CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Hawliau plant sy’n byw mewn cartrefi plant

Dysgwch fwy am sut y gallwch gefnogi plant sy'n byw mewn cartrefi plant i fynnu eu hawliau

Hawliau cyffredinol plant

Mae gan bob plentyn sy’n byw yng Nghymru hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) (Saesneg yn unig), sy’n rhestru’r disgwyliadau sydd ar lywodraethau i fodloni anghenion sylfaenol plant, diogelu plant a’u helpu i gyrraedd eu llawn botensial.

Yn 2011, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gynnwys yr UNCRC fel rhan o’i chyfraith ddomestig: Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Wrth weithio gyda phlant o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (y Ddeddf) mae’n ofynnol i chi dalu “sylw priodol” i’r UNCRC. Mae pedair erthygl yn yr UNCRC, ac fe gyfeirir atynt fel “Egwyddorion Cyffredinol”. Mae’r rhain yn help i ddehongli pob erthygl arall ac maent yn hanfodol wrth wireddu’r holl hawliau eraill sydd yn yr UNCRC:

  1. peidio â gwahaniaethu (erthygl 2)
  2. er lles pennaf y plentyn (erthygl 3)
  3. hawl i oroesi bywyd a datblygu (erthygl 6)
  4. hawl i gael eu clywed (erthygl 12).

Mae’n bwysig eich bod yn ymgynefino â chynnwys yr UNCRC.

Mae poster am yr UNCRC ar wefan Comisiynydd Plant Cymru

Wrth weithio gyda phlant ag anableddau, dylech hefyd dalu “sylw priodol” i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCRPD). (Saesneg yn unig)

Hawliau plant yn ystod eu hamser mewn gofal plant preswyl

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw blant a phobl ifanc o dan eich gofal chi yn ymwybodol o’u hawliau ac yn gwybod sut a ble i gael y gefnogaeth gywir er mwyn sicrhau bod yr hawliau hynny ganddynt. Dylai fod gan eich cartref bolisi rhagweithiol ar sut i ddefnyddio hawliau plentyn yn eich gwaith bob dydd. Mae hyn yn cynnwys hawliau plentyn i:

  • gael ei drin gyda pharch, gofal a charedigrwydd
  • cael mynegi ei farn ynglŷn â phenderfyniadau sy’n cael ei wneud amdano
  • bod yn rhan o unrhyw brosesau i gynllunio a pharatoi ei ofal a’i fywyd yn y dyfodol
  • derbyn gwybodaeth mewn ffordd y mae’n ei deall
  • cael lleisio barn ar sut mae’r cartref yn cael ei redeg, er enghraifft bod yn rhan o brosesau penderfynu ar fwydlen, trafod rheolau a chael cyfarfodydd plant
  • bod â gwybodaeth am wasanaethau eiriolaeth lleol a chenedlaethol a gwybod sut i gysylltu ag eiriolwr a fyddai’n cynnig cefnogaeth iddynt leisio eu barn
  • cael cefnogaeth er mwyn cynnal perthynas gyda ffrindiau a theulu (yn ôl yr hyn a gytunwyd yn y cynllun gofal)
  • derbyn addysg neu hyfforddiant a chael cefnogaeth i fynychu’r ysgol neu hyfforddiant
  • cael cyfle i gymdeithasu a dilyn diddordebau eraill fel gwersi cerddoriaeth, gweithgareddau chwaraeon, grwpiau celf neu ddrama
  • cael apwyntiadau rheolaidd i archwilio llygaid a dannedd a bod â mynediad at feddyg teulu, nyrs i blant sy’n derbyn gofal neu gefnogaeth iechyd arbenigol
  • cael cefnogaeth i dderbyn sgiliau bywyd addas i oedran yn cynnwys hunanofal, coginio, golchi dillad ei hun, siopa, rheoli arian
  • bod â chynllun ar gyfer gadael gofal gyda’r gefnogaeth gywir.

Mae nifer o’r hawliau hyn yn cael eu rhestru yn Rhan 6 y Côd Ymarfer (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n cael eu Lletya) ar gyfer y Ddeddf.

Rydym ni wedi cynhyrchu deunydd hyfforddi ar brif negeseuon y Ddeddf i blant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya.

Dylai fod gan eich sefydliad bolisi ynghylch hawliau plant i arian poced, dillad ac ati, yn ogystal â pholisi ar sut y dylai plant sy’n difrodi pethau ar bwrpas yn y cartref efallai orfod talu am eu trwsio â’u harian poced.

Caiff yr hawliau hyn eu cynnwys yn Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, Rhan 28.

Hawl plant i chwarae mewn gofal preswyl i blant

Mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae, boed gartref, wrth fyw gofal preswyl neu yn yr ysgol, yn ôl Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant [Saesneg yn unig]:

“Mae chwarae…yn rhan sylfaenol ac annatod o bleser plentyndod, yn ogystal â chyfran angenrheidiol o ddatblygiad corfforol, cymdeithasol, meddyliol, emosiynol ac ysbrydol.”

Mae dyletswydd arnoch chi i sicrhau bod gan y plant rydych yn eu cefnogi y lle, amser a chwmni o eraill i chwarae.

Yn ogystal â hawl chwarae, mae gan bob plentyn yr angen i chwarae ac bydd y rhan fwyaf yn chwarae unrhyw le, unrhyw bryd oni bai yn flinedig iawn, sâl, eisiau bwyd, poeth, oer, gofidus neu ofnus, yn enwedig os oes plant eraill o gwmpas. Mae eisiau cymorth eraill i wneud y gorau o’u chwarae: gorau chwarae, cyd-chwarae.

Mae’r budd mwyaf i blant pryd mai nhw sy’n rheoli eu chwarae. Pryd mae plant yn dewis bet hi chwarae, pwy i chwarae gyda nhw, a sut i drefnu’r chwarae, maen nhw’n cael mwy o hwyl. Mae plant hefyd yn datblygu a dysgu mewn sawl ffordd wrth chwarae:

  • mae dringo’n helpu plant i fagu cryfder corff uwch, cydsymudiad, cydbwysedd, hyder a hunanwerth
  • mae cellwair, sgwrsio a dyfeisio gemau gyda phlant eraill yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu
  • mae rhedeg a chwarae cwrso ar ôl ei gilydd yn eu helpu i fod yn heini
  • mae cerdded neu redeg ar ben waliau yn helpu plant i ddatblygu cydsymudiad a chydbwysed
  • mae neidio oddi ar risiau, reidio beic, neu neidio drwy raff yn helpu plant i ddatblygu cydsymudiad a hyder yn yr hyn gall eu cyrff ei wneud
  • mae chwarae dychymyg yn datblygu creadigrwydd plant ac yn agor eu meddyliau. Mae’n gallu helpu gwneud synnwyr o bethau anodd yn eu bywyd hefyd
  • mae chwarae gemau’n rhoi cyfle i blant llosgi egni a chael hwyl.

Bydd y rhan fwyaf o blant yn chwarae heb help oedolion, hyd yn oed yn y stafell fwyaf llwm. Ond bydd amgylchedd chwarae cyfoethog o’r budd mwyaf iddynt; man sy’n llawn dewisiadau a chyfleoedd i ddyfeisio ac ymestyn eu chwarae eu hunain.

Mae gan Chwarae Cymru adnoddau i’ch helpu i gefnogi plant i chwarae ac rydym wedi rhestru’r rhain ar waelod y dudalen.

Ar ba oedran y dylai plant wneud pethau penodol?

Dyma restr gryno o’r hyn y mae gan blentyn hawl i’w wneud ar ôl cyrraedd oedran penodol. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi ddilyn polisïau eich sefydliad chi: efallai bod gan blentyn 16 oed o dan eich gofal hawl gyfreithlon i yfed alcohol gyda phryd bwyd ond gallai hyn fod yn erbyn polisïau eich cartref chi.

Yn 12 oed

  • gallwch weld, rhentu a phrynu ffilm sy’n addas i rai dros 12.

Yn 13 oed

  • gallwch ddechrau gweithio’n rhan amser (mae cyfyngiadau ar y nifer o oriau a pha oriau y cewch eu gwneud).

Yn 14 oed

  • gallwch archebu diodydd meddal mewn bar.

Yn 15 oed

  • gallwch weld, rhentu a phrynu ffilm sy’n addas i rai dros 15
  • gallwch wneud cais i ymuno â’r Fyddin (yn 15 oed a saith mis), y Llynges Frenhinol a’r Llu Awyr Brenhinol (15 oed a naw mis) gyda chaniatâd eich rhieni; gallwch gael eich cadw mewn canolfan gadw
  • gallwch gael eich anfon i sefydliad troseddwyr ifainc am hyd at ddwy flynedd.

Yn 16 oed

  • gallwch gael rhif Yswiriant Gwladol
  • gallwch wneud cais am gymorth cyfreithiol
  • gallwch wneud cais am eich pasbort eich hun
  • gallwch ddewis gadael addysg orfodol (yng Nghymru mae gennych hawl i adael ar ddydd Gwener cyntaf mis Mehefin os ydych chi eisoes yn 16 neu’n cael eich pen-blwydd yn 16 yn ystod y gwyliau haf. Yn Lloegr, mae’n rhaid i chi aros mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant tan eich bod chi’n 18)
  • gallwch ddechrau gweithio’n llawn amser cyn belled â’ch bod wedi cwblhau eich addysg orfodol
  • gallwch briodi neu ddod yn rhan o bartneriaeth sifil yn gyfreithlon gyda chaniatâd eich rhieni
  • gallwch roi eich caniatâd i fod yn rhan o weithgaredd rhywiol gyda phobl eraill dros 16
  • gallwch chwarae’r Loteri Genedlaethol
  • gallwch yfed cwrw, gwin neu seidr gyda phryd o fwyd mewn bwyty, cyn belled â bod oedolyn dros 18 gyda chi.

Yn 17 oed

  • gallwch sefyll eich prawf gyrru a dechrau gyrru nifer o gerbydau, yn cynnwys car a beic modur
  • gallwch roi gwaed; gallwch gael eich cyfweld gan yr heddlu heb fod oedolyn yno gyda chi
  • gallwch gael eich anfon i garchar.

Yn 18 oed

  • gallwch bleidleisio mewn etholiadau lleol a chyffredinol ac mewn refferendwm
  • os ydych wedi eich mabwysiadu, gallwch weld eich tystysgrif geni wreiddiol
  • gallwch agor eich cyfrif banc eich hun; gallwch adael cartref heb ganiatâd rhiant neu warcheidwad
  • gallwch briodi neu fod yn rhan o bartneriaeth sifil yn gyfreithlon heb ganiatâd eich rhieni
  • gallwch brynu alcohol
  • gallwch ysmygu neu ddefnyddio cynhyrchion mewnanadlu
  • gallwch brynu tân gwyllt; gallwch yrru cerbyd nwyddau maint canolig
  • gallwch ymuno â’r lluoedd arfog heb ganiatâd eich rhieni
  • gallwch weld, rhentu neu brynu ffilm sy’n addas i rai dros 18
  • gallwch gael eich anfon i’r carchar o lys ynadon
  • gallwch gael tatŵ.

Mae rhai eithriadau i’r terfynau oedran a restrwyd uchod ac mae rhai o’r diffiniadau’n gymhleth, er enghraifft yr oriau a’r amserau y mae gennych hawl i weithio rhwng 13 ac 16 oed (Saesneg yn unig).

Mwy o wybodaeth ar beth mae gennych hawl i’w wneud yn gyfreithlon i’w gael (Saesneg yn unig).

Sut gall Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol gynnig cefnogaeth i blant i ddeall eu hawliau a chael eu clywed

Pwrpas eiriolaeth yw siarad o blaid plant a phobl ifanc, a’u grymuso nhw i sicrhau bod eu hawliau’n cael eu parchu a bod eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau’n cael eu clywed bob amser.

Mae gan unrhyw blant sydd o dan eich gofal chi hawl i gael cynnig gweld eiriolwr annibynnol a chael gwybod am y gwasanaethau eiriolaeth sydd ar gael.

Fel gweithiwr gofal preswyl plant, byddwch yn siarad o blaid y bobl ifanc rydych chi’n eu cefnogi bob dydd. Ond gall eiriolaeth annibynnol roi cymorth iddynt fynegi barn o safbwynt gwahanol i’ch safbwynt chi gan nad yw’r eiriolwyr yn darparu gofal a chefnogaeth yn ddyddiol.

Mae rôl eiriolaeth wedi ei chynnwys yn Rhan 10 Côd Ymarfer (Eiriolaeth) y Ddeddf

Mae gan Lywodraeth Cymru Fframwaith safonau a chanlyniadau cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc

Mae MEIC Cymru yn llinell gymorth a gwefan i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed. Mae’n darparu gwybodaeth, cyngor a gwasanaeth cyfeirio, yn cynnwys cyfeirio at wasanaethau eiriolaeth lleol.

Dyma rai darparwyr eiriolaeth yng Nghymru:

TGP Cymru

Y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS)

Er nad ydynt yn darparu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol, mae Voices from Care Cymru (Saesneg yn unig) yn sefydliad cenedlaethol annibynnol sydd wedi ei neilltuo i gynnal hawliau a lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal

Mae gan Gomisiynydd Plant Cymru wasanaeth ymchwiliadau a chyngor i blant a phobl ifanc.

Adnoddau defnyddiol

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd gweithwyr gofal preswyl i blant drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.