CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Parchu dewisiadau pobl

Rydym i gyd yn hoffi cadw at drefn arbennig ac mae gan bawb eu hoff a chas bethau a’n arferion a’n ffyrdd ein hunain o wneud pethau. Mae’n bwysig ein bod yn adnabod ac yn parchu dymuniadau pobl yn hytrach na rhagdybio ein bod yn gwybod pethau.

Nid yw’r un ateb yn addas i bawb

Meddyliwch amdanoch chi eich hun:

  • faint o’r gloch fyddwch chi’n deffro fel arfer?
  • beth yw’r peth cyntaf y byddwch chi’n ei wneud yn y bore?
  • ydych chi’n ymolchi ac yn gwisgo cyn mynd i lawr y grisiau neu ydych chi angen paned cyn hyd yn oed meddwl am ymolchi?
  • pryd ydych chi’n glanhau eich dannedd?
  • bath neu gawod sydd orau gennych chi?
  • ym mha drefn ydych chi’n gwneud pethau yn y gawod? Gwallt gyntaf neu gorff gyntaf?
  • ydych chi’n defnyddio cynnyrch penodol neu a ydych chi’n fodlon defnyddio unrhyw beth
  • ydych chi’n defnyddio sbwng neu gadach?
  • ydych chi’n cael eich dillad yn barod y noswaith cynt neu a ydych chi’n gwisgo beth bynnag sy’n gyfleus yn y bore?
  • pryd ydych chi’n cael brecwast?
  • beth ydych chi’n ei gael fel arfer? Neu nid ydych yn bwyta brecwast.

Sut ydych chi’n teimlo os nad ydych chi’n gallu dilyn eich trefn arferol?

Rydym angen gwybod cymaint o fanylion â phosibl am batrwm beunyddiol y person â dementia, er mwyn inni gael dilyn eu ffyrdd nhw o wneud pethau, nid gwneud pethau fel rydym yn eu gwneud ein hunain.

Cyfathrebu di-eiriau

Mae llawer o’r pethau rydym ni’n eu gwneud bob dydd yn cael eu gwneud yn reddfol heb i ni feddwl ddwywaith.

Rydym yn gwneud pethau gan ddefnyddio ein cof trefniadol: ein cof o sut i wneud pethau.

Gall pobl â dementia ddefnyddio eu cof trefniadol i wneud pethau bob dydd, gyda rhywfaint o gymorth i ddechrau o bosibl.

Yn aml, rydym yn gorfod egluro popeth rydym yn ei wneud i bobl. I rai, bydd hyn yn ei gwneud yn anoddach gan eu bod yn gorfod defnyddio gwahanol rannau o’r ymennydd i ddeall y gair llafar a chyfieithu hynny’n weithredu.

Mae cyfathrebu di-eiriau’n fwy effeithiol yn aml ac yn galluogi pobl i fod yn fwy annibynnol am gyfnod hirach.

Dod i wybod beth yw dymuniadau pobl

Bydd gan bawb eu ddewisiadau ei hun o ran bwyd a diod. Bwydydd maen nhw’n hoff iawn ohonynt a bwydydd maen nhw’n eu casáu.

Efallai eu bod yn hoffi bwyta ychydig ac yn aml neu’n mwynhau prif bryd amser cinio. Bydd rhai am eistedd wrth fwrdd, ac mae’n well gan eraill fwyta gyda hambwrdd ar eu gliniau.

Mae rhai yn hoffi cadw’n brysur, ac mae’n well gan eraill dipyn o dawelwch. Mae rhai yn codi’n gynnar ac yn mynd i’r gwely’n gynnar, mae eraill yn adar y nos.

Mae dymuniadau personol yn dylanwadu ar bawb ohonom, gyda dementia neu hebddo. A’r mwyaf y gwyddwn am ddymuniadau person, yr agosaf y gallwn sicrhau bod ein cefnogaeth yn cyfateb i’w dymuniadau a’u hanghenion.

Nid yw’r un ateb yn addas i bawb.

Astudiaeth achos am barchu blaenoriaethau pobl i'ch helpu chi i wella eich ymarfer

Adnoddau defnyddiol

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg byr pedair cwestiwn.