CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Symud o ofal preswyl i ofal maeth neu at deulu

Dysgwch fwy am sut y gallwch gefnogi'r person ifanc rydych chi'n gofalu amdano i symud o ofal preswyl i ofal maeth neu ddychwelyd i'w deulu

Sut gallwch chi helpu i roi cymorth i blentyn sy’n symud o ofal preswyl i ofal maeth?

Mae sawl ffordd o helpu pobl ifanc i bontio’n llwyddiannus o ofal preswyl i ofal maeth. Dyma rai o’r ffactorau a all helpu:

  • cynnwys pobl ifanc ym mhob cam o’r broses a’r gwaith cynllunio, fel nad ydyn nhw’n teimlo bod pethau’n cael eu gwneud ‘iddyn nhw’ yn hytrach na ‘gyda nhw’
  • rhoi gwybodaeth ar lafar i’r plentyn yn ogystal â gwybodaeth ysgrifenedig
  • ymweld â gofalwr maeth cyn, yn ystod ac ar ôl y broses baru er mwyn eu helpu i ddod i adnabod y plentyn a’i anghenion ac ymddygiad. Gallai hyn helpu i roi sicrwydd i chi, cyn rhoi tawelwch meddwl i’r plentyn wedyn
  • helpu’r gofalwr maeth i gwrdd â’r plentyn yn y cartref a rhoi gwybodaeth i’r plentyn am y cartref maeth
  • cynllunio ymweliadau dros nos am gyfnod – gan gynnig digon o amser i’r plentyn gyfarfod ei deulu newydd a deall lle byddai’n byw. Gall hyn ddarparu proses bontio raddol o’r sefyllfa ddiogel gyda staff y cartref plant
  • cefnogi oedolion allweddol ym mywyd y plentyn, fel aelodau’r teulu, athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill, i gwrdd â’r gofalwr math. Gall hyn helpu i feithrin ymddiriedaeth a chydweithrediad.
  • cynnwys therapydd er mwyn rhoi cyngor a sicrwydd i staff. Gallai’r therapydd helpu’r tîm o weithwyr proffesiynol i feithrin dealltwriaeth ar y cyd o’r person ifanc
  • darparu cymorth cyson, fel cynnwys y gweithiwr allweddol am rai wythnosau ar ôl pontio, wrth i’r person ifanc gael ei draed dano.
The importance of a residential worker’s knowledge and input to a young person’s transition journey onwards from residential to permanent family care cannot be over emphasised. They are key members of the team around the child.

Sut allwch chi helpu plentyn i fynd adref at ei deulu?

Mae gennych chi rôl bwysig yn sicrhau bod y plentyn yn barod i fynd adref at ei deulu, os mai dyna sydd orau iddo.

Mae ymchwil yn dangos mai ffactor allweddol yn llwyddiant plant sy’n mynd adref at eu teuluoedd yw sicrhau bod y plentyn a’r rhieni wedi’u paratoi ddigon ymlaen llaw.

Reunification in Practice. Erthygl gan Research in Practice (Saesneg yn unig)

Mae llawer o’r pethau y gallwch chi eu gwneud er mwyn helpu i sicrhau bod y broses o ddychwelyd adref at y teulu’n llwyddiannus, yr un fath â threfniadau pontio llwyddiannus o ofal preswyl i ofal maeth uchod ac yn cynnwys:

  • cynnwys y plentyn a’r rhiant ym mhob cam o’r broses gynllunio
  • paratoi’r plentyn a’r rhiant yn ofalus ar gyfer dychwelyd adref
  • cefnogi unrhyw wasanaethau arbenigol sydd eu hangen arnynt
  • gweithio gyda gofalwyr maeth os yw’n berthnasol
  • bod ar gael i gynorthwyo’r plentyn yn ystod y broses
  • helpu’r plentyn i ddeall yr amodau a’r disgwyliadau wrth ddychwelyd at eu teulu
  • helpu gweithwyr proffesiynol eraill gydag unrhyw asesiadau a manylion am achos y plentyn
  • cefnogi teulu, ffrindiau a chymunedau ehangach er mwyn rhoi cymorth anffurfiol wrth ddychwelyd adref.

Pam mae dychwelyd adref at y teulu yn methu?

Mae tua 30 y cant o’r plant sy’n mynd adref at eu teuluoedd gwaed yn dychwelyd i ofal o fewn pum mlynedd. Mae’r rhesymau dros pam mae dychwelyd at y teulu yn methu yn cynnwys:

  • mae’r plentyn yn hŷn/neu eisoes wedi methu dychwelyd yn llwyddiannus at y teulu
  • plentyn â phroblemau ymddygiad neu emosiynol sylweddol
  • diffyg newid ar ran y rhieni - naill ai dydyn nhw heb fynd i’r afael â phroblemau neu mae’r problemau’n dal heb eu datrys neu ynghudd
  • asesiadau annigonol neu weithwyr proffesiynol heb ddigon o wybodaeth a dealltwriaeth glir o hanes y plentyn
  • rhieni’n ddi-hid ynghylch y plentyn yn dychwelyd.
  • cynllunio gwael ac anghyson.

Reunification in Practice. Erthygl gan Research in Practice (Saesneg yn unig)

Ymchwil a phrofiad proffesiynol sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd asesiadau trylwyr i gefnogi penderfyniadau am blentyn yn dychwelyd at ei deulu.

Adnoddau defnyddiol

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd gweithwyr gofal preswyl i blant drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.