CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cynorthwyo pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i sicrhau dyfodol llwyddiannus a gallu byw'n annibynnol
Share

Dysgwch fwy am sut mae'r Grŵp Ymgynghorol i'r Gweinidog yn helpu pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i gael dyfodol llwyddiannus a byw'n annibynnol

Beth yw'r heriau sy'n wynebu pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal?

Mae angen cymorth a chyfeiriad ar bob oedolyn ifanc i'w helpu i gyflawni eu nodau a'u huchelgeisiau.

Rydym yn gwybod bod pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn aml yn trosglwyddo i fyw'n annibynnol yn gynt na'r mwyafrif o blant ac yna'n wynebu rhwystrau sy'n eu hatal rhag cyflawni eu nodau, fel diffyg cyllid a llety sefydlog.

Mae hyn yn ei dro yn ei gwneud yn heriol iddynt ddilyn addysg bellach neu uwch, prentisiaethau neu gyfleoedd gwaith.

Beth yw'r dyletswyddau i ofalu am bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal o dan ddeddfwriaeth Cymru?

Rhaid i wasanaethau cymdeithasol, budd-daliadau lles, darparwyr hyfforddiant, adrannau tai, iechyd ac addysg weithio gyda'i gilydd i gynllunio symudiad pob unigolyn ifanc i annibyniaeth.

Mae adrannau 105 i 115 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswyddau ar awdurdod lleol i ddarparu cymorth i blant a phobl ifanc pan fyddant yn peidio â derbyn gofal (ymadawyr gofal).

Bwriedir i'r cymorth fod yn gyfwerth â'r hyn y gallai plentyn nad yw wedi derbyn gofal ei ddisgwyl yn rhesymol gan ei rieni.

Y pwrpas yw cynorthwyo'r bobl ifanc hyn i fyw'n annibynnol pan fo'r amser yn iawn iddynt wneud hynny, a chyflawni eu potensial llawn.

Sut mae Llywodraeth Cymru wedi cynorthwyo pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal?

Mae adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru, Breuddwydion Cudd Blwyddyn ar ôl cyhoeddi: Adroddiad dilynol ar welliannau awdurdodau lleol ac arfer da wrth gefnogi ymadawyr gofal, yn dangos bod canlyniadau da yn cael eu cyflawni.

Mae angen i'r enghreifftiau hyn ddod yn arfer safonol yng Nghymru:

  • darparu hyfforddiant a chyfleoedd prentisiaeth
  • rhagor o ddewisiadau llety
  • gwybodaeth glir a chymorth ariannol
  • cyfleoedd i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ddatblygu a monitro'r cymorth a gynigir iddynt
  • ffyrdd o leihau tlodi ymhlith pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi:

  • sefydlu Cronfa Dydd Gŵyl Dewi i gynorthwyo pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i drosglwyddo'n llwyddiannus i fyw'n annibynnol
  • rhoi cyllid i awdurdodau lleol i sefydlu neu wella cynlluniau sy'n cynnig hyfforddiant a chyfleoedd gwaith o fewn gweithlu'r cyngor ei hun
  • estyn yr hawl i bobl ifanc 21-25 oed sydd â phrofiad o ofal gael ymgynghorydd personol
  • wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i gael y lefel uchaf o gynhaliaeth i fynd addysg uwch, fel yr argymhellwyd gan Adolygiad Diamond o Gyllido Addysg Uwch a Threfniadau Cyllid Myfyrwyr yng Nghymru.
  • Cyflwyno gwaith monitro i sicrhau bod llety gwely a brecwast yn ddewis olaf i bobl ifanc sy'n gadael gofal (Saesneg yn unig).

Fodd bynnag, nid yw mynediad at dai â chymorth ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cwrdd â'r galw.

Mae rhwng 20 a 30 y cant o'r holl bobl ifanc ddigartref wedi derbyn gofal.

Hwyluso ymgysylltu a chyfranogiad plant a phobl ifanc

Mae’r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc yn darparu fframwaith ar gyfer ymgysylltu a chyfranogi gan blant a phobl ifanc.

Mae Llywodraeth Cymru, gyda chymorth Comisiynydd Plant Cymru, wedi comisiynu arolwg peilot yn mesur llesiant plant sydd â phrofiad o ofal mewn chwe awdurdod lleol (Saesneg yn unig).

Nod yr astudiaeth yw:

  • gwella'r profiad gofal ar gyfer pob plentyn sy'n derbyn gofal
  • rhoi llais i blant ar eu llesiant eu hunain
  • tynnu sylw at ‘esiamplau disglair’ ymarfer sy’n cyfrannu at blant yn ffynnu mewn gofal.

Cwblhaodd 686 o blant a phobl ifanc yr arolwg, a gynhyrchodd fewnwelediadau pwysig.

Mae'r rhan fwyaf o blant mewn gofal yng Nghymru wedi ymgartrefu yn eu lleoliadau ac yn hapus â'u bywydau yn gyffredinol. Fodd bynnag:

  • Nid oedd 36 y cant o blant (4-7 oed) yn deall pam eu bod yn derbyn gofal
  • roedd tua chwarter y plant a'r bobl ifanc eisiau cyswllt amlach â rhiant
  • nid oedd gan bron i un o bob pump (19 y cant) o bobl ifanc (11-18 oed) a 15 y cant o blant (8-10 oed) unrhyw gyswllt â'r naill riant na'r llall
  • roedd traean y bobl ifanc (11-18 oed) yn teimlo nad oedd ganddynt ddigon o gyswllt â'u brodyr a'u chwiorydd
  • roedd chwarter y bobl ifanc (11-18 oed) wedi cael tri neu ragor o weithwyr cymdeithasol yn y flwyddyn flaenorol.

Mae'r GCG yn comisiynu arolwg plant drwy Gymru gyfan i ategu'r gwaith o roi’r fframwaith perfformiad plant ar waith.

Adnoddau defnyddiol

Cyfranogiad ystyrlon o blant a phobl ifanc mewn penderfyniadau am eu gofal – gweminar gan Exchange (Saesneg yn unig)