CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cyfuno taliadau uniongyrchol

Dysgwch fwy am gyfuno taliadau uniongyrchol

Beth yw cyfuno taliadau uniongyrchol?

Efallai y bydd gan nifer o bobl anghenion cymorth tebyg, ac efallai y byddai ganddynt ddiddordeb mewn cyfuno rhywfaint o’u taliadau uniongyrchol i drefnu gweithgareddau neu wasanaethau ar y cyd.

Mae cyfuno taliadau’n golygu cymryd rhywfaint o’ch taliadau uniongyrchol a’i ychwanegu at daliadau un neu fwy o bobl i brynu gwasanaeth gyda’i gilydd.

Gallwch gael mwy am eich arian trwy rannu costau gweithgareddau, a chael cyfle i dreulio mwy o amser gyda phobl eraill.

Gall y rheiny sy’n ystyried gweithio gydag eraill i reoli neu gyfuno eu taliadau uniongyrchol ddarganfod mwy mewn pecyn cymorth a gynhyrchwyd gan Anabledd Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru.

Astudiaeth achos: sut y cyfunodd grŵp o bobl eu taliadau uniongyrchol i rannu gwasanaethau cymorth

Mae David, Geth, Elin a Jo yn bobl ifanc ag anawsterau dysgu sy’n adnabod ei gilydd o’r coleg.

Roedd pob un ohonyn nhw eisiau byw yn annibynnol ond roedd angen cymorth arnynt i wneud hynny. Mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol, roedd modd iddynt rannu tŷ a sicrhau gwasanaethau cymorth ar y cyd.

Symudon nhw i dŷ gyda’i gilydd a chyfuno eu taliadau uniongyrchol i dalu am y cymorth 24 awr roedden nhw’n ei rannu.

Mae’r enghraifft hon yn dangos sut roedd pobl ifanc yn gallu rheoli sut maen nhw’n byw eu bywydau.

Gan fod ganddynt anghenion a dyheadau tebyg, roedd modd iddyn nhw rannu’r cymorth yr oedd arnynt ei angen i fyw’n annibynnol gyda’u ffrindiau.

Mae gan Gyngor Sir y Fflint ganllaw ar gyfuno taliadau.

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella Taliadau uniongyrchol: Canllaw drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.