CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Gwasanaeth anogaeth arloesedd

Rydyn ni wedi lansio gwasanaeth anogaeth arloesedd am ddim i gefnogi datblygiadau gofal cymdeithasol addawol ledled Cymru.

Beth yw'r gwasanaeth anogaeth arloesedd?

Ein gwasanaeth anogaeth yw’r cyntaf o’i fath ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’n rhoi mynediad i chi at dîm o anogwyr a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich syniadau i wella arfer, prosesau, gwasanaethau a chanlyniadau.

Os oes gennych chi syniad gwych yr hoffech chi ei brofi, rydyn ni yma i'ch cefnogi chi i wneud hynny'n ddiogel ac i'w helpu i gyrraedd ei botensial llawn.

Pam ydym ni wedi creu'r gwasanaeth?

Fe wnaethon ni greu ein gwasanaeth anogaeth i helpu i arwain a chefnogi’r arloesedd sy’n digwydd ar draws y system ofal i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio.

Rydyn ni'n gwybod bod pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn datblygu syniadau newydd am y ffordd maen nhw'n gweithio drwy'r amser. Mae ein tîm yma i helpu eich syniad i gael yr effaith fwyaf posibl.

Ar gyfer pwy mae e?

Mae'r gwasanaeth ar gyfer pobl mewn rolau gofal cymdeithasol sy'n gweithio i arloesi neu wella eu hymarfer i ddarparu gwasanaethau gofal gwell.

Rydyn ni am glywed gan bobl ar unrhyw gam o'u gyrfa sydd â syniadau y maent am eu profi ar lawr gwlad.

O 25 Medi i 6 Hydref, wnaethon ni ofyn am eich syniadau i wella unrhyw agwedd o ymarfer neu wasanaethau gofal cymdeithasol, ar unrhyw gam datblygu.

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn cynnal tair ffenestr ymgeisio â ffocws ar gyfer mathau penodol o brosiectau.

  • Ffocws ar recriwtio – Byddwn yn edrych i gefnogi syniadau a phrosiectau sy'n gwella recriwtio yng ngofal cymdeithasol.
  • ‘Hyfforddi’r hyfforddwr’ – Byddwn yn chwilio am gyfleoedd i gefnogi pobl sy’n helpu eraill i arloesi.
  • Cefnogi mentrau partneriaid – Byddwn yn edrych i bartneru â mentrau sydd eisoes yn cefnogi arloesedd yn y sector.

Byddwn yn dal i ystyried prosiectau eraill yn ystod y ffenestri ffocws hyn, felly cysylltwch â ni os oes gennych syniad gwych yr hoffech ei archwilio.

Dilynir pob ffenestr gan gyfnod dethol o bythefnos, gyda'r anogaeth ei hun yn para chwe wythnos.

Sut mae'n gweithio?

Anfonwch eich syniadau atom a byddwn yn ystyried sut y gallwn eich cefnogi orau.

Os caiff eich prosiect ei ddewis i fod yn rhan o’r gwasanaeth anogaeth, byddwch yn cael cymorth ar-lein gan ein tîm o anogwyr, sy’n arbenigwyr ar gyflawni newid.

Byddan nhw’n eich helpu i ddatrys problemau ac yn magu’r hyder i barhau i ddefnyddio’ch ffordd newydd o weithio unwaith y bydd yr anogaeth wedi dod i ben.

Gall y gwasanaeth eich cefnogi o'r syniad i'r gweithredu. P'un a oes angen i chi brofi syniad neu ddatblygu ffordd o ddeall ei effaith, gallwn ni helpu.

Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn y gwasanaeth anogaeth yn gymwys i ymuno â’n ‘clwb anogaeth' – rhwydwaith o eraill sydd wedi bod drwy’r un broses.

Hyd yn oed os na chaiff eich prosiect ei ddewis i fod yn rhan o’r gwasanaeth anogaeth, byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i gymorth arall i’ch helpu i symud eich prosiect yn ei flaen.

Sut i wneud cais

Rhowch drosolwg i ni o'ch prosiect neu syniad trwy lenwi ein ffurflen gais, neu anfonwch gais fideo byr i anogaetharloesedd@gofalcymdeithasol.cymru.

Bydd ein tîm anogaeth hefyd wrth law i helpu gyda'r broses ymgeisio, felly cysylltwch os oes cwestiynau gennych.

Angen mwy o wybodaeth?

Cysylltwch ag angharad.dalton@gofalcymdeithasol.cymru os hoffech wybod mwy am ein gwasanaeth anogaeth arloesedd.

Telerau ac amodau

Darllenwch telerau ac amodau ein gwasanaeth anogaeth arloesedd.