Pecyn Hyfforddiant Sylfaenol Cymru Gyfan ar Ymwybyddiaeth o Ddiogelu
Rydym yn cynllunio i ddiweddaru’r pecyn Hyfforddiant Sylfaenol Cymru Gyfan i gynnwys Gweithdrefnau Diogelu Cymru newydd.
Os ydych yn defnyddio’r pecyn i gyflwyno hyfforddiant cyn bod y fersiwn ddiwygiedig ar gael, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn a chyfeirio at Weithdrefnau Diogelu Cymru a rhan 7 o’r canllawiau statudol yn yr hyfforddiant.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Mae'r pecyn hwn i gefnogi pob gweithiwr ym maes gofal cymdeithasol, yn y trydydd sector a sawl rôl arall sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg.
Nod y pecyn yw darparu neges gyson ynglŷn â chyfrifoldebau Diogelu ledled Cymru.
Mae’r pecyn yn gyffredinol ar y cyfan ond mae modd i’r hyfforddwr deilwra’r hyfforddiant i unrhyw anghenion dysgu penodol sydd gan ei gynulleidfa.
Mae’r cynnwys wedi esblygu i adlewyrchu natur gyfnewidiol Diogelu yn gyffredinol ond hefyd i adlewyrchu cyfeiriad clir y gwaith o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Pwy ddylai ddefnyddio'r pecyn?
Mae'r pecyn hwn ar gyfer y rhai hynny sy'n:
- newydd i ddiogelu
- edrych i adnewyddu eu gwybodaeth am ddiogelu
- hwyluso hyfforddiant diogelu mewnol
- gweithio neu wirfoddoli yn y sector preifat, cyhoeddus neu'r trydydd sector
- pwy sydd mewn cysylltiad â phlant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl.
Sut bydd y pecyn yn eich helpu chi?
Bydd yr pecyn hwn yn eich helpu chi:
- adnabod gwahanol fathau o niwed
- adnabod camdriniaeth ac esgeuluso
- deall sut y gellir gwarchod unigolion.
1. Adnoddau hyfforddwyr
Adnoddau a ddarperir yn benodol ar gyfer yr hyfforddwr i'w helpu i baratoi i gyflwyno'r hyfforddiant a chefnogi achrediad.








2. Adnoddau'r dysgwr
Adnoddau y gall y dysgwr eu defnyddio ar gyfer eu datblygiad personol a phroffesiynol.




3. Deunyddiau hyfforddi
Adnoddau hyfforddi i helpu dysgwyr a chefnogi eu gwybodaeth.













4. Adnoddau gweithgaredd
Resources to support interactive learning, will require some trainer preparation before delivery of training.







5. Adolygiadau ymarfer
Er mwyn archwilio materion Diogelu yn ddyfnach fel y canfyddir mewn detholiad o achosion mawr, gall hyfforddwr ddewis pa rai i'w defnyddio. Cynnwys sensitif, rydym yn cynghori rhybudd.









Diogelu a'r Ddeddf
Mae adnoddau pellach, yn enwedig am y gofynion diogelu yn y Ddeddf Lles (Cymru) Gwasanaethau Cymdeithasol ac, ar gael ar yr Hyb Gwybodaeth a Dysgu.
Adnoddau Diogelu eraill
Adnoddau Diogelu Ychwanegol i helpu Cynghorwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth.




Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiwn Cysylltwch â ni.