CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Arolwg o'r gweithlu gofal cymdeithasol 2023

Trosolwg o ganfyddiadau ein harolwg o'r gweithlu cofrestredig.

Fe wnaethon ni gynnal arolwg o’r gweithlu cofrestredig rhwng mis Mawrth a mis Mai 2023.

Gweithion ni gyda chwmni o’r enw Opinion Research Services (ORS) i dreialu’r arolwg, a ofynnodd gwestiynau am bethau fel iechyd a llesiant, tâl ac amodau a beth mae pobl yn ei hoffi am weithio yn y sector.

Ymatebodd mwy na 3,000 ohonoch (chwech y cant o'r gweithlu cofrestredig), o ystod eang o rolau. Fe wnaethon ni bwysoli'r canlyniadau i weld beth y gallent ei ddweud wrthym am farn y gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig cyfan yng Nghymru.

Rhannwyd y canlyniadau hefyd yn dri grŵp yn seiliedig ar rolau – gweithwyr gofal, gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol.

Yma, rydyn ni'n darparu crynodeb o'r prif ganfyddiadau cyffredinol, yn ogystal â rhai ar gyfer pob un o'r tri grŵp.

Canfyddiadau cyffredinol

  • Dechreuodd 63 y cant weithio ym maes gofal cymdeithasol oherwydd eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
  • Mae'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan eu cydweithwyr (78 y cant) a'u rheolwr (66 y cant).
  • Mae'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo eu bod yn cael yr hyfforddiant cywir i wneud eu gwaith yn dda (79 y cant) ac yn meddwl bod cyfleoedd hyfforddi ar gael iddynt (75 y cant).
  • Mae hanner (50 y cant) o’r holl bobl gofrestredig nad ydynt eisoes mewn sefyllfa arwain yn credu y byddai’n bosibl iddynt fod yn arweinydd. Mae hyn yn uwch na’r gyfran a ddywedodd yr hoffent fod mewn sefyllfa arweinyddiaeth ar ryw adeg yn y dyfodol (36 y cant).
  • Mae mwy na hanner yn cytuno bod arweinwyr mewn gofal cymdeithasol yn dod o gefndiroedd gwahanol (53 y cant).
  • Mae gan 45 y cant rywfaint o allu yn y Gymraeg.
  • Er bod y rhan fwyaf yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl y maent yn eu cefnogi a'u teuluoedd (76 y cant), mae llai na hanner yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y cyhoedd (44 y cant) ac asiantaethau partner fel staff iechyd a'r heddlu (48%).
  • Mae 33 y cant o bobl gofrestredig yn ei chael yn 'eithaf anodd' neu'n 'anodd iawn' i'w ymdopi’n ariannol, tra bod 82 y cant yn ei chael 'ychydig' neu 'lawer' yn anoddach i'w ymdopi’n ariannol na blwyddyn yn ôl.
  • Mae ychydig dros chwarter (26 y cant) yn teimlo ei bod yn 'eithaf' neu'n 'debygol iawn' y byddant yn gadael y sector gofal cymdeithasol yn y 12 mis nesaf, ac mae 44 y cant yn teimlo o leiaf yn 'eithaf tebygol' o adael yn y pum mlynedd nesaf.
  • Y rhesymau mwyaf cyffredin a roddir dros ddisgwyl gadael yn ystod y 12 mis nesaf yw cyflog (66 y cant), teimlo'n orweithio (54 y cant) ac amodau cyflogaeth neu waith gwael (40 y cant).
  • Dywed y rhai mewn rolau uwch neu reoli mai argaeledd staff (72 y cant) ac ansawdd yr ymgeiswyr sy'n ymgeisio (72 y cant) yw'r heriau mwyaf a adroddwyd wrth recriwtio.

Fe wnaeth yr arolwg darganfod hefyd fod 37 y cant wedi profi bwlio, gwahaniaethu neu aflonyddu yn y gwaith. Rydyn ni'n gweithio i ddarganfod mwy am natur y profiadau hyn a sut y gallwn ni a'n partneriaid ddarparu cymorth orau.

Gweithwyr gofal

  • Mae'r rhan fwyaf (66 y cant) yn dweud bod eu swydd yn rhoi teimlad o waith wedi'i wneud yn dda iddynt.
  • Nid yw wyth y cant o weithwyr gofal yn siŵr ble i ddod o hyd i wybodaeth am iechyd a llesiant yn y gwaith.
  • Dim ond hanner sy’n cael tâl salwch, a dim ond 41 y cant sydd â mynediad at bolisïau sy’n ystyriol o deuluoedd fel gweithio hyblyg, absenoldeb gofalwr ac absenoldeb rhiant uwch.
  • Mae'r rhan fwyaf (61 y cant) yn anfodlon â'u cyflog, ac mae o leiaf 37 y cant yn ei chael hi'n eithaf anodd ymdopi’n ariannol ac yn anoddoach na blwyddyn yn ôl (dywedodd 81 y cant hyn).

Gweithwyr cymdeithasol

  • Dechreuodd tri chwarter (76 y cant) weithio ym maes gofal cymdeithasol oherwydd eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
  • Mae 38 y cant o weithwyr cymdeithasol yn anfodlon â'u swydd bresennol.
  • Mae traean (34 y cant) yn meddwl bod y staff cywir yn eu lle i ddarparu gwasanaethau.
  • Mae 77 saith y cant o weithwyr cymdeithasol yn dweud bod cael gormod o waith neu beidio â chael digon o amser i'w wneud yn achosi straen yn y gwaith.
  • Dim ond 23 y cant o weithwyr cymdeithasol sy'n teimlo'n ddiogel yn y gwaith.
  • Mae 40 y cant yn meddwl bod rhwystrau i gael mynediad at hyfforddiant yn y gwaith.

Rheolwyr gofal cymdeithasol

  • Ymhlith rheolwyr gofal cymdeithasol, mae 68 y cant yn fodlon â'u swydd bresennol.
  • Mae tua hanner (49 y cant) yn gweithio 40 awr neu fwy yr wythnos.
  • Mae mwy na thri chwarter (77 y cant) yn ei chael yn anodd diffodd pan fyddant yn gadael y gwaith.
  • Mae’r rhan fwyaf yn dweud bod gwell cyflog (78 y cant) a gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi (27 y cant) yn allweddol i wneud y sector yn lle mwy deniadol i weithio ynddo.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Cynhyrchodd ORS adroddiad ar ganfyddiadau'r arolwg. Gallwch lawrlwytho copi o'r adroddiad llawn yma.