymryd lle cyswllt â phobl, sy’n hanfodol i bobl sy’n byw gyda dementia.

Ond pam gaiff ei defnyddio mewn ffordd alluog, gall leihau straen i’r person sy’n dioddef o ddementia a’r rheini o’u cwmpas.

Mae technoleg yn newid o hyd. Yn sgîl y ffaith bod ffonau clyfar a llechi electronig yn cael eu defnyddio o hyd, mae technoleg yn cysylltu pobl dros y byd drwy Skype, Face Time a WhatsApp.

Mae’n rhoi cyfleoedd i ni gyd chwarae gemau, gwneud posau croeseiriau, gwneud gwaith ymchwil neu edrych ar hen luniau a hel atgofion.

Oherwydd bod apiau a chyfarpar newydd yn cael eu datblygu, nid yw’r potensial llawn wedi ei gyrraedd eto.

Adnoddau defnyddiol

Dolenni ymchwil

Gwellwch eich ymarfer drwy ddefnyddio'r canlyniadau ymchwil diweddaraf.

Llyfrgell technoleg cof - profi technoleg cynorthwyol gyda phobl gyda phroblemau cofio (Saesneg yn unig)

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg byr pedair cwestiwn.