CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Defnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer pryniannau untro

Dysgwch fwy am ddefnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer pryniannau untro

Cyflwyniad i ddefnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer taliadau untro

Gall pryniant untro fod yn allweddol i gyflawni canlyniadau lles.

Gall hyn ddigwydd yn lle neu yn ogystal â phrynu gwasanaeth parhaus.

Er enghraifft, prynu beic i alluogi person i fynd o gwmpas os yw cerdded yn anodd iddyn nhw, neu brynu set o offer garddio er mwyn gallu treulio amser yn garddio.

Astudiaeth achos: sut defnyddiodd Cathy daliadau uniongyrchol i brynu peiriant golchi/sychu

Roedd angen i Cathy, sy’n rhiant-ofalwr, brynu peiriant golchi/sychu mawr i ymdopi â’r llwythi mawr o ddillad gwely a dillad yr oedd eu hangen ar ei mab.

Teimlai’r gweithiwr cymdeithasol fod hyn yn ddefnydd priodol o daliadau uniongyrchol.

I ddechrau, roedd yr awdurdod lleol yn ceisio cyflwyno cost y peiriant golchi fel cyfradd gyfatebol fesul awr er mwyn cymeradwyo’r pryniant, a arweiniodd at ddryswch, oedi a rhwystredigaeth.

Roedd angen hyblygrwydd ac roedd hyn yn golygu gweithio gyda’r Adran Gyllid i greu system a allai ddarparu ar gyfer pryniannau untro fel hyn heb fiwrocratiaeth ormodol.

Gwnaeth y peiriant golchi a sychu wahaniaeth mawr i Cathy. Roedd hi’n gallu treulio llai o amser yn ymdrin â golchi, gan roi mwy o amser iddi wneud pethau yr oedd angen iddi ei gwneud er ei lles ei hun.

Astudiaeth achos: sut helpodd gliniadur i ddiwallu anghenion llesiant David fel gofalwr

Mae David yn gofalu am ei wraig sydd â dementia. Mae’n gofidio amdani ac nid yw’n hoffi ei gadael ar ei phen ei hun.

Mae hynny’n broblem oherwydd mae’n gwneud siopa am fwyd bob wythnos yn anodd. Mae hyn yn creu problemau ymarferol, ond yn ogystal, mae’n gwneud iddo deimlo’n ynysig.

Yr ateb oedd prynu gliniadur â thaliad uniongyrchol. Nawr, mae David yn gallu gwneud ei siopa archfarchnad ar-lein ac mae’r nwyddau’n cael eu cludo ato.

Hefyd, mae’n gallu defnyddio Skype i gysylltu â’i ferch sy’n byw cryn bellter i ffwrdd.

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella Taliadau uniongyrchol: Canllaw drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.