CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Casgliad data'r gweithlu 2023

Rydyn ni’n casglu data am y gweithlu gofal cymdeithasol fel rhan o adroddiad rydyn ni’n ei gynhyrchu bob blwyddyn.

Bydd casgliad eleni yn parhau tan ddiwedd mis Gorffennaf.

Beth yw casgliad data’r gweithlu?

Rydyn ni’n casglu data am y gweithlu bob blwyddyn i roi cipolwg ar y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Gofynnwn i awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau annibynnol anfon data atom ar niferoedd a nodweddion eu gweithlu.

Rydyn ni wedi cynnal y casgliad ers 2021, ar ôl i Fframwaith perfformiad a gwella ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru Llywodraeth Cymru ddisodli casgliadau blaenorol gydag un broses a reolir gennym ni.

Mae'r casgliad yn wahanol i'r wybodaeth sy’n cael ei gyhoeddi am y gweithlu cofrestredig gan ei fod yn casglu data ar bawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Mae hefyd yn edrych ar bethau fel contractau ac oriau gwaith, yn ogystal â'r rhai sy'n ymuno a gadael, i ble maen nhw’n symud ac o ble.

Pam ydym ni'n casglu'r data?

Rydyn ni’n casglu’r data i gael gwell dealltwriaeth o’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae hyn yn gwella ein gallu i wneud penderfyniadau gwybodus ac yn seiliedig ar dystiolaeth am y gweithlu, fel y gellir eu grymuso i gefnogi pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth yn well.

Cawsom ni’r cyfrifoldeb o gasglu’r data hwn gan ein bod yn rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cyn 2021, casglwyd y data sawl gwaith gan wahanol sefydliadau. Roedd hyn yn golygu bod gwaith yn aml yn cael ei ailadrodd yn ddiangen.

Beth ydym ni'n ei wneud gyda'r data?

Rydyn ni’n dadansoddi’r data ac yn ei gyflwyno mewn adroddiad rydyn ni’n gyhoeddi bob blwyddyn, sy’n rhoi trosolwg o’r gweithlu cyfan ac yn dadansoddi’r canfyddiadau ar gyfer gwahanol leoliadau.

Gallwch weld adroddiad 2022 yma.

Byddwn ni hefyd yn defnyddio’r data i gynhyrchu erthyglau a chynnwys cysylltiedig am wahanol agweddau ar ein canfyddiadau drwy Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru.

Beth sy'n newydd ar gyfer 2023?

Rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau i’r broses ar gyfer casgliad eleni.

  • Ni fyddwn yn casglu data ar ofalwyr maeth, gan fod llawer o’r un data eisoes yn cael ei gasglu gan y Fframwaith Maethu Cenedlaethol. Nid yw gofalwyr maeth yn dechnegol yn weithwyr cyflogedig chwaith, felly efallai na fydd cwestiynau am gyflogaeth yn berthnasol iddyn nhw.
  • Mae contractau dim oriau a chontractau achlysurol bellach yn cael eu trin fel dau fath o gytundeb ar wahân.
  • Mae rolau nyrsys cofrestredig bellach wedi’u rhannu’n ddwy lefel profiad – ‘newydd gymhwyso (blwyddyn gyntaf yn ymarfer)’ a ‘nyrsys cofrestredig (blwyddyn neu fwy)’.
  • Rydyn ni wedi cyflwyno dwy lefel o gasglwr data – ‘lefel sefydliad’ a ‘lefel cyfeiriad gwaith’. Mae hyn yn golygu y bydd gan gasglwyr data sefydliadau (lefel sefydliad) drosolwg gwell o’r data a gyflwynir gan y lleoliadau unigol (lefel cyfeiriad gwaith) sy’n bwydo i mewn i’w casgliad.
  • Bydd crynodebau a dashfyrddau newydd yn GCCarlein yn rhoi mynediad i ddarparwyr at y data y maent wedi’i anfon atom ers 2022.

Beth sydd angen i chi ei wneud

Rydyn ni angen i'ch sefydliad anfon data atom drwy GCCarlein.

Os ydych yn gasglwr data ar gyfer eich sefydliad, dylech weld ‘Casgliad Data’r Gweithlu’ yn ymddangos yn y ddewislen uchaf ar ôl mewngofnodi i’ch cyfrif GCCarlein.

Unwaith y byddwch wedi clicio drwodd i’r ardal casgliad data, fe welwch ganllawiau ar sut i gwblhau eich datganiad.

Os nad ydych yn siŵr pwy yw’r casglwr data ar gyfer eich sefydliad, cysylltwch â data@gofalcymdeithasol.cymru.

Angen mwy o gymorth?

Cysylltwch â ni ar data@gofalcymdeithasol.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ystod unrhyw gam o’r broses.