CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Pam mae diogelu yn bwysig

Mae diogelu pobl yn fusnes i bawb.

Pan ganfyddir cam-drin neu esgeulustod, dylid ymdrin ag ef yn gyflym, yn effeithiol ac mewn ffyrdd sy’n gymesur â’r pryderon a godwyd.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn egluro’n glir bod yn rhaid i’r plentyn, y person ifanc neu’r oedolyn fod yn ganolog i unrhyw ymateb diogelu.

Dylent fod, ac aros, mewn cymaint o reolaeth â phosibl dros wneud penderfyniadau.

Mae hawl sylfaenol plentyn, person ifanc neu oedolyn i gael eu clywed drwy gydol y broses ddiogelu yn elfen hollbwysig.

Dim ond staff sy’n cydnabod eu rolau a’u cyfrifoldebau diogelu sy’n gallu cynnig y cymorth personol sydd ei angen i wneud yn siŵr bod llais y plentyn, y person ifanc neu’r oedolyn yn cael ei glywed.

Mae’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol wedi ymrwymo i:

  • ddatblygu rhaglenni hyfforddi aml-asiantaeth o ansawdd uchel
  • gefnogi gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr mewn sefydliadau statudol, preifat a thrydydd sector i ddiogelu a hyrwyddo llesiant pobl (gan gynnwys atal ac amddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a niwed arall).