CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cerdyn gweithiwr gofal

Yma, cewch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am y cerdyn gweithiwr gofal. Mae'r cerdyn hwn yn cydnabod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol fel gweithwyr allweddol ac yn eich galluogi i fanteisio ar amrywiaeth o fuddion.

Beth yw'r cerdyn gweithiwr gofal?

Mae'n gerdyn digidol sy'n cydnabod gweithwyr gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru fel gweithwyr allweddol ac sy'n darparu mynediad at fuddion amrywiol. Nid yw'n gerdyn cofrestru.

Pwy all gael cerdyn gweithiwr gofal?

Unrhyw un sy'n cael ei gyflogi mewn rôl gofal â thâl yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n gweithio ym maes:

  • gofal cymdeithasol
  • gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar
  • myfyrwyr gwaith cymdeithasol
  • gwarchodwyr plant
  • rolau eraill, fel cynorthwywyr personol neu ofalwyr maeth.

Nid oes angen i chi fod wedi cofrestru gyda ni i gael cerdyn. Gallwch gofrestru ar gyfer y cerdyn beth bynnag yw eich patrwm gwaith neu faint bynnag o oriau rydych chi'n eu gweithio. Er enghraifft, os ydych chi'n weithiwr gofal cyflogedig ar gontract dim oriau, gallwch gofrestru i gael cerdyn.

Gweithwyr gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar

Os ydych chi’n gweithio ym maes gofal plant, chwarae neu’r blynyddoedd cynnar, gallwch gofrestru ar gyfer y cerdyn os ydych chi'n gweithio:

  • mewn lleoliad gofal plant neu waith chwarae sydd wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
  • mewn lleoliad gofal plant neu waith chwarae fel arfer sydd wedi'i gofrestru gydag AGC, ond yn gweithio mewn hyb awdurdod lleol yn awr
  • fel gweithiwr Dechrau'n Deg neu gydag unrhyw wasanaeth ymyrraeth gynnar arall ar gyfer awdurdod lleol, elusen neu sefydliad trydydd sector, lle mae'n rhaid i chi deithio y tu allan i'ch cartref.

*Nid yw hyn yn cynnwys gweithwyr ieuenctid.

Pa fuddion sydd ar gael gyda'r cerdyn?

Mae amrywiaeth eang o ostyngiadau cyffredinol ar gael i chi ar wefan Discounts for Carers. Mae'r rhain yn amrywio o ostyngiadau siopa fel ffasiwn, iechyd a ffitrwydd, offer trydanol a bwyd a diod, i deithio, moduro ac yswiriant.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud i gael gafael ar y gostyngiadau hyn yw cofrestru ar eu gwefan gyda chyfeiriad e-bost dilys.

Cerdyn arian yn ôl gan Discounts for Carers:

Gallwch ddefnyddio eich cerdyn gweithiwr gofal i brofi eich bod yn gweithio yn y sector gofal yng Nghymru i wneud cais am gerdyn arian yn ôl ar wefan Discounts for Carers. Gallwch ddefnyddio hwn i gael arian yn ôl wrth brynu gan 35 o fasnachwyr.

Oes rhaid i mi dalu am y cerdyn arian yn ôl gan Discounts for Carers?

Nid oes angen i chi dalu pan fyddwch chi'n gwneud cais am y cerdyn arian yn ôl, ond bydd angen i chi roi £5 ar y cerdyn.

Ar ôl i chi gael cerdyn arian yn ôl am flwyddyn, bydd £2.99 yn cael ei gymryd o'r balans sydd gennych chi ar eich cerdyn. Bydd hyn yn digwydd bob blwyddyn.

Mae gwybodaeth am gostau eraill ar wefan Discounts for Carers.

Diogelwch cerdyn gweithiwr gofal

Cyhoeddir y cardiau mewn ffordd reoledig a diogel, ac rydyn ni'n cadw cofnod o bob gweithiwr gofal sydd wedi lawrlwytho'r cerdyn.

Os ydych chi’n defnyddio'r cerdyn i gael buddion gan fasnachwyr, dylech chi fod yn barod i ddangos ID gyda llun, er enghraifft, trwydded yrru neu docyn gweithle, gyda'ch cerdyn, fel y gallant wirio pwy ydych chi.

Sut i gael y cerdyn gweithiwr gofal

Ewch i dudalen gofrestru’r cerdyn gweithiwr gofal, lle gofynnir cwestiynau i chi.

Os ydych chi:

  • wedi cofrestru gyda ni: gallwch gwblhau'r broses trwy fewngofnodi i'ch cyfrif GCCarlein
  • heb gofrestru gyda ni: bydd angen i chi roi manylion sylfaenol i ni amdanoch chi'ch hun.

Ar ôl i chi gwblhau'r broses gofrestru, anfonir e-bost atoch chi gyda chyfarwyddiadau yn dweud wrthych sut i lawrlwytho'r cerdyn i'ch waled ffôn clyfar. Bydd eich cerdyn digidol yn eich waled ac yn barod i'w ddefnyddio mewn munudau.

Sut i gael cerdyn arian yn ôl gan Discounts for Carers

Y broses cael cerdyn arian yn ôl
  1. Ar eich ffôn clyfar, gliniadur neu'ch cyfrifiadur bwrdd gwaith, ewch i'r e-bost sy’n cadarnhau eich bod wedi cofrestru i gael y cerdyn gweithiwr gofal. Cliciwch ar y ddolen i gadw'r cerdyn yn eich waled. Nawr, byddwch yn gweld llun o'ch cerdyn gweithiwr gofal, cymerwch lun o'r ddelwedd gyfan i'w chadw yn eich dyfais.
  2. Ewch i wefan Discounts for Carers
  3. Cofrestrwch ar gyfer gwefan Discounts for Carers drwy ateb ychydig o gwestiynau syml.
  4. Ar hafan Discounts for Carers, ewch i’r adran am y cerdyn arian yn ôl.
  5. Llenwch y ffurflen ar y dudalen gofrestru ar gyfer y cerdyn arian yn ôl. Yna byddwch chi'n mynd i sgrin sy'n dweud 'confirm your carer status'. I wneud hyn, lanlwythwch y sgrinlun o'ch cerdyn gweithiwr gofal roeddech chi wedi'i gymryd ar y dechrau fel prawf eich bod yn gweithio ym maes gofal.

Ar ôl cofrestru ar gyfer y cerdyn, dylech chi dderbyn eich cerdyn o fewn saith diwrnod gwaith, ond rhowch hyd at 14 diwrnod gwaith i'ch cerdyn gyrraedd cyn ceisio cysylltu â Discounts for Carers. Mae mwy o wybodaeth am y cerdyn yma.

Sut i gymryd ac arbed sgrinlun ar eich ffôn clyfar

Ar gyfer iPhone:

  • pwyswch y botwm hafan a'r botwm pŵer ar yr un pryd
  • ar fodelau heb fotwm hafan, pwyswch y botwm pŵer a'r botwm sain i lawr.

Ar ffôn Android:

  • pwyswch y botwm pŵer a'r botwm sain i lawr ar yr un pryd
  • os nad yw hyn yn gweithio, rhowch gynnig ar bwyso'r botwm pŵer a'r botwm hafan ar yr un pryd neu rhowch gynnig ar sgubo’ch llaw i'r chwith neu'r dde ar draws y sgrin
  • fel arall, gwiriwch lawlyfr defnyddiwr eich ffôn, sydd i'w weld fel arfer ar eich ffôn neu drwy wneuthurwr eich ffôn.

Sut i wneud cais am gerdyn arian yn ôl os nad oes gennych chi ffôn clyfar

Gallwch wneud cais am gerdyn arian yn ôl ar wefan Discounts for Carers heb ffôn clyfar os oes gennych chi gyfeiriad e-bost (personol neu fusnes) a mynediad i'r rhyngrwyd.

Bydd angen i chi lawrlwytho delwedd o'ch cerdyn gweithiwr gofal ar eich gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith. Gallwch wneud hyn drwy:

Ar liniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith Windows:

  • Cadw sgrinlun sgrin lawn: Allwedd Windows + PrtScn
  • Cadwch sgrinlun o ffenestr sengl: Allwedd Windows + Alt + PrtScn

Ar gyfrifiadur Mac:

  • Cadwch sgrinlun sgrin lawn:  Command+Shift+3
  • Cadwch sgrinlun o ffenestr sengl:  Command+Shift+4, pwyswch yr allwedd Space, yna cliciwch ar y ffenestr rydych chi am ei dal.
  • Arbedwch sgrinlun o’ch dewis:  Command+Shift+4, yna dewiswch yr ardal rydych chi am ei dal gyda'ch cyrchwr llygoden.

Beth os ydw i'n cael trafferth lawrlwytho fy ngherdyn?

Os na allwch chi lawrlwytho eich cerdyn, cysylltwch â ni yn careworkercard@socialcare.wales

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych chi’n chwilio amdano, cysylltwch â ni.

Os yw'ch cwestiwn yn ymwneud â chynigion Discounts for Carers neu'r cerdyn arian yn ôl, cysylltwch â Discounts for Carers.