CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cymwysterau i gefnogi hyfforddiant, dysgu a datblygiad

Trosolwg o gymwysterau hyfforddiant, dysgu a datblygiad.

Mae’r rhan fwyaf o gymwysterau galwedigaethol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru yn cael eu darparu gan ddarparwyr dysgu sydd wedi’u cymeradwyo gan gonsortiwm sy’n cynnwys City & Guilds a CBAC (y consortiwm).

Mae’r consortiwm yn rheoli ansawdd y cymwysterau ac yn cael ei oruchwylio gan y rheoleiddiwr cymwysterau, Cymwysterau Cymru.

Mae'r cymwysterau hyn yn cynnwys cynnwys diogelu sy'n adlewyrchu rolau a chyfrifoldebau.

Mae'r rolau a'r cyfrifoldebau hyn yn unol â'r grwpiau ymarferwyr yn y Safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol.

Mae prifysgolion a cholegau hefyd yn cynnal cymwysterau galwedigaethol.

Sicrheir eu hansawdd gan fframweithiau cymwysterau addysg uwch cyrff dyfarnu graddau'r DU.

Mae gennym adnoddau diogelu, gan gynnwys:

  • Modiwl e-ddysgu Grŵp A
  • Pecyn hyfforddi diogelu sylfaenol Cymru Gyfan.