CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cael cymorth i fod yn gyflogwr taliadau uniongyrchol

Dysgwch fwy am gael cymorth i fod yn gyflogwr taliadau uniongyrchol

Beth mae’n ei olygu i fod yn dderbyniwr taliadau uniongyrchol?

Mae derbynwyr taliadau uniongyrchol yn gyfrifol am ddefnyddio’r arian mewn ffordd a gytunwyd fel rhan o’u cynllun cymorth.

Gallai hynny olygu amrywiaeth o bethau, o brynu offer i fod yn aelod o gampfa neu efallai cyflogi cynorthwyydd personol, naill ai’n uniongyrchol neu trwy asiantaeth.

Yr hyn sy’n allweddol yw bod y derbynwyr taliadau uniongyrchol yn gallu dewis beth maen nhw’n ei brynu ac o ble.

Oherwydd eu bod yn cael rhagor o hyblygrwydd, mae angen i dderbynwyr taliadau uniongyrchol gadw cofnodion da o’r hyn maen nhw’n ei brynu, gan eu bod yn defnyddio arian cyhoeddus.

Y gwasanaethau cymorth sydd ar gael i helpu derbynwyr taliadau uniongyrchol

Er bod derbyniwr taliadau uniongyrchol yn gyfrifol am brynu eu cymorth a chadw cofnodion da o’r hyn a brynwyd, nid yw hynny’n golygu bod rhaid iddyn nhw wneud popeth eu hunain; mae digon o gymorth ar gael i’w helpu.

Mae gan bob awdurdod lleol wasanaeth cymorth gweinyddol i helpu pobl i roi taliadau uniongyrchol ar waith.

Mae rhai awdurdodau lleol yn darparu’r help hwn yn uniongyrchol, gan ddefnyddio eu staff eu hunain, ac mae rhai eraill yn defnyddio sefydliadau cymorth i wneud hynny ar eu rhan.

Bydd rhai awdurdodau’n gweithio gydag un sefydliad cymorth, ac efallai y bydd gan rai ohonynt restr o sefydliadau cymeradwy i alluogi pobl i ddewis pa un maen nhw’n ei ffafrio.

O bryd i’w gilydd, bydd awdurdodau lleol yn newid y sefydliadau cymorth maen nhw’n gweithio â nhw.

Felly, er mwyn darganfod pwy sy’n darparu’r gwasanaeth cymorth yn eich ardal, dylech fynd i’r dudalen ‘Taliadau Uniongyrchol’ ar wefan eich awdurdod lleol.

Os bydd unigolyn yn teimlo nad yw’n cael ei wasanaethu’n ddigonol gan sefydliad cymorth taliadau uniongyrchol, os oes angen, gall ddod o hyd i sefydliad arall a all ei gefnogi, sy’n dal i fod wedi’i ariannu gan ei awdurdod lleol.

Pa fath o gymorth ydy awdurdodau lleol yn ei gynnig?

Gall gwasanaethau taliadau uniongyrchol a chanolfannau byw’n annibynnol ddarparu cyngor ac arweiniad.

Hefyd, gallant gynnig cymorth i reoli taliadau uniongyrchol.

Mae’r mathau o gymorth a gynigir yn cynnwys:

  • Cyngor ar gyfraith cyflogaeth, iechyd a diogelwch ac yswiriant
  • Recriwtio, hyfforddi a rheoli cynorthwywyr personol a delio ag unrhyw anghydfodau
  • Rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith, er enghraifft, rhag ofn y bydd cynorthwyydd personol yn absennol oherwydd salwch
  • Cynnal gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (a elwid yn flaenorol yn wiriadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB))
  • Darparu gwasanaethau’r gyflogres a chadw llyfrau.

Mae gan Acas gyngor am fod yn gyflogwr a llinell gymorth am gwestiynau 0300 123 1100 (gallan nhw drefnu i ymgynghorydd iaith Gymraeg eich ffonio chi nôl).

Efallai y bydd angen cymorth eirioli annibynnol proffesiynol ar rai pobl i’w helpu i ddeall y wybodaeth hon a gwneud penderfyniadau am beth fydd yn gweithio orau iddyn nhw.

Yn y fideo hwn, mae aelod o fenter cyd-weithredol Moncare yn esbonio sut mae gwasanaeth cymorth taliadau uniongyrchol wedi bod yn hollbwysig i’w helpu i reoli ei thaliadau uniongyrchol.

Cyngor ar sut gallwch rannu rheoli cynorthwy-wyr personol neu weithwyr cymorth â derbynwyr taliadau uniongyrchol eraill

Dyfarniadau achosion diweddar am fod yn gyflogwr taliadau uniongyrchol

Mae’n bwysig bod cyflogwyr taliadau uniongyrchol yn ymwybodol o ddyfarniadau achosion cyfreithiol cyfredol a allai effeithio arnynt.

Mae gweithio gyda sefydliad cymorth yn eich helpu i gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf i sicrhau cydymffurfiaeth â’r gyfraith.

Ysgogodd achos llys diweddar, rhwng Mrs Tomlinson-Blake a Chymdeithas Frenhinol Mencap, ddadl ynghylch a ddylid talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol i ofalwyr preswyl am bob awr roedden nhw ar y safle yn hytrach na lwfans am shifft.

Dywedodd dyfarniad cychwynnol y dylid talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ynghyd â chwe blynedd o ôl-daliadau.

Apêl Gorffennaf 2018

Yn sgil apêl fwy diweddar ym mis Gorffennaf 2018, dilëwyd yr angen am ôl-daliadau, a datganwyd bod hawl gan gynorthwy-wyr personol (neu weithwyr cymorth) dderbyn o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol dim ond am yr amser y mae angen iddyn nhw fod yn effro er mwyn gweithio.

Yn dilyn y dyfarniad hwn, roedd yr undeb llafur UNISON yn ystyried mynd â’r achos i’r Goruchaf Lys.

Dylid nodi bod corff sylweddol o gyfraith achos cyn yr apêl Mencap a ddywedodd bod presenoldeb yn y gweithle yn cael ei ystyried yn ‘weithio’.

Mae Mencap hefyd wedi egluro eu bod yn talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol i staff am weithio dros nos, a’u bod wedi cael eu cymell i gymryd yr achos er mwyn osgoi’r bil ôl-daliadau chwe blynedd yn unig, ac nid oherwydd egwyddor yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Darllenwch fwy am gefndir achos Mencap a’r esboniadau am y dyfarniad. (Saesneg yn unig)

Dewis yr unigolyn i ganfod gwasanaethau amgen

Mae taliadau uniongyrchol yn rhoi dewis i bobl. Os byddant yn darganfod nad yw gwasanaeth cymorth penodol yn addas iddyn nhw, gallant siarad â’ch awdurdod lleol am ddewis darparwr gwahanol.

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella Taliadau uniongyrchol: Canllaw drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.