CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Gweithio gyda phlant anabl

Dysgwch fwy am sut y gallwch gefnogi'n well y plant anabl rydych chi'n gofalu amdanynt

Mathau o ofal ar gyfer plant anabl

Mae gwahanol fathau o ofal preswyl ar gyfer plant anabl:

  • Gofal preswyl tymor hir yng nghartref y plentyn lle bydd yn byw drwy’r flwyddyn
  • Ysgolion preswyl i blant anabl, lle gall y plentyn fyw yn ystod y tymor neu rhwng dydd Llun a dydd Gwener a dychwelyd i’w gartref yn y gwyliau ysgol ac ar benwythnosau
  • Cartrefi preswyl seibiant byr i roi seibiant i blant a theuluoedd tra byddant yn darparu gofal o ansawdd da.

Eich rôl wrth gefnogi plant anabl

Yr un yw’r tasgau y byddech yn eu cyflawni wrth weithio gyda phlant anabl ag y byddech wrth weithio gyda phlant yn gyffredinol, oherwydd plant ydyn nhw yn gyntaf oll. Fodd bynnag, fe allai gymryd mwy o amser i chi sicrhau’r canlyniadau i’r plant hyn oherwydd eu hanghenion penodol. Mae’n bosibl hefyd y bydd angen i chi rannu’r canlyniadau yn elfennau llai fel eu bod yn fwy hwylus.

Weithiau bydd angen i chi fod yn amyneddgar gan y byddwch yn gorfod addysgu’r un dasg i’r un plentyn bob dydd neu bob tro y bydd yn ymweld, a hynny am fisoedd nes bydd wedi’i chofio. Ond wrth feithrin profiad yn y rôl bydd pob llwyddiant bach yn rhoi boddhad mawr i chi.

Bydd angen i chi fod yn ofalgar, mwynhau helpu eraill a gallu cysylltu’n emosiynol â phobl a all feddwl mewn ffordd wahanol i chi. Bydd arnoch angen grym personoliaeth hefyd i sefyll o blaid plant sy’n wynebu gwahaniaethu ar sail eu hanableddau.

Anghenion plant anabl

Bydd anghenion o lawer math gan blant anabl a gall y rhain ymwneud ag anableddau corfforol ac anableddau dysgu. Bydd galluoedd, diddordebau a chryfderau pob plentyn yn wahanol: efallai y byddwch yn cefnogi plant sydd â syndrom Asperger sy’n byw’n annibynnol ac yn dda am ymdopi gan mwyaf ond sydd ag angen cymorth mewn un neu ddau o bethau. Mae’n bosibl hefyd y byddwch yn cefnogi plant ag Anhwylderau Sbectrwm Awtistiaeth, a all fod wedi encilio, heb ddymuno rhyngweithio, ac sydd ag anawsterau cyfathrebu.

Efallai y byddwch hefyd yn cefnogi plant sydd ag anableddau corfforol difrifol fel parlys yr ymennydd neu anaf i’r ymennydd, sydd ag angen sylw i’w holl anghenion a hynny weithiau’n cynnwys defnyddio tiwbiau bwydo. Gall plant fod ag anhwylderau eraill hefyd fel epilepsi neu Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD). Bydd rhai plant yn ymddwyn yn heriol a bydd angen i chi allu tawelu plant sy’n cynhyrfu a gwybod pa bryd i gamu’n ôl oddi wrth sefyllfaoedd anodd.

Dylech chi ganolbwyntio ar ymateb i anghenion y plentyn a’i drin â pharch, gan ei helpu i fyw mor annibynnol â phosibl hyd yn oed mewn cartref gofal. Rhaid i chi allu adnabod rhwystrau cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n atal plant rhag byw bywydau bodlon, a sicrhau bod rhwystrau o’r fath yn cael eu symud o’r ffordd, lle bynnag y bo modd.

Hyfforddiant y bydd arnoch ei angen

Yn ogystal â’r Cymhwyster VQ mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bydd arnoch angen hyfforddiant mwy arbenigol, yn cynnwys:

  • Diogelu plant anabl – hyfforddiant hanfodol yw hwn gan ei bod yn bosibl na fydd y plentyn yn gallu dweud wrthych yn uniongyrchol ei fod yn cael ei gam-drin. Mae plant anabl yn fwy tebygol o gael eu cam-drin, ac am gyfnod hirach, na phlant eraill, felly bydd angen i chi allu sylwi ar arwyddion o gam-drin
  • Codi a chario
  • Cymorth cyntaf
  • Hyfforddiant mewn meddyginiaethau
  • Cymorth ymddygiad
  • Cymorth cyfathrebu. Gall hyn gynnwys defnyddio Makaton, y Cynllun Cyfathrebu Cyfnewid Darlun (PECS) neu iaith arwyddion.

Efallai y bydd arnoch angen hyfforddiant penodol i helpu plant i gyflawni eu canlyniadau llesiant. Fel arfer bydd hyn yn cael ei ddarparu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gall gynnwys bwydo gastrostomi.

Cymorth ymddygiad

Mae gwahanol ddulliau o ddarparu cymorth ymddygiad, yn cynnwys Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol (PBS), Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol (PBM), a Team Teach, ac enwi dim ond rhai. Mae’n hollbwysig mai dim ond un dechneg cymorth ymddygiad y bydd y cartref yn ei defnyddio a’i fod yn rhoi hyfforddiant diweddaru i staff yn rheolaidd.

Bydd Cynllun Cymorth Ymddygiad Personol ar gyfer pob plentyn sydd wedi’i gytuno gan staff, rhieni a gweithwyr proffesiynol. Bydd angen i chi fod yn gyfarwydd â’r cynllun hwn.

Bydd staff sy’n cynorthwyo’r plentyn ag angen deall sut bydd ei ymddygiad yn newid pan fydd:

  • yn sâl
  • mewn poen
  • heb allu cyfleu ei deimladau, gan ei bod yn bosibl na fydd yn gallu defnyddio geiriau i ddweud wrthych chi.

Mae’n bwysig gwrando ar deuluoedd ac eraill sy’n adnabod y plentyn yn dda er mwyn deall ei ymddygiad.

Mae’r Cynllun Cymorth Ymddygiad yn rhan o gynllun mwy sy’n canolbwyntio ar y person. Mae’n edrych ar holl fywyd y plentyn, beth sy’n bwysig iddo, a beth mae’n hoffi ei wneud. Bydd yn eich helpu i’w gynorthwyo yn y ffordd gywir ac yn helpu i sicrhau bod y plentyn yn byw fel y mae’n dymuno.

Adnoddau defnyddiol

Ein gwaith i gefnogi plant sy’n derbyn gofal

Ymchwil ein bod ni wedi’u dewis neu ‘guradu’

Mae Scope yn elusen anabledd sy’n cynnig cyngor ar-lein ar wahanol faterion sy’n gallu effeithio ar bobl anabl (Saesneg yn unig)

Mae Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn cynnig amrywiaeth o adnoddau a chyfeiriadurcynhwysfawr o wasanaethau cymorth ar gyfer y rheini sy’n byw ag anhwylderau sbectrwm awtistiaeth, a’r bobl sy’n gweithio gyda nhw (Saesneg yn unig)

Mae Cymdeithas Epilepsi yn darparu cyfeiriadur hawdd ei ddefnyddio ar nifer o bynciau sy’n ymwneud ag epilepsi (Saesneg yn unig)

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd gweithwyr gofal preswyl i blant drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.