CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Adnoddau

Adnodd digidol wedi ei animeiddio, Templedi ar gyfer rhestrau gwirio, cytundebau lleoli gwaith a cofnodau myfyriol i gefnogi lleoliadau gwaith.

Gall cyflogwyr ddefnyddio'r rhestr wirio paratoi ar gyfer lleoliad fel cymorth cof i sicrhau bod pob agwedd ar gynnig lleoliad gwaith wedi'i hystyried.

Mae gan Gofalwn Cymru glipiau fideo ac astudiaethau achos am yr ystod o rolau sydd ar gael ym maes gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Mae partneriaeth ranbarthol Gwent wedi creu fideo wedi ei animeiddio sy'n tywys dysgwyr drwy'r prif bwyntiau i feddwl amdanynt wrth gymryd rhan mewn lleoliad.

Gall cyflogwyr ddefnyddio'r daflen wybodaeth lleoliad gwaith gyffredinol i hysbysebu cyfleoedd lleoli gwaith.

Gellir defnyddio'r daflen wybodaeth lleoliad gwaith benodol i roi gwybodaeth fanwl i ddysgwyr am eu lleoliad.

Mae'r cytundeb lleoliad darparwr dysgu / cyflogwr yn nodi gwybodaeth am leoliad a disgwyliadau'r darparwr dysgu a'r cyflogwr.

Mae'r cytundeb lleoliad cyflogwr / dysgwr yn nodi gwybodaeth am leoliad a disgwyliadau'r cyflogwr a'r dysgwr.

Gellir defnyddio'r rhestr wirio diwrnod 1 fel cymorth cof ar gyfer yr hyn y dylid ei ystyried ar gyfer diwrnod 1 o'r holl leoliadau.

Gall dysgwyr ddefnyddio'r cofnod myfyriol i gofnodi eu profiadau a'u cynnydd trwy gydol eu lleoliad.

Gellir defnyddio gwerthusiad diwedd lleoliad i helpu cyflogwyr a dysgwyr i fyfyrio ar y lleoliad a'r hyn a ddysgwyd.