CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Newid eich cofrestriad neu gwneud cais am gofrestriad arall

Mae'n bosib y bydd angen i chi newid eich cofrestriad os ydych chi'n gweithio mewn mwy nag un rôl gofrestredig neu'n newid eich rôl.

Os ydych chi'n gweithio mewn mwy nag un rôl sy’n gofyn eich bod yn cofrestru gyda ni, neu os ydych chi'n newid o un rôl gofrestredig i rôl arall, bydd angen i chi newid eich cofrestriad.

Ni fydd pob newid mewn cyflogaeth yn gofyn i chi newid eich cofrestriad, ond os ydych chi’n gweithio mewn lleoliad gwahanol neu mewn gwahanol fath o rôl, gall fod angen i chi newid eich rôl gofrestredig.

Er enghraifft, os ydych chi wedi newid o

  • weithio mewn gofal cartref, i weithio mewn cartref gofal (neu i’r gwrthwyneb)
  • gweithio gyda phlant, i weithio gydag oedolion mewn cartref gofal (neu i’r gwrthwyneb)
  • bod yn weithiwr i fod yn rheolwr (neu i’r gwrthwyneb).

(Nid oes angen bob amser i ddirprwy reolwyr newid eu cofrestriad, felly holwch eich rheolwr llinell os nad ydych chi’n siŵr).

Hefyd, bydd angen i chi newid eich cofrestriad os ydych chi’n gweithio mewn mwy nag un math o rôl ofalu. Er enghraifft, os ydych chi’n weithiwr gofal cartref ac yn weithiwr cartref gofal.

Sut i newid eich rôl gofrestredig

Os bydd angen i chi newid eich rôl gofrestredig, gall fod angen i chi gwblhau cymhwyster sy’n wahanol i’r cymhwyster ddefnyddioch chi i gofrestru’n flaenorol. Bydd eich rheolwr llinell yn gallu’ch helpu i gadarnhau. Gallwch ddysgu rhagor am y cymwysterau sydd eu hangen arnoch chi i gofrestru ar ein Fframwaith cymwysterau.

Gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif GCCarlein yma ac eir â chi i’r dudalen berthnasol lle y gallwch wneud cais am newid eich cofrestriad neu wneud cais am gofrestriad arall.