CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Telerau ac amodau ein gwasanaeth anogaeth arloesedd

Drwy gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth anogaeth arloesedd, rydych chi'n cytuno i'r telerau ac amodau canlynol: 

1. Cymhwysedd 

Mae'r gwasanaeth anogaeth arloesedd ar gyfer pobl mewn rolau gofal cymdeithasol yng Nghymru sy'n gweithio'n weithredol i arloesi neu wella eu harferion i ddarparu gwasanaethau gofal gwell i'r bobl sy'n eu defnyddio. 

Mae'r gwasanaeth ar agor i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol o: 

  • awdurdodau lleol 
  • ddarparwyr preifat/annibynnol o wasanaethau gofal ar gyfer oedolion a phlant 
  • y trydydd sector/gwirfoddol - elusennau cofrestredig sy'n gweithredu yng Nghymru 
  • Cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru - sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru

2. Ceisiadau  

Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried ar ôl derbyn ffurflen mynegi diddordeb wedi'i chwblhau.

Mae cyflwyno ffurflen mynegi diddordeb yn dangos eich bod chi'r ymgeisydd/ymgeiswyr yn cytuno i'r telerau ac amodau hyn. 

Bydd anogwyr yn cael eu dyrannu gan y rheolwr anogaeth arloesedd ar ôl trafod gyda phanel dethol. Byddwch yn derbyn cadarnhad drwy e-bost wedi i chi gyflwyno'ch cais, ac ar ôl i benderfyniad cael ei wneud. Ni dderbynnir archebion dros y ffôn. 

Nid yw cyflwyno ffurflen mynegi diddordeb yn gwarantu anogaeth.

3. Cadarnhad 

Bydd ymgweiswyr yn derbyn cadarnhad ein bod wedi derbyn eu cais drwy e-bost, a bydd cadarnhad o'r penderfyniad yn cael ei wneud o fewn 21 diwrnod. 

Os yw anogwr wedi'i ddyrannu, byddant mewn cysylltiad i drefnu trafodaeth cyn anogaeth ac i drefnu amserlen ar gyfer pryd y bydd anogaeth yn digwydd. 

4. Ein cyfrifoldeb i ddiogelu eich data  

Rydyn ni wedi cofrestru fel rheolwr data gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

At ddibenion y gwasanaeth hwn, rydyn ni'n  casglu a phrosesu'r wybodaeth hon fel rhan o'n rhwymedigaethau cyfreithiol. O dan adran 69 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ("y Ddeddf"), gallwn roi cyngor neu gymorth arall (gan gynnwys grantiau) i unrhyw berson sy'n darparu gwasanaeth gofal a chymorth at y diben o annog gwelliant yn narpariaeth y gwasanaeth hwnnw.

Mae'r wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio at y dibenion canlynol: 

  • prosesu ceisiadau  
  • cadw rhestr o ymgeiswyr 
  • cysylltu â chi am y gwasanaeth anogaeth arloesedd  
  • rhoi gwybod i chi am hyfforddiant, dysgu ac adnoddau perthnasol sy'n ymwneud â'r gwasanaeth anogaeth arloesedd   
  • gweithgareddau diagnostig a hyfforddi 
  • darparu adborth ar y gwasanaeth anogaeth arloesedd a bod yn rhan o'i werthusiad 
  • gwahoddiadau i fynychu digwyddiadau a rhwydweithio 
  • llunio ystadegau at ddibenion monitro ac adrodd 

Efallai y byddwn yn rhannu'r wybodaeth hon gyda: 

  • panel dethol 
  • unigolion sy'n ymwneud â darparu'r gwasanaeth anogaeth arloesedd  
  • cyflenwyr trydydd parti sy'n ymwneud â gwerthuso'r gwasanaeth anogaeth arloesedd.

Mae gennych hawliau o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 i reoli sut rydyn ni'n defnyddio'ch data, drwy ofyn i ni ei newid, ei ddileu neu gyfyngu ar sut rydyn ni'n ei ddefnyddio. I wneud hyn, cysylltwch â Kate Salter, ein swyddog diogelu data, ar kate.salter@gofalcymdeithasol.cymru. 

5. Cymhwyso safonau cyfle cyfartal i'n prosesau mynegi diddordeb a dethol  

5.1 Mae'r safonau hyn yn gosod allan y nodau a'r amcanion wrth gynnal a hyrwyddo cyfle cyfartal, a chyfrifoldebau'r anogwyr a thîm Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r tîm anogaeth arloesedd, ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi ymrwymo'n llawn i fabwysiadu a hyrwyddo egwyddorion allweddol a threfniadau gwaith y safonau hyn. 

5.2 Mae cyfle cyfartal yn cael ei gydnabod gan Ofal Cymdeithasol Cymru fel hawl sylfaenol i bob defnyddiwr, a chan y rhai sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau anogaeth. 

5.3 Ni fydd unrhyw anogwr nac unigolyn/tîm yn cael triniaeth lai ffafriol yn ystod mynegi diddordeb, cyfnodau dethol na sesiynau anogaeth, ar sail hil, crefydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu oedran. 

5.4 Mae cyfle cyfartal yn cael ei gydnabod gan dîm Gofal Cymdeithasol Cymru i fod o fudd cadarnhaol i ddysgu. 

5.5 Gwneir anogwyr drwy hyn yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau posibl dros sicrhau bod y safonau hyn yn cael eu hyrwyddo yn ystod eu proses sefydlu. Disgwylir iddynt fod yn effro i arfer gwahaniaethol, gwirioneddol neu bosibl, ganddynt hwy eu hunain ac eraill sy'n ymwneud â hwyluso gweithgareddau anogaeth mewn unrhyw ffordd. 

5.6 Gall unrhyw ymarfer y mae'r tîm anogaeth arloesedd  yn ei arsylwi/ystyried sy'n mynd yn groes i'r safonau hyn arwain at anogwyr yn tynnu eu cefnogaeth i brosiect yn ôl. 

5.7 Bydd prosesau yn cael eu cynllunio i gefnogi'r safonau hyn. 

5.8 Mae gan unrhyw anogwr, grŵp neu unigolyn yr hawl i godi unrhyw agwedd o'r gweithgareddau anogaeth yn ffurfiol os ydyn nhw'n credu eu bod wedi dioddef gwahaniaethu neu aflonyddu. 

5.9 Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru, yn rheolaidd, yn monitro gweithrediad y polisi hwn a chanlyniadau ei gais.

6. Ein cynnig iaith  

Rydyn ni'n cynnig ein holl wasanaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Rydyn ni'n croesawu ceisiadau ar gyfer ein gwasanaeth anogaeth arloesedd yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Ni fyddwn yn trin un iaith yn fwy ffafriol na'r llall.

Byddwn yn defnyddio eich dewis iaith i gefnogi sut mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnig i chi.

Os nad ydych yn hapus gyda sut mae'r gwasanaeth wedi cael ei ddarparu i chi drwy'r Gymraeg, cysylltwch ag Angharad Dalton, rheolwr y tîm anogaeth arloesedd, a byddwn yn ymateb i'ch pryderon. 

7. Cwynion 

Os nad ydych chi'n hapus gyda safon y gwasanaeth anogaeth arloesedd sy'n cael ei ddarparu, gallwch naill ai gysylltu ag Angharad Dalton neu Lisa Trigg, ein cyfarwyddwr cynorthwyol ymchwil, data ac arloesi, neu gallwch gwblhau ein ffurflen gwyno.