CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Adroddiad newydd yn dangos bod bron i 85,000 o bobl yn gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru
Newyddion

Adroddiad newydd yn dangos bod bron i 85,000 o bobl yn gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae adroddiad newydd rydyn ni wedi’i gyhoeddi yn datgelu bod tua 84,134 o bobl yn gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Fe wnaethom ni gasglu data ar gyfer Adroddiad y gweithlu gofal cymdeithasol gyda chymorth awdurdodau lleol a darparwyr a gomisiynwyd yn ystod haf 2022.

Dyma’r ail waith i ni gasglu data am y gweithlu gofal cymdeithasol cyfan yng Nghymru fel un ymarferiad.

Fe wnaethom ni newid y broses gasglu ar gyfer 2022 yn seiliedig ar yr hyn a ddysgom o'r flwyddyn flaenorol. O ganlyniad, cawsom ddata o ansawdd uwch.

Roedd hyn yn golygu y gallem wneud amcangyfrifon mwy cywir y tro hwn, ond mae'r newidiadau hefyd yn golygu ei bod yn anodd cymharu ffigurau 2022 yn gywir â ffigurau 2021.

Dychwelodd pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ddata i ni, ynghyd â 68 y cant o ddarparwyr a gomisiynwyd – sy’n cynnwys busnesau masnachol a sefydliadau di-elw a’r trydydd sector.

Dyma rai o brif ganfyddiadau’r arolwg:

  • mae 63 y cant o'r gweithlu gofal cymdeithasol yn gweithio i ddarparwyr a gomisiynwyd
  • gofal preswyl i oedolion yw rhan fwyaf y sector, gyda gweithlu amcangyfrifedig o 29,100 o bobl
  • mae 80 y cant o'r gweithlu yn cael ei chyflogi ar gytundeb parhaol
  • yn 2022, ymunodd 226 yn fwy o bobl â’r sector nag a adawodd
  • cofnodwyd 5,323 o swyddi gwag, sy'n cyfrif am naw y cant o gyfanswm y gweithlu
  • roedd 703 o swyddi gwag yn nhimau gwaith cymdeithasol rheng flaen, sef 16.5 y cant o’r holl swyddi gwag ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru
  • collwyd 214,941 o ddyddiau i salwch ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol yn 2022
  • mae 82 y cant o’r gweithlu yn fenywod
  • mae 95 y cant o'r gweithlu o gefndir ethnig gwyn
  • mae gan 29 y cant o'r gweithlu rywfaint o allu yn yr iaith Gymraeg.

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cipolwg gwych i ni o’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, ond mae hefyd yn amlygu rhai o’r heriau y mae’r sector yn eu hwynebu – yn enwedig o ran lefelau swyddi gwag a salwch.

“Mae’r gyfradd uchel o swyddi gwag yn rhoi straen pellach ar sector sydd eisoes dan bwysau oherwydd y galw cynyddol am wasanaethau gofal cymdeithasol, ac mae hyn yn ei dro yn golygu bod pobl yn gorfod aros yn hirach am gyngor, asesiadau a chymorth.

“Mae’n newyddion cadarnhaol bod cael data fel hyn yn golygu y gallwn wneud penderfyniadau gwybodus am y ffordd orau o gefnogi’r sector i oresgyn yr heriau hynny a chwrdd ag anghenion y boblogaeth.”

Ychwanegodd Sarah McCarty, ein Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu: “Dyma’r ail flwyddyn i ni gynnal y casgliad data gweithlu blynyddol ein hunain, ac rydyn ni’n gweithio gyda chyflogwyr i wella’r broses ac ansawdd y data.

“Rydyn ni hefyd eisiau gwella sut mae ymchwil a data yn cael eu defnyddio i helpu i ddylunio a darparu gwasanaethau. Yn ystod y misoedd nesaf byddwn ni’n lansio ‘cyfres mewnwelediadau gweithlu’ i rannu’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu o rywfaint o’r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym ni am y gweithlu yng Nghymru.”

Byddwn ni’n casglu data ar gyfer fersiwn 2023 yr adroddiad tan ddiwedd mis Gorffennaf.

Ewch i’n tudalen wybodaeth i ddarganfod mwy am gasgliad eleni ac i gael cymorth i anfon data eich sefydliad atom.

Darllenwch yr adroddiad