CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Grŵp E

Trosolwg

Rolau Grŵp E sydd â’r gair olaf am benderfyniadau diogelu yn ystod y broses ddiogelu.

Gallant roi cyngor ar sefyllfaoedd lefel uchel, cymhleth. Maent yn ‘gwneud penderfyniad’ am unrhyw benderfyniadau diogelu y mae angen eu gwneud.

Ni ellir gwneud rhai penderfyniadau yn y broses ddiogelu o dan y lefel hon.

Mae’r rhain yn cynnwys y lefelau uwch o becynnau gofal a chefnogaeth (lleoliadau) sydd eu hangen weithiau oherwydd pryderon diogelu.

Efallai na fydd gan rai asiantaethau bobl sy’n gweithio ar y lefel hon oherwydd y lefel uchel o arbenigedd, gwybodaeth a phwerau gwneud penderfyniadau sydd eu hangen yn y broses ddiogelu.

Byddai'r bobl sy'n gweithio ar y lefel hon hefyd yn cynghori asiantaethau eraill ar eu maes arbenigedd. Byddent yn gallu arwain gwaith diogelu rhanbarthol neu genedlaethol yn eu maes arbenigedd.

Byddent yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn grwpiau rhanbarthol neu genedlaethol sy’n edrych ar faterion diogelu, gan gynnwys mentrau cenedlaethol ac adolygiadau cymhleth.

Nid ymarferwyr Grŵp E o reidrwydd fyddai’r bobl ar y lefelau uchaf mewn sefydliadau, gan y gallai’r rhain fod yng ngrŵp F (a fyddai’n cynnwys aelodau etholedig, aelodau bwrdd a phrif weithredwyr).

Efallai y bydd yn rhaid iddynt gynghori pobl yng ngrŵp F.

Mae gan bobl yng ngrŵp F bwerau gwneud penderfyniadau uwch yn gyffredinol ond ni fyddent yn cymryd rhan ym manylion y broses ddiogelu nac yn gwneud penderfyniadau am y broses.

Egwyddorion cofiadwy

  • Mae gennyf oruchwyliaeth strategol ar yr holl faterion diogelu o fewn y sefydliad.
  • Byddaf yn anelu at wneud yn siŵr bod gennym ddigon o adnoddau i gyflawni dyletswyddau diogelu’r sefydliad.
  • Byddaf yn defnyddio fy ngwybodaeth a'm dylanwad i wella arferion diogelu yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Yn ôl y safonau, mae angen i bobl yng ngrŵp E wybod:

  • y cymwyseddau craidd (os ydynt yn arweinwyr sector neu â rolau arbenigol)
  • sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
  • sut i gefnogi eraill i ddiogelu pobl.

Canlyniadau dysgu

Ar ddiwedd cyfnod o ddysgu a datblygu sy’n benodol i’w rôl diogelu, rhaid iddynt allu:

  • arwain a gwneud penderfyniadau i sicrhau bod camau diogelu yn cael eu cymryd yn gadarn ac yn amserol, a bod prosesau ar waith ar draws y sefydliad
  • arwain neu oruchwylio diogelu ansawdd a gwelliant yn y sefydliad a monitro newidiadau arfer
  • rhoi cyngor priodol i asiantaethau eraill ac i weithwyr proffesiynol diogelu arbenigol yn y sefydliad sy'n darparu gwasanaethau
  • arwain arloesedd a newid i wneud diogelu yn well yn y sefydliad
  • deall ac annog prosesau goruchwylio effeithiol, arfarnu, a chefnogaeth i ymarferwyr diogelu arbenigol
  • deall disgwyliadau atebolrwydd sefydliadol a sicrwydd ansawdd ar gyfer diogelu
  • meddu ar ddealltwriaeth fanwl o ddeddfwriaeth a gweithdrefnau diogelu
  • rhoi cyngor a thystiolaeth am benderfyniadau, prosesau a gweithdrefnau diogelu
    • deall systemau sy'n cefnogi:
    • gwerthuso
  • cydymffurfiad datblygiad y gweithlu a hyfforddiant ar gyfer diogelu
  • deall y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i arwain, cydlynu a chydweithio ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol
  • cymhwyso newidiadau o ddeddfwriaeth a chanllawiau
  • rhannu gwybodaeth a dysgu o adolygiadau ymarfer plant ac oedolion (Adolygiadau Diogelu Unedig) a gweithredu ar argymhellion.

Hyfforddiant, dysgu a datblygu

  • Rydym yn argymell yn gryf ffordd gyfunol o ddysgu. Bydd hyn yn cynnwys:
    • hyfforddiant ar-lein sylfaenol
    • ystafelloedd dosbarth rhithwir
    • addysgu a dysgu wyneb yn wyneb.
  • Dylid dysgu, lle bo hynny'n bosibl neu'n berthnasol, ag ymagwedd aml-asiantaeth.
  • Rhaid cael dysgu arbenigol ac asiantaeth sengl, a rhaid i hyn fod yn ychwanegol at ddysgu cyffredinol ac aml-asiantaeth.
  • Bydd cyfleoedd dysgu i ymarferwyr yn:
    • canolbwyntio ar ymchwil
    • seiliedig ar ganlyniadau
    • cynnwys sesiynau gwybodaeth byr wedi'u targedu
    • cynnwys dadansoddi astudiaethau achos cymhleth
    • defnyddio deunydd fideo ac ymarfer myfyriol.

Pethau i'w hystyried

Dylai dysgu gynnwys:

  • sesiynau gwybodaeth byrrach, wedi'u targedu
  • myfyrio
  • arfer dadansoddol sy'n canolbwyntio ar ymchwil ac sy'n seiliedig ar ganlyniadau.

Dylai hyfforddiant Grŵp E fod yn adfyfyriol ac fe'i cynhelir yn aml mewn sesiynau wedi'u hwyluso i annog rhyngweithio, myfyrio a dysgu.

Dylai ymarferwyr Grŵp E gadw cofnodion DPP ffurfiol o gyfleoedd dysgu y tu allan i hyfforddiant. (Er enghraifft: mynd i gyfarfodydd strategol.)

Faint o hyfforddiant, dysgu a datblygu?

  • Mae ymarferwyr sydd newydd eu penodi yng ngrŵp E yn cwblhau isafswm o oriau o hyfforddiant, dysgu a datblygiad diogelu yn eu chwe mis cyntaf. Gellir cytuno ar yr hyfforddiant hwn rhwng yr ymarferydd a'i reolwr llinell.
  • Bydd ymarferwyr yn cwblhau o leiaf 24 awr o hyfforddiant gloywi ym mhob cyfnod o dair blynedd.
  • Dylai ymarferwyr gadw cofnod DPP ffurfiol o gyfleoedd dysgu y tu allan i hyfforddiant rhithwir neu yn yr ystafell ddosbarth. (Er enghraifft: mynd i gyfarfodydd strategol.)