CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Adroddiadau'r gweithlu

Rydyn ni'n cynnal arolwg blynyddol i gael data a gwybodaeth am y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn cyhoeddi adroddiadau data cofrestru am y wybodaeth a roddir i ni gan ymgeiswyr a phersonau cofrestredig.

Adroddiad y gweithlu gofal cymdeithasol

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cipolwg o’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydyn ni'n casglu’r data gyda chymorth awdurdodau lleol a darparwyr a gomisiynir – sy’n cynnwys busnesau masnachol a sefydliadau di-elw a'r trydydd sector.

Adroddiadau Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol

Mae'r Bartneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn darparu gwybodaeth am weithlu darparwyr gofal allanol a gomisiynwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Adroddiadau data cofrestru 2022

Bob blwyddyn rydym yn cyhoeddi adroddiadau data ar y wybodaeth a roddir i ni gan ymgeiswyr a phersonau cofrestredig.

Ar gael ar ein gwefan mae'r adroddiadau am y pedair blynedd diwethaf, os ydych am weld adroddiadau data cofrestru hŷn cysylltwch â ni.

Adroddiadau data cofrestru 2021

Adroddiadau data cofrestru 2020

Adroddiadau data cofrestru 2019

Adroddiadau data cofrestru 2018

Adroddiadau data cofrestru 2017

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cyhoeddwyd gyntaf: 15 Tachwedd 2019
Diweddariad olaf: 14 Mehefin 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (48.2 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch