CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Atodiad 2: yn gryno: anghenion hyfforddi

Grŵp A

Hyfforddiant cychwynnol

  • Cwblhau'r modiwl e-ddysgu cyn dechrau gweithio, neu fel rhan o'r cyfnod sefydlu.

Hyfforddiant gloywi

  • Bob tair blynedd.
  • Yn dilyn newid i ddeddfwriaeth diogelu.
  • Pan fydd cyflogwr neu reolwr yn dweud bod ei angen.

Faint o oriau?

  • Un i dair awr.

Grŵp B

Hyfforddiant cychwynnol

  • Fel rhan o gyfnod sefydlu neu brawf (chwe mis cyntaf).
  • Efallai y bydd angen gwneud hyfforddiant ar bynciau penodol sy'n berthnasol i'r rôl, os yw'r cyflogwr neu'r rheolwr yn meddwl bod angen hynny.

Hyfforddiant gloywi

  • Lleiafswm o dair blynedd.
  • Os oes newid i gyfraith diogelu.
  • Pan fydd cyflogwr neu reolwr yn dweud bod ei angen.
  • Gall hyn gynnwys dysgu a datblygu rôl-benodol ehangach sy'n benodol i'r rôl.

Faint o oriau?

  • Lleiafswm o chwe awr, y gellir ei wneud mewn un neu fwy o sesiynau.

Grŵp C

Hyfforddiant cychwynnol

  • Unrhyw hyfforddiant y mae'r rheolwr cyflogi yn meddwl sydd ei angen cyn iddynt ddechrau eu rôl.
  • Wyth awr yn ystod y cyfnod prawf (chwe mis cyntaf), ac unrhyw ddysgu ychwanegol sy'n benodol i'r rôl.

Hyfforddiant gloywi

  • Yr hyfforddiant generig.
  • Dysgu sy'n benodol i'r rôl.
  • Yn cael ei ddiweddaru bob tair blynedd.

Faint o oriau?

  • O leiaf wyth awr o’r hyfforddiant generig, ynghyd â hyfforddiant sy'n benodol i'r rôl.

Grŵp D

Hyfforddiant cychwynnol

  • O leiaf wyth awr yn ystod y cyfnod prawf (chwe mis cyntaf).
  • Unrhyw ddysgu sy'n benodol i'r rôl.

Hyfforddiant gloywi

  • Dysgu sy'n benodol i'r rôl, dros ddwy i dair blynedd.

Faint o oriau?

  • O leiaf 24 awr dros dair blynedd.

Grŵp E

Hyfforddiant cychwynnol

  • Lleiafswm o chwe mis.

Hyfforddiant gloywi

  • Cynnal log DPP ffurfiol i gofnodi dysgu a datblygiad dros dair blynedd.

Faint o oriau?

  • Lleiafswm o 24 awr dros dair blynedd.

Grŵp F

Hyfforddiant cychwynnol

  • Modiwl e-ddysgu cyn dechrau gweithio, neu fel rhan o sefydlu neu gyfnod prawf (chwe mis cyntaf).

Hyfforddiant gloywi

  • E-ddysgu Grŵp A
  • Datblygiad gloywi pwrpasol bob tair blynedd (o leiaf).

Faint o oriau?

  • Lleiafswm o chwe awr.