CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ein partneriaeth â Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP)

Rydyn ni wedi bod yn ariannu Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) ers mis Ebrill 2023.

Beth yw DEEP?

Mae DEEP yn ddull cyd-gynhyrchu o gasglu, archwilio a defnyddio gwahanol fathau o dystiolaeth wrth ddatblygu polisi ac ymarfer gofal cymdeithasol.

Mae cyd-gynhyrchu yn golygu gweithio gydag unigolion, eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u gofalwyr, a’u cynnwys i sicrhau bod eu gofal a’u cymorth y gorau y gall fod.

Mae dull DEEP yn dod â phobl at ei gilydd i feddwl a siarad am wahanol fathau o dystiolaeth.

Mae’n defnyddio adrodd straeon a dulliau dysgu eraill sy’n canolbwyntio ar sgwrsio i greu a chyflwyno’r dystiolaeth mewn ffordd sy’n ennyn diddordeb.

Mae diffiniad DEEP o dystiolaeth yn cynnwys:

  • tystiolaeth ymchwil
  • doethineb a gwybodaeth ymarferwyr a sefydliadau
  • gwybodaeth a safbwyntiau pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth.

Mae dull DEEP yn ceisio dod o hyd i faterion sy’n rhwystro defnyddio tystiolaeth yn ymarferol a mynd i’r afael â nhw, yn ogystal â meithrin dysgu a datblygiad sy’n cael eu harwain gan y bobl dan sylw, heb eu gorfodi arnynt.

Wedi’i leoli ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor, fe’i datblygwyd trwy brosiect a ariannwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Roedd y prosiect hwnnw’n canolbwyntio ar ddefnyddio tystiolaeth i wella bywydau pobl hŷn ag anghenion cymorth uchel yng Nghymru. Ers hynny mae DEEP wedi’i ddatblygu ymhellach a’i roi ar waith ar draws gwasanaethau oedolion a phlant.

Beth mae DEEP wedi'i gyflawni hyd yn hyn?

Mae dynesiadau a dulliau DEEP wedi cael eu defnyddio i gefnogi dysgu a datblygu ar draws ystod o wasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd, gan gynnwys:

  • cymorth i ofalwyr di-dâl drwy ailfeddwl ac ailfodelu ymagweddau at ofal seibiant
  • prosiectau datblygu cymunedol wedi'u cyd-gynhyrchu gyda phobl sy'n defnyddio gwasanaethau
  • offeryn i gefnogi cofnodi sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, sy’n golygu nodi’r canlyniadau sy'n bwysig i bobl a chofnodi a yw’r canlyniadau hyn wedi’u cyflawni
  • polisi cenedlaethol sy’n ymwneud â phobl sy’n byw gyda dementia.

Pam ydym ni'n partneru â DEEP?

Mae gennym gylch gwaith gan Lywodraeth Cymru i gefnogi pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i ddefnyddio ymchwil a data ac i ddod o hyd i ffyrdd o arloesi.

Mae Fframwaith Perfformiad a Gwella Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a’u partneriaid ddangos sut y maent yn defnyddio tystiolaeth wrth ymarfer, cynllunio a llunio polisïau. Mae'n gofyn iddynt fynd y tu hwnt i ddangosyddion perfformiad i archwilio profiad a chanlyniadau'r bobl y maent yn eu cefnogi.

Credwn y gall defnyddio dulliau DEEP gefnogi pobl sy’n gweithio ar draws gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol gyda’r offer i archwilio a gwneud synnwyr o dystiolaeth gyda’i gilydd.

Beth allwn ni ei gyflawni gyda'n gilydd?

Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda DEEP ers sbel, ond mae’r berthynas honno wedi’i chryfhau gan ein partneriaeth newydd.

Bydd y ffocws ar ein gwaith ym maes sgiliau ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer pobl sy'n gweithio ar draws gofal cymdeithasol.

Gyda'n gilydd byddwn yn:

  • cynnig hyfforddiant byr ar egwyddorion a dulliau DEEP
  • datblygu cyfleoedd dysgu ar gyfer sgiliau adrodd stori
  • datblygu cyfleoedd dysgu ar gyfer sgiliau gwerthuso
  • cefnogi ac adeiladu ein Cymuned Dystiolaeth, sy'n dod â phobl ynghyd sy'n ymchwilio i ofal cymdeithasol, yn gweithio ynddo ac yn ei ddefnyddio
  • datblygu ein cymunedau ymarfer eraill, gan gynnwys un ar gyfer gofal sy’n seiliedig ar le ac un ar gyfer unigolion cyfrifol.

Cyrsiau ar-lein am ddim

Eisiau gwybod mwy?

Ewch i wefan DEEP am ragor o wybodaeth.