CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Dychwelyd i ymarfer gwaith cymdeithasol

Os nad ydych wedi cofrestru’n weithiwr cymdeithasol neu os nad ydych wedi bod yn ymarfer fel gweithiwr cymdeithasol ers tro, mae’n bosibl y bydd angen i chi roi tystiolaeth ychwanegol i ni eich bod yn addas i ymarfer os ydych chi am ddychwelyd i weithio fel gweithiwr cymdeithasol.

Mae hyn yn berthnasol os ydych chi'n:

• gweithiwr cymdeithasol sydd wedi cael profiad o waith cymdeithasol ers cymhwyso, ond sydd heb gofrestru ers tair blynedd neu fwy
• gweithiwr cymdeithasol nad yw wedi ymarfer ers cymhwyso dros dair blynedd yn ôl.

Beth fydd angen i chi ei wneud

Bydd angen i chi:

Os oes rhaid i chi gyflwyno portffolio, bydd angen i chi dalu £200 o ffi ar gyfer asesu eich portffolio, a ffi eich cais. Os cymhwysoch chi ar ôl 1 Ebrill 2016, bydd angen hefyd i chi gwblhau (neu fod wedi cwblhau) y Rhaglen Gadarnhau ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso.

Os cymhwysoch chi y tu allan i Gymru, gallwch ddefnyddio cymhwyster cyfwerth, fel rhaglen y flwyddyn gyflogaeth wedi’i hasesu a’i chefnogi (ASYE).

Faint o dystiolaeth y bydd angen i chi ei dangos i ni

Bydd faint o dystiolaeth y bydd angen i chi ei dangos i ni yn dibynnu am ba hyd y buoch chi i ffwrdd o’r Gofrestr:

  • os bu’n llai na thair blynedd ers i chi gofrestru’n weithiwr cymdeithasol, bydd angen i chi anfon eich cofnod DPP atom i ddangos sut rydych chi’n bodloni’r gofyniad datblygiad proffesiynol parhaus. Ar hyn o bryd, mae hwn yn 90 awr dros dair blynedd
  • os bu rhwng tair a chwe blynedd ers i chi gofrestru’n weithiwr cymdeithasol, mae angen i’ch portffolio ddangos 180 awr o wybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol
  • os bu dros chwe blynedd ers i’ch cofrestriad ddod i ben ac nid ydych wedi cofrestru ers hynny, mae angen i’ch portffolio ddangos eich bod wedi treulio 360 awr yn diweddaru eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth broffesiynol
  • os nad ydych erioed wedi cofrestru a chymhwysoch chi’n weithiwr cymdeithasol dros chwe blynedd yn ôl, mae angen i’ch portffolio ddangos eich bod wedi treulio 360 awr yn diweddaru eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth broffesiynol.

Byddwn yn edrych ar eich tystiolaeth ac yn defnyddio’r meini prawf i benderfynu a yw’n dangos gwybodaeth a dealltwriaeth gyfredol briodol i ni brosesu eich cais.

Os bydd angen mwy o dystiolaeth arnom, rhown wybod i chi.

Cewch flwyddyn i ddarparu mwy o dystiolaeth a byddwn yn asesu a yw’n gwneud yn iawn am y dystiolaeth a oedd yn brin.

Pa dystiolaeth gallwch chi ei defnyddio i lunio portffolio

Gweithgareddau

Os bydd angen i chi roi portffolio at ei gilydd, gallwch gynnwys enghreifftiau o:

  • astudio neu hyfforddiant ffurfiol trwy gyrsiau neu raglenni wedi’u hachredu
  • astudio preifat, gan gynnwys ymchwil a gwaith darllen perthnasol
  • seminarau
  • addysgu
  • gweithgareddau eraill, y gellid disgwyl yn rhesymol eu bod yn symud datblygiad proffesiynol gweithiwr cymdeithasol yn ei flaen
  • ymarfer dan oruchwyliaeth neu gysgodi ymarfer, gan gynnwys gwaith prosiect, cysgodi gwaith cymdeithasol, gwaith gwirfoddol perthnasol, a myfyrio ar ymarfer gwaith cymdeithasol a’i ddadansoddi

Os penderfynwch chi gynnwys ymarfer dan oruchwyliaeth neu gysgodi ymarfer, bydd angen cytundeb arnoch gyda’ch cyflogwr. Cytundeb ffurfiol yw hwn, a ddylai:

  • ddisgrifio pa weithgareddau y byddwch chi’n eu gwneud
  • cynnwys y cyfnod y mae’r cytundeb a’r lleoliad yn ei gwmpasu
  • gwneud yn siŵr bod goruchwyliwr i oruchwylio’ch lleoliad
  • gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich goruchwylio’n briodol ac yn cael cyfleoedd i fyfyrio ar eich dysgu
  • gwneud yn siŵr na fyddai unrhyw gysylltiad heb oruchwyliaeth â phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth, neu ofalwyr, yn cael ei ganiatáu
  • cynnwys cadarnhad o’ch lleoliad a’r gweithgareddau gan eich cyflogwr.

Os ydych wedi gweithio fel gweithiwr cymdeithasol cymwysedig yn y gorffennol, gallwch ddefnyddio astudiaethau preifat ar gyfer hyd at 50 y cant o’ch portffolio.

Os nad ydych erioed wedi gweithio fel gweithiwr cymdeithasol cymwysedig, gallwch ddefnyddio astudiaethau preifat ar gyfer hyd at 25 y cant o’ch portffolio.

Dogfennau

Dylai eich portffolio gynnwys:

  • tystysgrifau i ddangos eich bod wedi cwblhau neu fynychu cyrsiau
  • tystiolaeth neu werthusiadau byr o gysgodi ymarfer neu ymarfer arall
  • rhestr o’r llyfrau a ddarllenoch ar gyfer gwaith, i ddatblygu eich ymarfer.

Mae angen i’ch portffolio ddangos bod eich dysgu yn berthnasol i ymarfer gwaith cymdeithasol cyfredol. Hefyd, bydd angen i chi ddangos sut mae eich dysgu yn cyfrif am:

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddychwelyd i ymarfer, e-bostiwch ein tîm cofrestru: ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru.