CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Y Byrddau Diogelu Rhanbarthol

Mae'r dudalen hon yn esbonio beth yw'r Byrddau Diogelu Rhanbarthol, a'u cyfrifoldebau.

Mae’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol yn gweithredu o dan Ran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae’r fframwaith hwn yn galluogi’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol i gyflawni eu cyfrifoldebau deddfwriaethol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Bydd y Byrddau yn:

  • mabwysiadu'r safonau a'u cynnwys mewn polisïau a phrosesau diogelu rhanbarthol
  • atgyfnerthu sut y dylid defnyddio'r safonau i ddylunio, datblygu, cyflwyno, monitro a gwerthuso hyfforddiant, dysgu a datblygiad
  • annog defnydd o'r safonau a'r fframwaith i osod disgwyliadau clir ar gyfer darparwyr hyfforddiant, dysgu a datblygiad
  • bod yn gyfrifol am nodi hyfforddwyr priodol, hyderus, cymwys a phrofiadol i ddarparu'r rhaglenni dysgu.

Gallwch ddod o hyd i restr lawn o swyddogaethau’r Byrddau ar wefan GOV.UK: Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015.