CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ffioedd

Gwybodaeth am ffioedd cofrestru. Manylion am sut i dalu a faint fydd ffioedd yn codi nesaf a phryd y bydd hynny’n digwydd.

Beth yw ffioedd

Mae’n rhaid i chi dalu ffi i wneud cais i gofrestru, a bydd angen i chi dalu ffi flynyddol bob blwyddyn a ffi adnewyddu bob tair blynedd wrth adnewyddu eich cofrestriad.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd eich ffioedd yn ddyledus, faint sydd angen i chi ei dalu a phryd y bydd angen i chi dalu yn eich cyfrif GCCarlein.

Nid ydym yn ad-dalu ffioedd:

  • os yw ceisiadau’n anghyflawn
  • os yw’r cais i gofrestru wedi’i wrthod
  • os ydych yn penderfynu gadael y Gofrestr.

Ffioedd presennol

  • Gweithiwr cymdeithasol (cymwys yn y DU) - ffi cais, ffi flynyddol ac ffi adnewyddu - £ 80
  • Gweithwyr cymdeithasol (cymwysedig y tu allan i'r DU) - nad oes ganddynt lythyr dilysu bydd angen iddynt dalu £350 i ddilysu eu cymhwyster (a ffi ychwanegol o £200 am brawf tueddfryd os bydd yr ymgeisydd yn gofyn amdano)
  • Gweithwyr cymdeithasol sy'n dychwelyd i ymarfer - bydd angen iddynt dalu £200 ychwanegol a'r ffi ymgeisio o £80
  • Rheolwr gofal cymdeithasol - ffi cais, ffi flynyddol ac ffi adnewyddu - £80
  • Gweithwyr gofal cymdeithasol - ffi cais, ffi flynyddol ac ffi adnewyddu - £30
  • Myfyriwr gwaith cymdeithasol - ffi cais a ffi flynyddol - £15.

Sut i dalu

Debyd Uniongyrchol

Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd hawsaf a mwyaf diogel o dalu’ch ffioedd, a gallwch ei drefnu trwy eich cyfrif GCCarlein.

Os ydych yn newid eich cyfrif banc, bydd angen i chi sefydlu cyfarwyddyd trosglwyddo gyda’ch banc neu drefnu Debyd Uniongyrchol newydd gyda ni.

Mae Debydau Uniongyrchol yn cael eu diogelu gan y Warant Debyd Uniongyrchol. Unwaith y mae’r Debyd Uniongyrchol wedi’i sefydlu yn eich cyfrif, gallwn ofyn am ffioedd blynyddol a ffioedd adnewyddu yn uniongyrchol gan eich banc. Os ydych yn gadael y Gofrestr bydd y Debyd Uniongyrchol yn cael ei gau’n awtomatig.

Cerdyn credyd neu ddebyd

Gallwch dalu â cherdyn credyd neu gerdyn debyd trwy eich cyfrif GCCarlein.

Hawlio treth yn ôl

Os ydych yn talu treth yn y DU, gallwch hawlio rhyddhad treth os oes rhaid i chi dalu am ffioedd cofrestru neu bethau eraill y mae angen i chi eu prynu ar gyfer eich gwaith, fel gwisgoedd a chostau teithio ar gyfer y pedair blynedd diwethaf.

Talu heb gyfrif banc yn y DU

Gallwch drosglwyddo arian yn uniongyrchol o’ch cyfrif y tu allan i’r DU trwy ddefnyddio system SWIFT.

Bydd angen y manylion canlynol ar eich banc:

  • Cod didoli: 201876
  • Rhif IBAN: GB83BARC20187640923893
  • Cod SWIFT: BARCGB22

Dylech sicrhau bod eich banc yn defnyddio’ch enw llawn a’ch dyddiad geni fel y cyfeirnod ar gyfer y taliad. Bydd hyn yn ein helpu i weld pwy sydd wedi gwneud y taliad.

Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd a godir gan y banc am wneud taliad SWIFT.

Gall eich banc godi tâl arnoch am gostau SWIFT. Dylech sicrhau bod y tâl hwn wedi’i dalu ac nad yw’n cael ei ddidynnu o’ch ffi gofrestru.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.