CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Pam y gwnaethom ysgrifennu'r fframwaith

Mae'r dudalen hon yn esbonio pam y gwnaethom ysgrifennu'r fframwaith.

Mae'r fframwaith hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu yn helpu ymarferwyr i weithredu:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddfwriaeth Deddf Plant 1989
  • Gweithdrefnau Diogelu Cymru
  • y canllawiau diogelu statudol.

Fe ysgrifennom y fframwaith er mwyn:

  • hyrwyddo dealltwriaeth gyffredin o egwyddorion, rolau a chyfrifoldebau diogelu
  • hyrwyddo diwylliant o ddysgu a datblygu sy’n amlygu gwybodaeth a sgiliau’r ymarferydd
  • lledaenu dysgu oddi wrth:
    • Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl (bydd y rhain yn disodli adolygiadau ymarfer oedolion, adolygiadau ymarfer plant, adolygiadau lladdiadau domestig, adolygiadau lladdiadau iechyd meddwl ac adolygiadau lladdiadau gydag arfau ymosodol)
    • adolygiadau rheoli achos, pan fo angen.
  • helpu i wneud sefydliadau'n fwy effeithlon
  • gwneud y mwyaf o ymrwymiadau i gydweithio trwy hyfforddiant, dysgu a datblygiad aml-asiantaeth
  • gwneud y mwyaf o gyfleoedd i gomisiynu hyfforddiant, dysgu a datblygiad arbenigol a phwrpasol
  • cefnogi rhanbarthau a sefydliadau i nodi adnoddau sydd eu hangen i gyflwyno neu gomisiynu hyfforddiant, dysgu a datblygu newydd.

Mae angen i sefydliadau ddefnyddio'r fframwaith er mwyn:

  • gwneud yn siŵr bod yna ddull cenedlaethol cyson o hyfforddi, dysgu a datblygu
  • cefnogi rhanbarthau a sefydliadau i nodi adnoddau sydd eu hangen i gyflwyno neu gomisiynu hyfforddiant, dysgu a datblygu newydd
  • sicrhau bod pobl yn cael yr hyfforddiant, y dysgu a'r datblygiad cywir ar yr amser cywir (gan gynnwys cyfleoedd cynefino a gloywi)
  • cefnogi datblygiad cymwyseddau ym maes diogelu
  • dod o hyd i ffyrdd newydd o hyfforddi, dysgu a datblygu sy'n bodloni anghenion gweithlu cynyddol ystwyth
  • datblygu ffyrdd newydd ac arloesol o gyflwyno hyfforddiant, dysgu, addysgu a datblygu i ddiwallu anghenion gweithlu cynyddol ystwyth
  • datblygu ffordd gyson o wirio pa mor effeithiol yw hyfforddiant, dysgu a datblygiad diogelu, a pha mor dda y caiff ei wneud.