CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ein tîm rheoli
  • Sue Evans

    Prif Weithredwr

    Yn dilyn gyrfa amrywiol ym myd diwydiant ac yn y sector adwerthu, cymerodd Sue seibiant o waith cyflogedig i ddod yn ofalwr ac yn rhiant llawn-amser. Yna fe ailgydiodd yn ei haddysg uwch a bu'n gweithio gyda nifer o fudiadau gwirfoddol.

    Ymunodd Sue â'r GIG ym 1992, gan symud o Feddygaeth Iechyd y Cyhoedd i amryw swyddi rheoli. Daeth profiad Sue yn y sector gwirfoddol â hi at flaen y gad o ran diwallu anghenion plant, pobl ifanc ac oedolion ag anableddau. Fe daniodd hyn ei diddordeb mewn gyrfa ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a thai. Roedd ei rolau blaenorol yn y GIG yn canolbwyntio ar gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau iechyd (sylfaenol, cymunedol, acíwt a thrydyddol) yn Ne Ddwyrain Cymru, gyda diddordeb arbennig yn y rhyngwyneb rhwng y GIG a sefydliadau allanol.

    Rhwng 2006 a 2012, fy ymgymerodd Sue ag ystod o rolau fel Cyd-gyfarwyddwr a hithau'n gyfrifol am gynllunio, comisiynu a chyflawni gweithredol ar gyfer ystod o wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a thai. Roedd hyn yn cwmpasu rôl Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol, a gadwodd fel Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol a Thai gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen tan fis Gorffennaf 2016, pan ddaeth hi’n Brif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae gan Sue ddiddordeb brwd mewn hyrwyddo pwysigrwydd rôl gofal cymdeithasol i helpu i ddiogelu a gwella bywydau pobl, trwy rymuso yn ogystal â chymorth. Mae Sue yn awyddus i ddefnyddio'i phrofiad hi ei hun o fod yn ofalwr di-dâl er mwyn helpu i sicrhau bod gofal cymdeithasol ledled Cymru yn canolbwyntio ar y dinesydd.

  • David Pritchard

    Cyfarwyddwr Rheoleiddio

    Magwyd David yng Ngogledd Cymru a mynychodd Brifysgol Abertawe. Mae ei yrfa wedi ymestyn dros amser mewn sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol gyda ffocws ar wella profiad defnyddwyr. Yn ddiweddar ymunodd David â Gofal Cymdeithasol Cymru ar ôl gweithio i Lywodraeth Cymru.

    Yn ystod ei gyfnod yn Llywodraeth Cymru, fe oruchwyliodd raglen fawr o welliannau i wasanaethau cwsmeriaid. Ef oedd y swyddog arweiniol ar gyfer Operation Jasmine, adolygiad annibynnol o esgeulustod mewn cartrefi gofal yng Ngwent, ar ran y Prif Weinidog.

    Aeth David ymlaen i fod yn swyddog arweiniol ar gyfer Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Roedd hefyd yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW). Yna datblygodd a rheolodd David y rhaglen newydd ar gyfer gofal cymdeithasol a ddeilliodd o Wasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy: Fframwaith Gweithredu.

    Y tu allan i'r gwaith, mae David yn ymddiriedolwr elusen ar gyfer Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru. Mae wedi bod yn llywodraethwr ysgol yn Abertawe ac yn hyfforddwr siarad cyhoeddus. David oedd Cadeirydd cyntaf Cyngor Dadlau Ysgolion y Byd yn Singapore yn 2001.

    Mae David yn falch o weithio i sefydliad cenedlaethol sy'n cefnogi gwasanaethau effeithiol i bobl ledled y wlad.

  • Sarah McCarty

    Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu

    Dechreuodd Sarah ei gyrfa fel gweithiwr ieuenctid yng Nghymru. Bu'n gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau statudol a gwirfoddol yn arbennig gyda phobl ifanc agored i niwed, ac o ran cefnogi cyfranogiad pobl ifanc. Roedd yn un o aelodau sefydlu Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru gynt ac aeth ymlaen i ddal swyddi mewn awdurdodau lleol ym maes gwaith ieuenctid a chynllunio busnes ehangach, a gwella gwasanaethau, a hithau'n meddu ar Radd Meistr mewn Rheoli Strategol.

    Aeth Sarah ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Gweithredol Sgiliau ar gyfer Gofal a Datblygu lle bu'n gweithio i'r bartneriaeth sy'n weithredol ar lefel y DU gyfan o 2005. Daeth yn Gyfarwyddwr yn 2008 gan ehangu gwaith y Cyngor Sgiliau Sector i fynd i'r afael ag ystod eang o heriau o ran y gweithlu a wynebir gan y sector. Yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn gwirfoddoli fel Cadeirydd Elusen sy'n cefnogi pobl ifanc yn ogystal â bod yn ymwelydd annibynnol.

    Ymunodd Sarah â Gofal Cymdeithasol Cymru fel Cyfarwyddwr ym mis Ebrill 2016. Mae'n awyddus i ychwanegu ei phrofiad a'i harbenigedd o ran gweithio mewn partneriaeth, cefnogi gwelliant a datblygu'r gweithlu. Mae Sarah yn dysgu Cymraeg ac mae'n edrych ymlaen at roi'r hyn y mae wedi'i ddysgu ar waith.

  • Andrew Lycett

    Cyfarwyddwr Cyllid, Strategaeth a Gwasanaethau Corfforaethol

    Dechreuodd Andrew ei yrfa fel Cyfrifydd Siartredig mewn ymarfer yng Nghaerdydd. Symudodd ymlaen drwy rolau amrywiol cyllid uwch o fewn y GIG gan gynnwys cefnogi sefydlu cyrff GIG newydd a threfniadau comisiynu. Enillodd Radd Meistr mewn Gwasanaethau Cyhoeddus a Rheolaeth Strategol yn ystod y cyfnod hwn.

    Yna ymunodd Andrew â'r sector tai cymdeithasol fel Cyfarwyddwr Cyllid ar gyfer cymdeithas dai newydd ei sefydlu lle arweiniodd ar reolaeth ariannol a chynllunio a gwasanaethau corfforaethol. Gan adeiladu ar y profiad hwn, penodwyd Andrew yn Brif Weithredwr y Grŵp i arwain y gwaith o greu Cymuned Dai Cydfuddiannol lle arweiniodd ar sefydlu llais y tenant fel rhan o sefydlu diwylliant newydd sy'n seiliedig ar werthoedd, gan arloesi llawer o weithgareddau ymgysylltu ac adfywio cymunedol ar gyfer pobl leol a'u cymunedau.

    Cafwyd profiadau mwyaf diweddar Andrew yn y sector preifat fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau mewn busnes adeiladu sy'n datblygu systemau busnes a'r gallu i gefnogi twf cyflym.

    Mae gan Andrew gyfoeth o brofiad o ddarparu arweinyddiaeth strategol lwyddiannus, gan gynnwys sefydlu llywodraethu effeithiol, fframweithiau ariannol, cynllunio strategol a diwylliannau sy'n seiliedig ar werthoedd i gefnogi gweithlu sydd wedi'i rymuso.

    Yn ei amser hamdden mae Andrew yn mwynhau bod yn yr awyr agored yn coginio a gwneud gwaith coed gwyrdd. Mae'n aelod o Fwrdd Cymdeithas Tai. Mae Andrew yn angerddol am gefnogi pobl i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Ymunodd â Gofal Cymdeithasol Cymru ym mis Tachwedd 2020.