CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Strategaeth ymchwil i Gymru

Ein nod yw i ddefnyddio ymchwil i gefnogi ymarferwyr, cyflogwyr ac ymchwilwyr i gael gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio er mwyn helpu’r rhai sydd angen gofal, cymorth a chael eu hamddiffyn.

Ein huchelgais yw helpu i wella lles drwy gymhwyso polisi, ymarfer a gwasanaeth modelau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sydd yn canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Mae ein gweithgareddau wedi gosod allan yn ein cynllun ymchwil a datblygu pum mlynedd.

Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar bum maes;

  • cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil a datblygu gofal cymdeithasol
  • blaenoriaethau ymchwil
  • defnyddio data cyfredol a data a gesglir yn achlysurol
  • datblygu’r gweithlu a sefydliadau
  • gwneud canlyniadau ymchwil ar gael.

Mae’r strategaeth, a chafodd ei lansio yn Chwefror 2018, yn nodi 16 argymell ychwanegol o helpu i greu a gwella'r gwaith ymchwil a datblygu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydym hefyd wedi ysgrifennu cynllun gweithredu ar gyfer y strategaeth. Datblygwyd y ddwy ddogfen gyda phobl o wahanol rannau o'r sector yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy'n defnyddio gofal a chymorth, yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol a'r rheini o fewn meysydd ymchwil a pholisi.

Os mae gennych unrhyw sylwadau, adborth neu gwestiynau ar naill ddogfen neu a diddordeb yn fod yn rhan yn y dyfodol plîs Cysylltwch â ni.