CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ffiniau proffesiynol â phlant sy’n byw mewn gofal preswyl i blant

Dysgwch fwy am ffiniau proffesiynol rhyngoch chi a'r plant rydych chi'n gofalu amdanynt

Cyflwyniad i ffiniau proffesiynol mewn gofal preswyl i blant

Mae ansawdd eich perthynas â phlant a phobl ifanc yn bwysig iawn. Mae’n hanfodol creu amgylchedd cynnes, caredig, cartrefol a chyfeillgar. Weithiau, fodd bynnag, gall yr agosatrwydd hwn bylu’r ffiniau proffesiynol a chreu camddealltwriaeth ac anawsterau i chi a’r bobl ifanc y gofalwch amdanynt. Mae’n bwysig dros ben eich bod yn gweithio â’r rheolwr i ddeall eich rôl, eich cyfyngiadau a pholisïau eich cyflogwr.

Fel gweithiwr gofal plant preswyl, rydych chi nid yn unig yn gweithio’n unol â pholisi eich cyflogwyr; mae gennych ddyletswydd broffesiynol dan y Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol (y Côd).

Mae’r Côd yn datgan yr hyn a ddisgwylir oddi wrth weithwyr cofrestredig yn eu hymarfer bob dydd. Os nad yw eich ymddygiad yn unol â’r Côd, gall eich cyflogwr wneud cyfeiriad i ni am ymchwiliad arnoch chi. Gallai hi effeithio ar eich gallu i weithio fel gweithiwr gofal plant preswyl.

Mae gennym hefyd Ganllaw Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Preswyl i Blant, sy’n disgrifio’r hyn a ddisgwylir yn y rôl.

Cyffyrddiad corfforol

Mae’r plant a’r bobl ifanc y gofalwch amdanynt o bosibl yn dal i geisio gwneud synnwyr o gyffyrddiad corfforol priodol. Fe wnânt droi atoch chi am gymeradwyaeth a gallent fod yn profi eich ymatebion i gyffyrddiad.

Fel bob amser, dylech ddilyn polisïau eich cyflogwr ond mae cyffyrddiad diogel, fel ‘pawen lawen’ a rhoi cwtsh, o fudd i’ch perthynas â’r plentyn.

Pan mae’n briodol rhoi cysur neu gysylltiad corfforol, dylech wneud hynny’n ddiogel a drwy fod yn ymwybodol o’r hyn rydych yn ei wneud:

  • sicrhewch fod cydweithwyr eraill o gwmpas bob amser
  • peidiwch â dangos ffafr at unigolion
  • peidiwch â chyffwrdd plentyn na pherson ifanc mewn amgylchiadau nac mewn ffordd y gellid ei gamddehongli fel rhywbeth heblaw cefnogaeth gyfeillgar, briodol oedolyn – plentyn.

Ni ddylech wneud pethau fel chwarae cwffio na chosi â’r bobl ifanc a gefnogwch. Mae perygl y gallai’r person ifanc neu staff eraill ystyried bod y cyffyrddiad hwn yn amhriodol.

Cysylltiad drwy’r cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg symudol

Rhaid i chi gadw ffiniau proffesiynol ar y cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft Facebook, Twitter, WhatsApp, Instagram, Snapchat. Mae hyn yn golygu na chewch fod yn ‘ffrindiau’ â’r plant a’r bobl ifanc y gofalwch amdanynt gan ddefnyddio eich cyfrif cyfryngau cymdeithasol personol. Os gwnewch hyn, rydych chi’n torri’r Côd a gallai arwain at fater disgyblu â’ch cyflogwr, yn ogystal â chyfeiriad atom, ac ymchwiliad gennom.

Rhaid i’r holl gysylltiad â phobl ifanc fod drwy’r sianelau gwaith ac nid drwy ddim sy’n gysylltiedig â chi’n bersonol: eich ffôn symudol, e-bost personol, na’ch cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’n iawn defnyddio cyfrif cyfryngau cymdeithasol y cytunir arno sy’n cael ei sefydlu gan eich cyflogwr i sicrhau cyswllt diogel rhwng y cartref a’r plant a’r bobl ifanc. Gallai hwn fod yn dudalen Facebook i’r cartref neu’n hyb cysylltu, a gall helpu i ddatrys problemau ynglŷn â phobl ifanc sydd angen cefnogaeth neu’n teimlo’u bod yn cael eu gwrthod, heb beryglu aelodau staff.

Dyma rai o’r pethau na chewch eu gwneud ar y cyfryngau cymdeithasol:

  • cysylltu â pherson ifanc na’u perthnasau na’u ffrindiau
  • edrych ar luniau amhriodol ar eich ffôn o flaen person ifanc
  • defnyddio iaith amhriodol i drafod pobl ifanc mewn grŵp WhatsApp gwaith
  • rhannu lluniau neu fideos amhriodol mewn grŵp WhatsApp gwaith
  • gwneud, rhannu neu 'hoffi' gwybodaeth y gellid ystyried ei bod yn hiliol, yn homoffobig, neu’n hyrwyddo safbwyntiau eithafol
  • postio manylion personol neu ddelweddau o’r plant y gofalwch amdanynt.

Dim ond ychydig esiamplau sydd yn y rhestr hon a rhaid ichi wastad ddilyn polisi eich cyflogwr ynglŷn â’r cyfryngau cymdeithasol a defnyddio ffonau symudol.

Mae llawer o hyn yn ymwneud â gwarchod eich hun drwy sicrhau nad ydych mewn sefyllfa i rywun herio eich ymddygiad.

Yn olaf, cofiwch mai’r rheol euraidd ar gyfer cynnal ffiniau proffesiynol yw sicrhau bod popeth a wnewch â phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn gwbl agored i’w trafod â’ch rheolwr.

Rhoi anrhegion

Mae’n bwysig bod plant a phobl ifanc yn gallu dathlu a mwynhau achlysuron arbennig fel pen-blwyddi, llwyddiannau addysgol a chwaraeon a’r achlysuron crefyddol (fel Nadolig, Pasg, Eid, Hanukkah, ayb) sy’n berthnasol iddynt. Gall hyn helpu iddynt deimlo eu bod yn bwysig, yn gyfwerth â’u ffrindiau a gwybod bod eu hunaniaeth, eu cyflawniadau, eu diwylliant a’u credoau yn cael eu parchu.

Un rhan allweddol o’ch rôl yw gwybod am ddigwyddiadau a dyddiadau pwysig i’r plant a’r bobl ifanc rydych yn eu cefnogi. Bydd gan eich sefydliad bolisi ar brynu anrhegion a ffyrdd eraill o nodi’r achlysur. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu trin yn gyfartal ac yn deg.

Dyma enghraifft o’r hyn sy’n dderbyniol a’r hyn sydd ddim:

Mae unrhyw anrheg a ddaw gan y cartref yn iawn, er enghraifft wyau Pasg neu anrhegion pen-blwydd. Ond nid yw’n iawn ichi roi arian o’ch poced eich hun i’r plentyn y gofalwch amdano, er enghraifft i brynu byrger, arian ar gyfer yr arcêd nac i roi arian ar eu ffôn.

Nid oes gwahaniaeth pa mor fach yw gwerth yr eitem, rhaid iddi gael ei phrynu gan y cartref ac nid o’ch arian personol chi.

Unwaith eto, mae hyn yn ymwneud â gwarchod eich hun:

  • gallai rhoi eich arian personol i un plentyn godi cwestiynau ynglŷn â ffafriaeth a gall fod yn fater diogelu.
  • gall plant eraill deimlo nad ydynt yn cael eu trin yn gyfartal.

Rhoi benthyg arian a/neu eiddo

Fel rheol, ni ddylech byth fenthyg eich arian eich hun i blentyn neu berson ifanc yn eich gofal. Er enghraifft, os ydych yn prynu rhywbeth i berson ifanc a bod eich cerdyn staff yn cael ei wrthod, ni chewch ddefnyddio eich arian eich hun.

Felly hefyd, ni ddylech fenthyg eich eiddo personol, er enghraifft rhoi benthyg eich ffôn personol iddynt os nad oes ganddynt gredyd ar eu ffôn eu hunain.

Ddylech chi ddim prynu neu werthu unrhyw beth ar ran person ifanc, er enghraifft ar eBay neu wefan marchnad arall.

Yr hyn rydym yn ceisio’i ddweud yma ydy pa mor hawdd yw gwneud camgymeriadau allan o garedigrwydd a thorri ffiniau proffesiynol.

Os yw plentyn neu berson ifanc yn brin o arian neu eitemau hanfodol eraill, rhaid codi hyn â’r cydweithiwr priodol, er enghraifft, gweithiwr allweddol y plentyn neu’ch rheolwr.

Yn yr un modd, rhaid ichi beidio â benthyg arian nac eiddo oddi wrth blentyn neu berson ifanc. Ni ddylech fenthyg arian gan eich cyflogwr heb iddynt gytuno ymlaen llaw.

Rhannu gwybodaeth bersonol

Gall fod yn anodd gwybod faint o wybodaeth bersonol i’w rhannu am eich bywyd â’r plant a’r bobl ifanc yn eich gofal. Gallai fod yn iawn siarad yn gyffredinol am eich teulu ac o bosibl am eich plant eich hun os yw’n helpu i feithrin perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc.

Ond byddwch yn ofalus iawn ynglŷn â phethau sy’n galluogi i bobl a llefydd gael eu hadnabod, er enghraifft:

  • crybwyll eich cyfeiriad cartref neu gliwiau ynglŷn â lle’r ydych chi’n byw
  • lle’r ydych yn mynd â’ch ci am dro
  • beth ydych chi’n ei wneud ar eich diwrnod i ffwrdd
  • i ba ysgol mae eich plentyn yn mynd.

Peidiwch byth â mynd â pherson ifanc i'ch cartref neu eu gadael mewn cerbyd y tu allan i'ch cartref tra eich bod yn casglu rhywbeth.

Gallai’r plant yr ydych yn gofalu amdanynt fod eisiau chwilio amdanoch pan nad ydych yn y gwaith a gallent ddefnyddio gwybodaeth fel yr uchod i ddod o hyd ichi. Gallai hyn wedyn ddod yn fater diogelu ynglŷn â chyswllt y tu allan i oriau gwaith (gweler isod).

Mae angen ichi hefyd fod yn ofalus i beidio â rhannu gwybodaeth breifat am bobl eraill. Ni ddylech rannu cyfrinachau, pryderon na thrafod manylion eich bywyd personol. Os ydych yn rhannu gwybodaeth, dylech wneud hynny dim ond er mwyn lles y plentyn neu’r person ifanc. Os nad ydych yn sicr, cymerwch gyngor gan un o’ch uwch gydweithwyr neu reolwr a dilyn polisi eich sefydliad.

Ni ddylech byth rannu gwybodaeth sy’n dangos pwy yw’r plant eraill dan eich gofal yn awr neu yn y gorffennol.

Cyswllt y tu allan i oriau gwaith

Mae’n bwysig dros ben bod plant a phobl ifanc yn gallu cael cefnogaeth pan mae arnynt angen. Dyna pam y ceir tîm o weithwyr yn y cartref a chaiff y rota ei threfnu fel bod y plant a’r bobl ifanc yn gwybod pwy i gysylltu â nhw a phryd. Mae’n rhan o’ch rôl sicrhau eu bod yn gwybod y manylion cysylltu iawn.

Ni ddylid bod dim rheswm dros roi eich manylion cysylltu personol i berson ifanc. Os ydynt yn cysylltu â chi y tu allan i oriau gwaith, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu cyfeirio’n ddiogel at y gefnogaeth iawn, a dywedwch wrth eich rheolwr neu uwch weithiwr sydd ar ddyletswydd eich bod wedi gwneud hynny.

Adnoddau defnyddiol

Ein gwaith i gefnogi plant sy’n derbyn gofal

Ymchwil ein bod ni wedi’u dewis neu ‘guradu’

Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol: canllaw i weithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol sydd wedi’u cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru (nid yw ar gael eto).

Ffiniau perthnasau mewn gofal preswyl i blant: cysylltiadau a diogelwch mewn perthnasau gofal mewn grŵp (Saesneg yn unig)

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd gweithwyr gofal preswyl i blant drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.