CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Mynediad i e-Lyfrgell GIG Cymru ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol cofrestredig

Gwybodaeth am sut i gael mynediad i adnoddau e-Lyfrgell GIG Cymru.

Beth yw e-Lyfrgell GIG Cymru?

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn gartref i ffynhonnell fwyaf GIG Cymru o wybodaeth ddigidol. Mae'n cynnwys cyfoeth o e-gyfnodolion, e-lyfrau, canllawiau a chronfeydd data.

Mae’r e-Lyfrgell bellach ar gael i weithwyr cymdeithasol a rheolwyr, rheolwyr cartrefi gofal, rheolwyr gofal preswyl i blant, a rheolwyr gofal cartref cofrestredig sy’n gweithio ledled Cymru, i helpu i gefnogi eu hymarfer.

Daw’r mynediad fel rhan o waith cydweithredol parhaus rhyngom ni, gweithwyr gofal cymdeithasol, ymchwilwyr, GIG Cymru a gwasanaethau llyfrgell Llywodraeth Cymru.

Trwy'r cydweithrediad hwn, mae'r casgliadau e-Lyfrgell wedi tyfu drwy ychwanegu deunydd pwnc gofal cymdeithasol newydd, gan gynnwys cronfeydd data, e-lyfrau ac e-gyfnodolion.

Sut i gael mynediad

Gall gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol gael mynediad i'r e-Lyfrgell trwy greu cyfrif OpenAthens GIG Cymru.

Bydd angen i chi ddewis ‘Gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol’ o’r rhestr o sefydliadau ar y dudalen cofrestru. Mae hyn yn sicrhau bod eich ffurflen yn cael ei phrosesu'n gywir.

Unwaith y bydd y cyfrif wedi’i awdurdodi, byddwch yn gallu cael mynediad i'r e-Lyfrgell ar eich dyfais ddewisol drwy’r dudalen ‘Mewngofnodi’.

Argymhellion

Mae tîm yr e-Lyfrgell yn croesawu awgrymiadau am adnoddau y gellid eu hychwanegu at y gwasanaeth.

Defnyddiwch y ffurflen gyswllt ar wefan yr e-Lyfrgell i wneud argymhelliad.

Angen mwy o wybodaeth?

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch elibraryaccess@socialcare.wales.