CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Atodiad 1: canllawiau ar gyfer penodi hyfforddwyr

Safonau a chyngor i gomisiynwyr, a phethau i'w hystyried.

Ar gyfer pwy mae'r canllaw hwn

Mae'r canllaw hwn ar gyfer:

  • unrhyw un sy'n comisiynu neu'n penodi hyfforddwyr cyflogedig i redeg hyfforddiant diogelu yng Nghymru i'r gweithlu ar gyfer plant ac oedolion sy'n wynebu risg
  • pobl sydd eisiau rhedeg hyfforddiant diogelu penodol neu generig
  • pobl sy'n comisiynu hyfforddwyr mewnol
  • pobl sy'n cynnal hyfforddiant diogelu fel rhan o rôl swydd ehangach.

Dylai eich helpu i benodi hyfforddwyr effeithiol a phriodol.

Dylech ei ddefnyddio yn ychwanegol at y safonau sefydliadol ar gyfer gweithdrefnau comisiynu.

Pam ei bod yn bwysig cael yr hyfforddwr cywir

Mae diogelu yn bwnc arbennig a heriol iawn i'w gyflwyno.

Mae angen i hyfforddwyr fod yn sensitif, yn wybodus ac yn gredadwy.

Mae’n bwysig bod ymarferwyr yn cael yr hyfforddiant cywir, fel eu bod yn gymwys i wneud eu rôl diogelu.

Dewis yr hyfforddiant cywir

Mae sefydliadau'n gyfrifol am ddewis yr hyfforddiant perthnasol ar gyfer eu staff.

Mae gan sefydliadau gyfrifoldeb i sicrhau bod cyfleoedd hyfforddi, dysgu a datblygu ar gael i'w staff.

Mae gan weithwyr gyfrifoldeb i sicrhau eu bod yn cymryd rhan mewn cyfleoedd hyfforddi, dysgu a datblygu.

Ond efallai y bydd adegau pan:

  • mae dysgwr yn mynychu cwrs neu ddigwyddiad nad yw'n cyd-fynd â'i rôl ddiogelu bresennol
  • nid yw dysgwr wedi gwneud digon o ddysgu cyn cwrs neu ddigwyddiad i baratoi'n iawn.

Efallai y bydd hyfforddwyr ar y cyrsiau hyn am gael sgwrs gynnil gyda’r dysgwr am gyrsiau eraill, mwy priodol, a gwahodd y dysgwr i adael y cwrs neu ddigwyddiad.

Safonau hyfforddwr

Er mwyn sicrhau bod pawb yn cael yr un ansawdd o hyfforddiant, mae'n bwysig bod hyfforddwyr yn cadw at yr un set o safonau.

Safon 1

Mae angen i hyfforddwyr fod yn ymarferwyr sydd â phrofiad priodol neu'n hyfforddwr cymwys.

Dylai fod ganddynt wybodaeth ymarferol helaeth am ddiogelu o gefndir perthnasol (er enghraifft: gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol, addysg gwaith, ieuenctid neu’r heddlu).

Safon 2

Mae’r holl hyfforddiant diogelu yn gysylltiedig â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, sy’n cael eu hadolygu a’u diweddaru.

Rhaid i hyfforddwyr ddangos eu bod yn gwybod am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn benodol Rhan 7 (Diogelu).

Safon 3

Mae angen i hyfforddiant gael nodau ac amcanion clir. Mae angen iddo hefyd fodloni canlyniadau dysgu cytûn, a chael effaith gadarnhaol ar arfer dysgwyr.

Safon 4

Mae angen i hyfforddi a datblygu:

  • fod wedi'i llywio gan ymchwil gyfredol
  • fod yn seiliedig ar dystiolaeth
  • gynnwys gwersi o adolygiadau ymarfer plant neu oedolion (Adolygiadau Diogelu Unedig), polisi lleol a chenedlaethol, a datblygiad ymarfer.

Safon 5

Rhaid i ddeunyddiau hyfforddi fod yn glir, yn gywir, yn berthnasol ac yn gyfredol.

Rhaid iddynt fod ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Safon 6

Bydd yr hyfforddiant yn cael ei wneud gan hyfforddwyr sydd â phrofiad hyfforddi perthnasol, a all brofi eu sgiliau a'u cymwyseddau.

Dylai hyfforddwyr fod wedi cwblhau, neu fod yn gweithio tuag at, raglen ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’ neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol.

Safon 7

Bydd hyfforddiant yn cael ei wneud mewn amgylchedd hygyrch sy’n briodol ar gyfer dysgu.

Dylai unrhyw un sy'n gorfod gwneud yr hyfforddiant gael y cyfle i fynychu.

Safon 8

Dylai fod gan hyfforddiant ethos sy'n gwerthfawrogi gweithio ar y cyd ag eraill, ac sy'n parchu amrywiaeth.

Dylai hyfforddiant hefyd fodloni safonau ar gyfer y Gymraeg, hil, crefydd ac anabledd, a hyrwyddo cydraddoldeb.

Safon 9

Bydd hyfforddiant yn cael ei werthuso i sicrhau bod safonau'n cael eu cadw, a'i fod yn gwella arfer yn y tymor hir a'r tymor byr.

Safon 10

Dylai hyfforddiant roi’r plentyn neu’r oedolyn yn ganolog a hybu pwysigrwydd deall profiad bywyd beunyddiol y plentyn neu’r oedolyn.

Safon 11

Dylai hyfforddiant annog trafodaeth iach a her briodol, a chefnogi dysgu gan gymheiriaid.

Safon 12

Dylai hyfforddiant roi cyfle i ddysgwyr rannu pryderon, cael eu cefnogi gyda materion sensitif a chael eu cyfeirio at, neu ddweud wrthynt am, y gwasanaeth cywir.

Dylai hyfforddwyr esbonio a chadw'r lefel cyfrinachedd briodol.

Yr hyn y mae angen i hyfforddwyr ei ystyried

Dylai’r hyfforddwr wybod am bolisïau diogelu’r sefydliad comisiynu a’i weithdrefnau hysbysu.

Dylai hyfforddwyr hefyd wybod y polisïau, y gweithdrefnau a’r protocolau ar gyfer y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yn y rhanbarth y maent yn ei hyfforddi.

Efallai y bydd angen i'r hyfforddwr drosglwyddo pryderon a godwyd gan unrhyw un yn ystod yr hyfforddiant i rywun uwch.

Profi eich bod yn cyrraedd y safonau

ylai’r comisiynydd hyfforddiant ystyried pa dystiolaeth y gellid ei chyflwyno i gefnogi pob un o’r safonau.

Efallai y bydd angen i hyfforddwyr ddarparu tystiolaeth cyn neu ar ôl hyfforddiant.

Er enghraifft, dylai Safonau 3, 4, 5, 8 a 9 ymddangos fel gofynion mewn proses dendro neu gomisiynu.

Gallai tystiolaeth neu gymwysterau’r hyfforddwr ateb Safonau 1, 2, 6, 10, 11 a 12.

Gallai tystiolaeth gynnwys:

  • tystysgrifau hyfforddi
  • CV
  • tystebau
  • gwerthusiadau cyrsiau blaenorol.

Byddai'n ddefnyddiol i hyfforddwyr:

  • roi sampl o'u deunyddiau hyfforddi eu hunain
  • ddisgrifio sut maent yn defnyddio adnoddau dysgu cydnabyddedig
  • ddangos eu bod yn deall sut mae’r cyrsiau diogelu y maent yn eu cyflwyno yn berthnasol i’r darlun ehangach (er enghraifft: Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol).

Bydd comisiynwyr hyfforddiant yn ystyried dealltwriaeth eang yr hyfforddwr o:

Gwerthuso'r hyfforddiant

Dylai'r comisiynydd ofyn i'r hyfforddwr:

  • sut y byddant yn gwerthuso'r dysgu sy'n digwydd yn ystod y cwrs
  • sut y byddant yn gwerthuso profiad y dysgwyr o'r cwrs
  • sut y gallent werthuso effaith hirdymor y dysgu ar ymarfer.

Efallai y bydd y comisiynydd yn dymuno mynchu neu wylio rhywfaint, neu’r cyfan, o’r hyfforddiant.

Gallant wneud hyn yn bersonol, neu anfon rhywun i fynychu ar eu rhan, a gofyn am adborth uniongyrchol gan y dysgwyr.

Gall y comisiynydd ddefnyddio’r adborth a’r gwerthusiad i benderfynu a fydd yn llogi’r un hyfforddwr yn y dyfodol.

GDPR, cyfrinachedd a chodi pryderon mewn hyfforddiant

Bydd disgwyl i’r hyfforddwr drin gwybodaeth bersonol pob dysgwr â pharch yn unol â GDPR. Dim ond ar gyfer yr hyfforddiant y maent ar fin ei gynnal y gallant ddefnyddio’r wybodaeth hon.

Gall dysgwyr godi materion neu ofyn cwestiynau yn yr hyfforddiant y gallai fod angen i'r corff comisiynu eu hystyried.

Dylai'r hyfforddwr rannu'r rhain gyda'r comisiynydd.