CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Gwella canlyniadau ar gyfer plant sydd eisoes yn byw mewn gofal
Share

Dysgwch fwy am yr hyn mae'r Grŵp Ymgynghorol i'r Gweinidog yn ei wneud i wella canlyniadau ar gyfer plant sydd eisoes yn byw mewn gofal

Beth yw'r heriau i blant sy'n byw mewn gofal?

Rydym yn gwybod bod pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn llai tebygol o gyflawni cymwysterau addysgol da ac yn fwy tebygol:

  • o fod â rhagor o anghenion iechyd, llesiant a thai fel oedolion
  • o ymwneud â chamddefnyddio sylweddau
  • o fod ag anabledd neu gael diagnosis o anawsterau meddyliol, emosiynol neu ymddygiadol
  • o gael cyswllt â'r system cyfiawnder troseddol.

Dadansoddiad canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc 4 - 5 mlynedd ar ôl gorchymyn gofal terfyno (Saesneg yn unig)

Fel rhieni corfforaethol plant sy'n derbyn gofal, cyfrifoldeb awdurdod lleol yw eu cadw'n ddiogel, sicrhau bod eu profiadau mewn gofal yn gadarnhaol, a gwella eu mynediad at gyfleoedd a fydd yn eu helpu i lwyddo mewn bywyd.

Beth mae'r rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant yn ei wneud i gynorthwyo plant sy'n byw mewn gofal?

Mae ymchwil yr IPC uchod yn dangos bod gan 71 y cant o blant yn ei sampl ganlyniadau cadarnhaol cyffredinol bedair i bum mlynedd ar ôl gorchymyn gofal terfynol.

Cafodd y plant hyn leoliadau sefydlog ac addysg dda.

Fodd bynnag, roedd angen cymorth ar lawer o'u plant hyn gyda'u haddysg, eu hiechyd a'u llesiant.

Nod y strategaeth addysg a gwasanaethau cymdeithasol ar y cyd dros gyfnod o dair blynedd, Cynyddu uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru, yw cryfhau trefniadau i ategu addysg plant sy'n derbyn gofal drwy sicrhau gwell dealltwriaeth o'r rhwystrau sy'n wynebu plant sy'n derbyn gofal fel dysgwyr mewn addysg a sut gall gwasanaethau cymdeithasol ac addysg weithio gyda'i gilydd i gyflawni canlyniadau gwell.

Bydd y Grant Datblygu Disgyblion yn parhau am weddill tymor y Cynulliad hwn.

Drwy'r trefniadau grant hyn, mae consortia addysg ranbarthol yn cael £4 miliwn y flwyddyn i ddarparu cymorth addysgol i blant sy'n derbyn gofal.

O ganlyniad, mae gennym lawer mwy o ddealltwriaeth o'r rhwystrau sy'n wynebu'r dysgwyr hyn a ffyrdd effeithiol y gellir cael gwared ar y rhwystrau hynny, er enghraifft

Beth sy'n gweithio i wella canlyniadau addysg ar gyfer plant sydd mewn angen cymorth ac amddiffyn? Adolygiad llenyddiaeth (Saesneg yn unig).

Helpu plant sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod

Yn rhannol oherwydd profiadau ar ddechrau eu bywyd, mae plant sydd â phrofiad o ofal yn fwy tebygol o brofi iechyd meddwl ac emosiynol gwael.

Gall darparu'r lefel gywir o gymorth, gan gynnwys cymorth therapiwtig, leihau'r trawma emosiynol a achosir gan effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ac anfanteision eraill.

Fel rhan o gynlluniau peilotiaid iechyd meddwl mewn ysgolion, rydym ar hyn o bryd yn archwilio sut gellir mynd i'r afael ag anghenion plant sy'n agored i niwed (gan gynnwys y rhai sy'n derbyn gofal).

Cyfrannodd Llywodraeth Cymru £400,000 eleni tuag at Hwb Cymorth ACE.

Yn ogystal, mae'n buddsoddi £2.5 miliwn i ddatblygu gwasanaethau cymorth mabwysiadu sy'n helpu plant mabwysiedig sydd angen math o gymorth emosiynol ond na fydd angen y gwasanaeth arbenigol a ddarperir gan CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed) o bosibl.

Ymhlith y dogfennau perthnasol mae Cadernid Meddwl: cefnogaeth ym maes iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc a Gwrando. Gweithredu. Ffynnu: Iechyd meddwl ac emosiynol plant a phobl ifanc sydd wedi derbyn gofal (Saesng yn unig).

Cynorthwyo plant yn y sustem cyfiawnder troseddol

Mae In Care, Out of Trouble yn ganlyniad adolygiad annibynnol dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Laming sy'n archwilio'r rhesymau dros (a’r ffordd orau o fynd i'r afael â) gor-gynrychiolaeth plant mewn gofal, neu sydd â phrofiad o ofal, yn y system cyfiawnder troseddol.

Mewn ymateb, cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal ac sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid ym mis Awst 2017.

Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen i fonitro'r cyflenwad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio Cynllun Gweithredu Cymru mewn ymateb i'r adolygiad annibynnol In Care, Out of Trouble ynghylch y ffordd orau o fynd i'r afael â gor-gynrychiolaeth plant sydd â phrofiad o ofal yn y system cyfiawnder troseddol.

Darparu'r lleoliadau a'r cymorth sydd eu hangen ar blant a phobl ifanc

Mae lleoliadau sefydlog yn hanfodol i roi ymdeimlad o berthyn a diogelwch i blant mewn gofal - un o'r ffactorau allweddol o ran cyfleoedd bywyd gwell a chyrhaeddiad addysgol.

I blant sydd eisoes mewn gofal, mae hyn yn golygu gwneud pob ymdrech i ail-uno teuluoedd pan fo hynny'n briodol, er budd y plentyn a phan fydd yn ddiogel gwneud hynny.

Mae bron i dri chwarter y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru yn cael eu lleoli gyda gofalwyr maeth, ac yn ystod y 15 mlynedd diwethaf mae'r nifer sy’n cael eu lleoli gyda gofalwyr sy'n berthnasau bron wedi dyblu.

Fodd bynnag, wrth i nifer y plant sy'n derbyn gofal gynyddu, mae’r defnydd o asiantaethau maethu annibynnol a lleoliadau allan o'r sir wedi cynyddu.

Mae tystiolaeth gref ei bod yn dod yn anoddach paru plant â lleoliadau priodol ar draws yr amrywiaeth o ddewisiadau fel maethu, mabwysiadu a gofal preswyl.

Mae'r ymagwedd strategol gyffredinol sydd ei hangen wedi ei nodi yng nghanllawiau NICE:

Adroddiad mewnwelediad 2017 - Plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal (Saesneg yn unig)

Yng Nghymru, mae gwaith yn cael ei wneud i wella digonolrwydd, dewis ac ansawdd lleoliadau drwy arferion comisiynu a gweithio rhanbarthol gwell, er mwyn sicrhau'r lleoliadau priodol yn y mannau priodol.

Mae’r CGC yn:

  • casglu tystiolaeth o bwysau ar argaeledd lleoliadau awdurdodau lleol a pham mae cost uchel ynghlwm
  • defnyddio'r dystiolaeth hon i lywio ymagwedd genedlaethol at gomisiynu lleoliadau ar draws y sectorau cyhoeddus ac annibynnol
  • canolbwyntio'n gynyddol ar wasanaethau plant (gan gynnwys lleoliadau i blant sy’n derbyn gofal) yng ngwaith y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol a Byrddau Rhaglenni Rhanbarthol.

Mae'r CGC hefyd wedi ariannu'r Safonau ymarfer a chanllawiau arferion da ar gyfer ymwelwyr annibynnol.

Rôl awdurdodau lleol wrth gynorthwyo plant i aros mewn lleoliadau diogel a sefydlog

Mae llywodraeth leol a llywodraeth ganolog yng Nghymru wedi buddsoddi mewn mentrau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i wella’r dewis o leoliadau, eu hansawdd a’u sefydlogrwydd.

Mae hyn yn cynnwys y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a’r Fframwaith Maethu Cenedlaethol (Saesneg yn unig).

Mae'r CGC hefyd wedi comisiynu proffil o ofal preswyl plant yng Nghymru a'i wahanol fodelau, Gofal preswyl yng Nghymru: nodweddion plant a phobl ifanc sy'n cael eu rhoi mewn lleoliadau preswyl (Saesneg yn unig)

Mae'r CGC hefyd wedi comisiynu gwaith ar wella'r ffordd o gasglu data, modelau gofal preswyl, lleoliadau y tu allan i'r ardal / trawsffiniol, a lleoliadau ar remánd/Pace.

Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ymchwilio i weld a yw gwariant cyhoeddus ar y gwasanaethau hyn yn arwain at ganlyniadau da ac yn cynrychioli gwerth am arian

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: plant a phobl ifanc sy' wedi derbyn gofal

Ymateb Llywodraeth Cymru 2019

Yr hyn rydym yn ei wybod yn barod yw bod adrannau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru wedi gwario £284 miliwn ar blant sy'n derbyn gofal yn 2017-18. Mae hyn yn cymharu â £147 miliwn a wariwyd ddeng mlynedd ynghynt. Mae hyn yn adlewyrchu'r niferoedd cynyddol o blant sy'n derbyn gofal a dyletswyddau cyfreithiol awdurdodau lleol. Nid yw hyn yn cynnwys gwariant cyhoeddus arall fel ym maes iechyd ac addysg.

Mae'r CGC yn dysgu gwersi gan wledydd eraill. Er enghraifft, mae'r Rhwydwaith Maethu (mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol Cwm Taf a Bwrdd Partneriaeth Llesiant Cwm Taf) yn arwain ar brosiect addysgeg gymdeithasol.

Mae'r ymagwedd arloesol hon yn helpu pawb sy'n ymwneud â bywydau plant a phobl ifanc sy'n cael eu maethu i ddeall ac ymateb i ddatblygu sgiliau bywyd ac addysg mewn ffordd gyfannol.

Pan fydd plentyn neu unigolyn ifanc yn ‘derbyn gofal’ gan ei awdurdod lleol ac yn cael ei leoli:

  • gyda gofalwr sy'n berthynas (aelod o'r teulu neu ffrind agos)
  • gofalwr maeth
  • cartref preswyl
  • gartref gyda rhieni
  • mabwysiadwyd

rhaid bod gan y plentyn neu unigolyn ifanc ‘swyddog adolygu annibynnol’ (IRO).

Mae'r IRO yn annibynnol ar weithiwr cymdeithasol y plentyn neu'r unigolyn ifanc ac mae ganddo gyfrifoldebau penodol a nodir yng nghyfraith Cymru sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.

Mae Cymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru wedi llunio safonau ymarfer a chanllaw arfer da sydd wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r rhain yn nodi sut dylai'r IRO fonitro, adolygu ac ategu cynllun gofal a chymorth y plentyn neu'r unigolyn ifanc.

Mae hefyd yn nodi cyfrifoldebau’r awdurdod lleol i sicrhau y gall yr IRO gyflawni ei waith (Safonau Ymarfer a Chanllaw Arfer Da: Adolygu a monitro Cynllun Gofal a Chymorth Rhan 6 plentyn neu berson ifanc, AFA Cymru, 2019)