CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Mytholeg a ffeithiau am ddementia

Mae ‘na fytholeg gyffredin o gwmpas dementia

Myth 1: Mae dementia yn rhan naturiol o heneiddio

Tra bod oedran yn ffactor risg sylweddol wrth ddatblygu dementia, ni fydd pob person hŷn yn cael dementia.

Mae 850,000 o bobl yn byw gyda dementia yn y DU. O’r rhain mae 42,325 o dan 65. Enw hwn yw dementia Cychwyn yn Ifanc.

Mae 1 o bob 6 o bobl dros 80 oed yn byw gyda dementia. Mae hyn yn meddwl bod 5 o bob 6 o bobl dros 80 oed yn byw heb ddementia.

Mae canrannau’r bobl sy’n cael ei heffeithio gan ddementia’n gostwng gyda grwpiau iau:

1 ym mhob 14 o bobl dros 65 oed

1 ym mhob 688 o bobl o dan 65 oed

(Ffynhonnell: Dementia UK, 2014)

Myth 2: Hap a damwain yw hi os ydych chi’n cael dementia

Dydyn ni ddim yn deall achosion dementia’n llawn, ond rydym yn dysgu bod ‘na bethau allen ni eu gwneud i ostwng ein ffactorau risg:

  • Gwneud rhyw fath o ymarfer corff
  • Cadw pwysau iach
  • Cymdeithasu
  • Osgoi yfed gormod o alcohol
  • Rhoi’r gorau i ysmygu
  • Ymroi i adolygu eich iechyd

Wrth wneud hyn, mi allwn ostwng ein ffactorau risg gan hyd at 60 y cant.

Myth 3: Mae pobl gyda dementia fel babanod

Mae rhai o bobl yn sôn am bobl gyda dementia yn mynd am yn nôl mewn oedran ac yn troi’n fabanod.

Dyw hyn ddim yn wir o gwbl.

Mae pobl sy’n byw gyda dementia wedi profi a chyflawni nifer o bethau yn eu bywyd ac mae’n niweidiol i feddwl amdanynt fel plant bach.

Mae’r syniad anghywir yma yn medru effeithio ar agweddau pobl drwy eu sbarduno nhw i drin y person fel plentyn a defnyddio termau fel ‘merch dda’ a ‘bachgen drwg’.

Mae’n hanfodol i chi herio hyn a thrin pobl gyda dementia gyda pharch ac urddas.

Astudiaeth achos

Astudiaeth achos i'ch helpu chi wella eich ymarfer am sut mae mwy i'r person na dementia.

Dolenni ymchwil

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg byr pedair cwestiwn.